'Rhaid lleihau effaith newid hinsawdd ar bobl fregus'

  • Cyhoeddwyd
PontypriddFfynhonnell y llun, EPA

Dylai cymunedau Cymru sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan newid hinsawdd yn y dyfodol fod yn ganolog i gynllunio polisïau amgylcheddol.

Dyna'r alwad gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe, sy'n rhybuddio bod angen blaenoriaethu ardaloedd sydd wedi dioddef llifogydd.

Mewn adroddiad ar y cyd gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru mae Ms Howe yn dweud bod cysylltiad clir rhwng yr effaith mae newid hinsawdd yn ei gael ar bobl sy'n byw yn yr ardaloedd fwyaf difreintiedig, ond nad ydi'r cysylltiad hwnnw'n cael ei ystyried yn ddigonol.

"Pobl yn ein cymunedau tlotaf, y rhai sydd wedi eu taro gwaethaf gan Covid-19, sydd â'r gallu lleiaf i roi pethau'n iawn wedi llifogydd gan nad ydyn nhw'n gallu fforddio yswiriant," meddai.

Ffynhonnell y llun, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai pobl yn llai tebygol o allu fforddio yswiriant i ddelio â difrod wedi argyfyngau fel llifogydd, medd Sophie Howe

"Mae hynny'n hynod annheg.

"Mae'r risg yn uwch os ydych chi'n dod o gefndir du, Asiaidd neu leiafrif ethnig, yma ac mewn rhannau eraill o'r byd.

"Rydych chi'n llai tebygol hefyd o allu manteisio ar y swyddi safon uchel y bydd eu hangen arnom ni i fynd i'r afael â newid hinsawdd ac mae angen i hynny newid."

Cyn teithio i uwchgynhadledd COP26 yn Glasgow, mae hi'n galw ar Lywodraeth Cymru i wneud sawl peth:

  • Buddsoddi mewn prosiectau isadeiledd sy'n canolbwyntio ar ddiwydiannau gwyrdd gan gynyddu cyfleoedd ail-hyfforddi;

  • Paratoi cynllun hirdymor i dalu am ddad-garboneiddio tai ac ariannu cynlluniau i leihau tlodi ynni;

  • Cefnogi sefydlu Gwasanaeth Natur Genedlaethol i Gymru;

  • Sicrhau bod yr holl strategaethau amgylcheddol yn lleihau anghydraddoldeb economaidd nawr ac yn y dyfodol drwy ystyried eu heffaith ar wahanol grwpiau a chymunedau cyn gwneud penderfyniadau.

Disgrifiad o’r llun,

Canol Pontypridd dan ddŵr wedi glaw trwm Storm Dennis y llynedd

Fe gafodd ardal Pontypridd ei tharo'n wael gan Storm Dennis yn 2020.

Bu'n rhaid i bobl adael eu cartrefi ac fe achoswyd difrod sylweddol i eiddo.

Mae 'na amcangyfrif bod cost y llifogydd yn Rhondda Cynon Taf tua £180m.

Mae Helen Williams o Gyngor Tref Pontypridd yn gyfrifol am gynllun gardd gymunedol Meadow Street.

"Mis Mawrth y llynedd oedd hi pan wnaethon ni gyfarfod ar Zoom i drafod sefydlu'r ardd," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Helen Williams o Gyngor Tref Pontypridd

"Ni'n byw mewn ardal gyda lot o dai, lot o hewlydd, ma' lot o geir a does dim really lot o lefydd lle ma' pobl yn gallu dod i dreulio amser yn yr awyr agored."

Ers hynny mae'r ardd wedi agor ac mae'r gwirfoddolwyr wedi dechrau adfer y tir a thyfu ffrwythau a llysiau ar y safle.

"Rydyn ni wedi llwyddo i ddenu nifer fawr o wirfoddolwyr i fod yn rhan o rywbeth brilliant," meddai.

"Dechreuwyd y cynllun er mwyn joio bod yn yr awyr iach a dysgu sut i dyfu ffrwythau a dysgu pa fath o bethau gallwn ni fel cymuned ei wneud am newid hinsawdd."

Disgrifiad o’r llun,

Yr un yw'r effaith ar gymunedau, boed y tywydd yn eithafol o sych neu wlyb, medd Indo Kabrah Zwingina

Un o'r gwirfoddolwyr ydi Indo Kabrah Zwingina, sydd yn wreiddiol o Abuja yn Nigeria, ond sydd yn astudio ym Mhrifysgol De Cymru yn Nhrefforest.

"Mae'r tywydd yn wahanol ac felly mae effeithiau newid hinsawdd yn wahanol," meddai.

"Yn Nigeria, mae digoedwigo yn broblem, felly mae pethau yn sych iawn iawn, tra yn fan hyn, mae hi yn wlyb iawn iawn.

"Ond beth sydd yr un fath ydi'r effaith mae'n ei gael ar y bobl leol a'r gymuned leol.

"Beth arall sy'n debyg ydi ein bod ni gyd yn gallu gwneud pethau bach - gwastraffu llai, ailgylchu fwy, diffodd goleuadau diangen - y pethau bach fydd yn cael effaith fawr, os ydan ni gyd yn eu gwneud nhw."

Pynciau cysylltiedig