'Rhaid cyfathrebu'n well i gyrraedd targed sero net'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Tyrbinau gwynt Aman Awel Tawe

Mae angen i lywodraethau Cymru a'r DU gyfathrebu'n fwy effeithiol er mwyn cyrraedd targedau carbon sero net, yn ôl academydd.

Dywed Dr Neal Hockley, uwch ddarlithydd economeg a pholisi amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor, bod y siawns i Gymru fod yn wlad sero net erbyn 2050 yn dibynnu'n helaeth ar "wleidyddiaeth y pwnc".

Yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru fersiwn diweddaraf ei gweledigaeth Cymru Sero Net, dolen allanol.

Mewn cyfweliad a ddarlledir ar raglen Politics Wales, dywedodd Dr Hockley bod ceisio cyrraedd y targedau "yn sicr yn uchelgeisiol".

Ymateb llywodraethau

Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno bod gweithio gyda Llywodraeth y DU yn "bwysig iawn".

Ond dywedodd llefarydd eu bod yn "siomedig ac yn rhwystredig" nad yw Llywodraeth y DU wedi rhannu eu strategaeth hinsawdd.

Ychwanegodd llefarydd: "Er ein bod gyda'r ewyllys orau wedi cymryd rhan mewn amrywiol weithdai ac wedi rhoi gwybodaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fe wnaeth Llywodraeth y DU wrthod rhannu eu strategaeth sero net mewn da bryd cyn ei chyhoeddi."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Ry'n wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth sero net - ein cynllun DU-eang i gwtogi llygredd, sicrhau ynni glân a chreu swyddi mewn diwydiannau newydd.

"Bydd Llywodraeth y DU yn parhau i gysylltu'n rheolaidd a gweinyddiaethau datganoledig wrth i ni gydweithio i gwblhau cyfraniad ein gwlad i newid hinsawdd erbyn 2050."

'Dim cyfathrebu gwych'

Dywedodd Neal Hockley: "Dydw i ddim yn meddwl bod yna gynllun hollol gadarn inni gyrraedd sero net erbyn 2050.

"Ond er tegwch i Lywodraeth Cymru, dydy llawer o'r polisïau sydd eu hangen i ni gyrraedd y nod ddim yn gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru - maent yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

"Un o'r pethau sy'n ddiddorol ynghylch adroddiad Llywodraeth Cymru yw bod hi'n glir bod na ddim cyfathrebu gwych rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar y materion yma, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n gorfod newid."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n anodd darogan a fydd Cymru a'r DU yn cyrraedd eu targedau sero net, medd Dr Neal Hockley

Pan ofynnwyd a yw'n meddwl y bydd Cymru'n cyrraedd y targed erbyn 2050, atebodd: "Dydw i ddim yn gwybod ar hyn o bryd.

"Mae yna gymaint o bethau na allwn ni wybod, a gormod o benderfyniadau anodd sy'n angenrheidiol i fod yn sero net erbyn 2050 - penderfyniadau sydd heb eu gwneud eto, a bydd hynny'n dibynnu ar wleidyddiaeth y pwnc a dydw i ddim am drio darogan gwleidyddiaeth."

Dywedodd Dr Hockley hefyd ei fod yn credu nad ydy'r naill lywodraeth na'r llall "yn glir sut rydan ni am gyrraedd sero net erbyn 2050 ar hyn o bryd".

'Cymru'n esiampl'

Dywedodd yr Arglwydd Deben, cadeirydd pwyllgor newid hinsawdd annibynnol, wrth BBC Cymru nad yw'n meddwl bod Llywodraeth y DU, yn hanesyddol, wedi llwyddo o ran cydweithio'n dda gyda gwledydd a rhanbarthau eraill y DU.

"Rwy'n gobeithio'n fawr bod dyfodiad Michael Gove fel ysgrifennydd cymunedau a chydraddoli yn golygu y bydd yna ymdrech go iawn i gael gwell partneriaeth rhwng y llywodraeth ganolog, y cenhedloedd a llywodraeth leol.

"Rwy'n defnyddio Cymru fel esiampl o hyn oherwydd mae Llywodraeth Cymru wedi creu perthynas ragorol gyda llywodraeth leol - gwell nag unman arall yn y Deyrnas Unedig."