Diffynnydd achos bwyty ddim am roi tystiolaeth

  • Cyhoeddwyd
Wenjing LinFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Wenjing Lin yn nhŷ bwyta Chineaidd ei theulu ar 5 Mawrth eleni

Mae dyn a laddodd merch 16 oed mewn bwyty Chineaidd yn Rhondda Cynon Taf wedi penderfynu peidio rhoi tystiolaeth yn yr achos yn Llys Y Goron Merthyr Tudful.

Mae Chun Xu yn cyfaddef dynladdiad y ferch ysgol Wenjing Lin ond yn gwadu ei llofruddio.

Mae hefyd yn gwadu ceisio llofruddio gŵr mam Ms Lin, Yongquan Jiang.

Dywedodd bargyfreithiwr yr amddiffyn Tom Crowther QC wrth y rheithgor: "Mae Chun Xu am weithredu ei hawl i beidio rhoi na galw am dystiolaeth yn yr achos hwn."

Ffynhonnell y llun, Dimitris Legakis/Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Mae Chun Xu yn gwadu llofruddiaeth Wenjing Lin, a cheisio llofruddio Yongquan Jiang

Pan ofynnwyd gan y barnwr a yw Mr Xu wedi derbyn cyngor y gallai'r rheithgor "weld yn dda i ddod i rai casgliadau" yn sgil y penderfyniad, atebodd Mr Crowther ei fod wedi derbyn cyngor o'r fath.

Dywedodd y barnwr wrth y rheithgor na fydd rhagor o dystiolaeth yn yr achos.

Dechreuodd y rheithgor ystyried eu dyfarniad brynhawn Llun.

Pynciau cysylltiedig