Pum munud gyda Justin Melluish, actor Craith

  • Cyhoeddwyd
Justin yn chwarae rhan Glyn Thomas yn CraithFfynhonnell y llun, S4c
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhan Justin yn Craith a'i berthynas gyda'i frawd yn un o straeon canolog y gyfres ddiweddaraf

Mae cael un o'r prif rannau yn y gyfres ddrama ditectif Craith ar S4C wedi gwireddu breuddwyd o actio ar deledu i Justin Melluish, yr actor o'r Wyddgrug sydd â syndrom Down.

Mae Justin yn chwarae rhan Glyn Thomas sy'n byw gyda'i frawd cythryblus Siôn (sy'n cael ei bortreadu gan Sion Ifan) yn y drydedd gyfres, a'r olaf, yn y ddrama noir Gymreig.

Sut wnest ti ddod yn actor?

Dechreuodd y cyfan pan o'n i'n fachgen bach yn gwneud sioeau adref gyda fy chwaer a fy mrodyr. Yn yr ysgol uwchradd mi wnes i TGAU Drama ac ymuno â'r Chocolate Theatre ar ôl ysgol; ro'n i wrth fy modd yno.

Wedyn wnes i astudio'r Celfyddydau Perfformio yn y coleg ac ychydig flynyddoedd wedyn ges i gyfweliad efo hwb Hijinx yn y gogledd - ges i le a dwi wedi bod efo nhw ers saith mlynedd bellach. Maen nhw wedi rhoi lot o gyfleoedd i mi a rŵan, diolch iddyn nhw a Severn Screen, dwi wedi cael fy rhan deledu gyntaf yn Craith.

Ffynhonnell y llun, Jonathan Dunn

Beth wyt ti'n ei hoffi am actio?

Dyma fy angerdd. Dwi wrth fy modd efo'r paratoi, yr ymarfer a gweithio a chwrdd â chymaint o wahanol bobl. Dwi'n caru'r teimlad mae'n ei roi i fi a dwi'n teimlo'n falch o fy hun. Dwi hefyd wrth fy modd yn gweld fy nheulu yn fy ngwylio.

Sut brofiad oedd actio ar set rhaglen deledu am y tro cyntaf?

Wnes i fynd yn orgyffrous ar fy niwrnod cyntaf. Deffrais a chael fy hun yn barod yn gynnar. Ges i fy nghasglu o ngwesty a phan gyrhaeddais i'r lleoliad o'n i jyst methu credu'r peth.... roedd gen i fy 'stafell' fy hun mewn trelar gyda enw fy nghymeriad, Glyn Thomas, ar y drws. Wnaeth hynny wneud i mi deimlo'n hapus ac yn falch iawn. Do'n i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl o gwbl ond ges i'n bendant fy nhaflu i'r pen dwfn efo'r peiriant glaw. Ro'n i'n socian ond garies i ymlaen efo fy job newydd a mwynhau bob munud.

Ffynhonnell y llun, Hijinx

Beth oedd dy hoff brofiad tra'n ffilmio Craith?

Fy hoff brofiad ar Craith oedd ym mhennod chwech gyda fy mrawd, Siôn. Dwi ddim yn dweud dim mwy. Dim spoilers. Dwi eisiau i chi wylio!

Beth sydd well gen ti - actio ar lwyfan neu ar y sgrin?

Dwi'n licio actio ar y teledu fwyaf. Dwi wedi gwneud lot o gynyrchiadau llwyfan, a dwi wrth fy modd efo nhw, ond mae bod ar set a ffilmio cyfres deledu yn ANHYGOEL. Dwi methu aros am yr un nesaf.

Ffynhonnell y llun, Kirsten McTernan
Disgrifiad o’r llun,

Justin yn perfformio yn y sioe Hijinx, Into the Light, lle roedd hefyd yn dangos ei sgiliau dawnsio

Pa actor wyt ti'n ei edmygu a pham?

Un o fy hoff actorion ydy Christopher Eccleston. Dwi'n meddwl mai fo ydy'r Doctor Who gorau ac ro'n i'n ffodus i'w gyfarfod ar set The A Word pan o'n i'n artist cynorthwyol am ddiwrnod. Wnaethon ni chwarae pêl-droed amser cinio ac ar ddiwedd y diwrnod ddaeth o i chwilio amdana'i i gael llun! A wrth gwrs, am mod i'n hoffi James Bond, dwi hefyd yn meddwl bod Daniel Craig yn wych.

Ar wahân i actio, beth ydy dy ddiddordebau eraill?

Fy niddordebau eraill ydy chwarae'r gitâr fas. Dwi mewn band o'r enw Sound Express. Dwi'n hoffi gwylio pêl-droed ar y teledu a chwarae FIFA ar y PlayStation. Dwi'n licio mynd allan am fwyd, mynd i'r sinema a'r theatr a dwi wrth fy modd yn treulio lot a lot o amser efo fy nheulu.

Pa raglen deledu neu ddrama hoffet ti actio ynddi ryw ddydd?

Byddai rhan yn Hollyoaks neu Eastenders neu unrhyw opera sebon yn gwireddu breuddwyd. Fyddwn i'n licio bod mewn mwy o gyfresi teledu ac mewn ffilmiau. Os ydw i'n enwog rhyw ddydd fyswn i'n licio bod ar I'm a Celebrity, Get Me Out of Here!

Pynciau cysylltiedig