Alun Wyn, Moriarty a Faletau i fethu gweddill gemau'r hydref
- Cyhoeddwyd
Bydd capten tîm rygbi Cymru, Alun Wyn Jones yn colli gweddill cyfres yr hydref gydag anaf i'w ysgwydd.
Mae angen llawdriniaeth ar y clo 36 oed a allai ei gadw allan o'r gêm am "fisoedd", meddai Undeb Rygbi Cymru.
Bu'n rhaid iddo adael y cae yn gynnar yn y golled o 54-16 yn erbyn Seland Newydd yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn.
Mae'r blaenasgellwr Ross Moriarty hefyd allan am fisoedd gydag anaf i'w ysgwydd, ac fe fydd yntau angen llawdriniaeth.
Yn ogystal â methu'r gemau yn erbyn De Affrica, Ffiji ac Awstralia, mae'n bosib na fydd y ddau ar gael ar gyfer y Chwe Gwlad ym mis Chwefror chwaith.
I wneud pethau'n waeth, mae'r wythwr Taulupe Faletau wedi'i ryddhau o'r garfan hefyd oherwydd anaf.
Daeth cadarnhad ddydd Mawrth y byddai Faletau yn gadael Caerfaddon ar ddiwedd y tymor i ymuno ag un o ranbarthau Cymru.
Dyw'r Cymro heb allu chwarae i Gaerfaddon o gwbl ers dechrau'r tymor oherwydd anaf i'w ffêr.
Chwaraeodd Jones ei 149fed gêm ryngwladol i Gymru ddydd Sadwrn diwethaf, sy'n record byd.
Dioddefodd ei anaf wrth geisio taclo cefnwr Seland Newydd, Jordie Barrett, yn y 18fed munud.
Fe anafodd yr un ysgwydd yn ystod gêm agoriadol taith y Llewod yn erbyn Japan yn yr haf cyn iddo wella'n syfrdanol i deithio i Dde Affrica a dechrau'r tair gêm brawf.
Mae Jones wedi arwyddo cytundeb gyda'r Gweilch a Chymru tan ddiwedd tymor 2021-22.
Mae blaenasgellwr Caerdydd, Shane Lewis-Hughes, a chlo'r Gweilch, Rhys Davies, wedi cael eu galw i mewn i'r garfan yn sgil yr anafiadau diweddaraf.
Mae prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, eisoes yn gorfod ymdopi heb George North, Leigh Halfpenny, Josh Navidi, Justin Tipuric, Elliot Dee a Dan Lydiate.
Apêl ar gefnogwyr i wisgo masgiau
Yn y cyfamser, mae rheolwr Stadiwm Principality wedi gofyn i gefnogwyr wisgo masgiau y tu mewn i'r stadiwm ar gyfer y gêm yn erbyn y Springboks ddydd Sadwrn.
Roedd cyfyngiadau ar waith ar gyfer y gêm yn erbyn y Crysau Duon ddydd Sadwrn diwethaf, gyda phawb a oedd yn bresennol yn gorfod dangos pas Covid, fel y byddan nhw eto'r wythnos hon.
Ddydd Mawrth, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, fod golygfeydd o bobl yn cymysgu yng Nghaerdydd wedi ei phryderu.
Canmolodd Mark Williams, rheolwr Stadiwm Principality, ymateb y cyhoedd i ofynion mynediad ar gyfer y gêm yn erbyn Seland Newydd, gan ychwanegu nad oedd yn "dasg hawdd" cael pawb i mewn cyn y gic gyntaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2021