Dyfodol gwell i sioeau amaethyddol yn sgil llacio

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Sioe Môn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sioe Môn fel arfer yn un o uchafbwyntiau'r flwyddyn amaethyddol yng Nghymru

Mae wedi bod yn "benderfyniad anodd" ac yn "gyfnod nerfus" i drefnwyr sioeau amaethyddol Cymru sydd wedi mentro cynnal digwyddiadau eleni wrth i'r cyfyngiadau lacio.

Tra bod nifer o sioeau wedi penderfynu peidio â chynnal digwyddiadau yn 2021 oherwydd cyfyngiadau coronafeirws mae rhai trefnwyr, gan gynnwys sioeau Môn, Tregaron a Phenfro yn cynnal digwyddiadau ar raddfa lai.

Fe ddywedodd trefnwyr y Ffair Aeaf yn Llanelwedd hefyd fod y rhagolygon o gynnal sioe yn edrych yn "dda iawn" er bod hynny oll yn ddibynnol ar sefyllfa'r feirws.

Wrth i'r gymuned amaethyddol baratoi i ddod ynghyd unwaith eto mae trefnwyr yn dweud y byddan nhw'n cadw at reolau llym Covid er nad oes rheidrwydd cyfreithiol bellach.

Fe benderfynodd Llywodraeth Cymru lacio cyfyngiadau Covid-19 a symud i lefel rhybudd sero ar 7 Awst.

Tra bod hynny wedi bod yn rhy hwyr i rai sioeau amaethyddol mae 'na rai yn ceisio ailddechrau'r traddodiad cefn gwlad. Sioe Môn oedd un o'r digwyddiadau cyntaf i gael eu cynnal ers dwy flynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sioe Fach Môn ar raddfa tipyn llai na'r primin arferol

Roedd y sioe a gafodd ei chynnal yn ail wythnos mis Awst yn wahanol iawn i'r un arferol gyda'r trefnwyr yn ei galw'n Sioe Fach Môn. Roedd cystadlaethau ceffylau, ieir a hwyaid a chŵn ymhlith yr arlwy.

Ond mi oedd penderfynu bwrw ymlaen â'r sioe ar y ffurf hon yn "benderfyniad anodd" gan ei bod yn amhosib darogan beth fyddai'r sefyllfa coronafeirws.

"Rhan o'r cyngor a gafon ni gan y llywodraeth oedd i beidio cynnal sioe o gwbl ond fel mae pethau wedi mynd ymlaen mae 'na alw wedi bod gan y members i gynnal rhywbeth," meddai John Jones, llywydd Sioe Fach Môn.

"Oedd o'n benderfyniad anodd a neb yn gwybod be fyddai'r agwedd ond mae pethau wedi agor mwy na'r disgwyl ac efallai fydden ni'n wedi gallu cynnal sioe fwy ond doedd neb yn gwybod.

"Y dilemma ydi bod rhaid gwario pres, codi tent, talu deposit, bwcio diogelwch ac mae'r costau sy'n mynd allan o flaen y sioe mor uchel ac efallai gorfod canslo cyn y diwrnod… wel y penderfyniad oedd chwarae'n saff.

"Does gynnon ni ddim yr arian i gamblo," meddai.

"Oherwydd gwariant llai, mae'r gymdeithas mewn lle gwell rŵan na llynedd."

Gyda'r sioe fach yn digwydd dros ddeuddydd mae trefnwyr yn dweud eu bod wedi derbyn lot fawr o gyngor gan y llywodraeth a'u bod yn cadw'r digwyddiad yn ddiogel.

"Pan da chi'n gofyn i'r llywodraeth am arweiniad 'da chi'n cael gormod bron ac 'di o ddim yn specific felly'r gwaith ydi dehongli be mae'r arweiniad yn dweud," meddai Mr Jones.

"Does dim prinder o wybodaeth ond mae o fyny i'r unigolyn [neu'r] cymdeithas i weithio trwyddo fo a dyna'r peth anodd."

'Angen rhywbeth i'r ardal'

Er i Sioe Môn gael ei chynnal ar raddfa lai, mae sioe Tregaron yng Ngheredigion wedi penderfynu manteisio ar y llacio diweddara' a phenderfynu cynnal sioe lawn ddiwedd Awst.

Gan nad oedd angen talu am gostau mawr fel codi pebyll, mae'r trefnwyr yn dweud eu bod nhw wedi bod yn ffodus o allu gwneud y penderfyniad yn hwyr.

Disgrifiad o’r llun,

'Byddwn ni'n cadw at y rheolau er nad oes rhaid," medd Emyr Lloyd, aelod o bwyllgor Sioe Tregaron

"Ni'n lwcus iawn gan fod 'da ni sheds ar y ffarm," meddai Emyr Lloyd, aelod o bwyllgor Sioe Tregaron.

"Doedd na'm rhaid gwneud y penderfyniad mor gloi â phob un arall.

"Mi oedd e'n benderfyniad anodd iawn ond ro'n i'n teimlo bod rhaid gweithio at rywbeth i'r dre ac i'r ardal."

Tra bod nifer o reolau Covid wedi eu llacio, ble nad oes rhaid mewngofnodi i safleoedd gyda phrofi ac olrhain na chadw at reolau ymbellhau cymdeithasol, mae trefnwyr y sioe'n dweud eu bod nhw am weithredu'r rheolau hynny i gadw pawb yn ddiogel.

"Ni'n cadw'r rheolau - felly ni'n gofyn i bobl wisgo mwgwd o fewn y sied, bydd track and trace a bydd sanateiddio ar y cae.

"Mae bach o elfen o nerfusrwydd gan bawb - nid yn unig y cyhoedd. Mae'r pwyllgor eu hunain yn nerfus ond mae'n rhaid bod yn gall a ni'n trio hybu rhywbeth i ailddechrau a gobeithio y daw tyrfa".

Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith yw cynnal y Sioe Aeaf yn 2021

Ym myd sioeau Cymru mi fuodd bwlch enfawr yn sgil penderfyniad i beidio â chynnal y Sioe Frenhinol eleni am yr ail waith yn olynol.

Ond wrth i gyfyngiadau barhau i lacio mae gobeithion ar gyfer y Sioe Aeaf ychydig yn well yn ôl Cadeirydd y Sioe, John Davies.

"Fydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud wythnos nesaf ond mae'r rhagolygon yn edrych yn dda, yn dda iawn wir.

"Yr ewyllys yw cynnal ffair aeaf ddiwedd mis Tachwedd eleni os yw popeth arall yn aros yr un peth," meddai.

"Fe fydd na ffair aeaf mor arferol â phosib yn cymryd lle yn ystod diwedd Tachwedd.

"Mae 'na olau ar ddiwedd y twnnel ac mae'r twnnel wedi bod yn hir iawn," meddai.

Gyda'r lefel rhybudd coronafeirws bellach wedi disgyn i lefel sero y gobaith ydi y bydd dyfodol sioeau amaeth Cymru ychydig yn fwy sefydlog na'r ddwy flynedd a fu.