Heddluoedd Cymru'n ymchwilio i achosion chwistrellu

  • Cyhoeddwyd
Pobl yn dawnsio mewn clwb nosFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae heddluoedd Cymru wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i achosion o sbeicio drwy chwistrellu yn dilyn wythnos o brotestiadau.

Cafodd 11 achos o sbeicio drwy chwistrellu eu hadrodd i heddluoedd Cymru yn ddiweddar.

Cafodd naw achos eu hadrodd i Heddlu De Cymru a dau achos i Heddlu Dyfed-Powys.

Cafodd 56 achos o sbeicio drwy chwistrellu eu hadrodd i heddluoedd ar draws y DU yn ystod Medi a Hydref, yn ogystal â 198 achos o sbeicio diodydd, yn ôl Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu.

Doedd dim achosion o sbeicio drwy chwistrellu wedi eu hadrodd i Heddlu Gogledd Cymru na Heddlu Gwent.

Mae'r naw achos gafodd eu hadrodd i Heddlu De Cymru yn amrywio o deimlo pigiad bach neu fraich poenus, neu bod marc ar y fraich, meddai'r llu.

Dywedon nhw eu bod yn gweithio gyda chlybiau nos a bariau i'w rhybuddio am ddulliau o sbeicio a gofyn iddynt fod yn wyliadwrus iawn ar hyn o bryd.

Mae'r llu yn annog unrhyw un sydd yn credu eu bod wedi cael eu sbeicio i gysylltu â'r heddlu.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dal i ymchwilio i'r ddau achos gafodd eu hadrodd iddynt.

'Methu mwynhau rhagor'

Fe gafodd protestiadau 'Girls Night In' eu trefnu yn dilyn nifer o achosion diweddar o sbeicio, gan gynnwys honiadau o sbeicio drwy chwistrellu.

Gyda phryderon fod sbeicio ar gynnydd, fe wnaeth pobl foicotio clybiau nos a bariau mewn sawl dinas, gan gynnwys Caerdydd ac Aberystwyth.

Dywedodd un fyfyrwrwaig wnaeth brotestio yn Aberystwyth, Cerys Davage, nad ydy hi a'i ffrindiau yn medru mwynhau noson allan rhagor am eu bod yn "paranoid" am gael eu sbeicio.

Beth ddylwn i wneud os yw fy ffrind wedi'i sbeicio?

Mae symptomau sbeicio yn aml yn debyg i fod yn feddw, megis siarad yn aneglur, teimlo'n sâl, yn flinedig neu wedi drysu, a cholli ymwybyddiaeth.

Os ydych chi'n meddwl bod eich ffrind wedi cael ei sbeicio, cyngor Drinkaware, dolen allanol yw i aros gyda nhw, galw am ambiwlans os yw eu cyflwr yn gwaethygu, a'u hannog i beidio yfed mwy o alcohol.