AS yn datgelu iddi gael ei sbeicio yn yr 1980au

  • Cyhoeddwyd
Joyce Watson
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Joyce Watson fod y profiad wedi aros gyda hi am weddill ei hoes

Mae Aelod o'r Senedd wedi datgelu ei phrofiad ei hun o gael ei sbeicio.

Disgrifiodd Joyce Watson o'r Blaid Lafur wrth y Senedd sut aeth yn sâl yn sydyn yn nhafarn ffrind yn agos at ei chartref ym 1982.

"Mae'n brofiad brawychus iawn ac mae'n un sy'n aros gyda chi am oes," meddai.

Daeth ei sylwadau yn ystod dadl dan arweiniad y Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar weinidogion Cymru i gymryd "camau brys" i helpu lleoliadau i hybu diogelwch a hyfforddi staff.

Mae adroddiadau diweddar o sbeicio menywod ifanc ar nosweithiau allan wedi sbarduno ymgyrchoedd i fynd i'r afael â'r mater.

'Gwybod bod rhywbeth o'i le'

"Nid yw sbeicio diodydd yn newydd," meddai Ms Watson, Aelod o'r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.

"Roeddwn i'n byw mewn pentref bach yng Nghymru. Doeddwn i ddim mewn clwb nos. Doedd dim blas arno, a doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd wedi digwydd.

"Ond roeddwn i'n lwcus oherwydd roedd gen i ffrindiau o'm cwmpas ac roedden nhw'n gwybod bod rhywbeth o'i le, ac fe wnaethant sicrhau fy mod yn cyrraedd adref.

"Roeddwn i'n meddwl fy mod i'n sâl, roedden nhw'n meddwl fy mod i'n sâl. Mynegodd fy ffrind bryderon i'm gŵr ac yn y diwedd fe wnes i ddeffro drannoeth."

Roedd y digwyddiad wedi ei gadael yn methu â gweld unrhyw liwiau dros dro ac ni chafodd ei golwg lawn ei hadfer tan "oriau lawer yn ddiweddarach".

Dywedodd nad oedd hi'n gwybod beth oedd wedi digwydd nes iddi siarad amdano gyda'i chwsmeriaid yn ei thafarn ei hun, pan awgrymodd un ohonyn nhw y gallai ei diod fod wedi'i sbeicio.

"Yr hyn rydw i'n ei wybod yw bod dieithryn yn y dafarn benodol honno ar y noson benodol honno - dieithryn gwrywaidd, ac ni ddaeth yn ôl i'r pentref erioed."

"Heb os, mae'n wir ei fod wedi sbeicio'r ddiod honno."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae adroddiadau diweddar o sbeicio menywod ifanc ar nosweithiau allan wedi sbarduno ymgyrchoedd i fynd i'r afael â'r mater

Pasiodd Senedd Cymru gynnig yn "nodi â phryder y cynnydd gofidus mewn achosion o sbeicio mewn lleoliadau ledled Cymru ac yn cydnabod bod hyn yn rhan o broblem ehangach o ymosodiadau rhywiol ac aflonyddu tuag at fenywod sydd wedi'u gwreiddio mewn rhywiaeth a chasineb at fenywod".

'Cyfrifoldeb'

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, wrth y Senedd: "I ddechrau, gadewch i mi ddweud yn glir nad oes cyfrifoldeb ar fenywod i newid eu hymddygiad, y rhai sy'n cam-drin ddylai newid eu hymddygiad eu hunain.

"Nid cyfrifoldeb menywod yw'r troseddau hyn. Mae'r cyfrifoldeb i gyd ar ysgwyddau'r dynion sy'n eu cyflawni.

"Yn ail, i'r rhai sy'n adnabod y troseddwyr. Os ydych chi'n adnabod neu'n gweld person sy'n cyflawni'r troseddau hyn mae dyletswydd foesol arnoch chi i hysbysu'r awdurdodau cyn gynted ag y bo'n ddiogel gwneud hynny.

"Mae dyletswydd arnom ni i gyd yn ein cymunedau i herio ymddygiad amhriodol a chynnig cymorth pan fo'n ddiogel gwneud hynny.

"Mae hyn yn cynnwys grymuso dynion i drafod gyda dynion a bechgyn eraill i herio ymddygiad rhywiaethol a cham-drin ymysg eu ffrindiau, eu cydweithwyr a chymunedau i hyrwyddo diwylliant o gydraddoldeb a pharch."

'Argyfwng'

Dywedodd yr AS Torïaidd dros Ogledd Cymru, Sam Rowlands: "Mae hwn yn argyfwng cenedlaethol, ac mae dyletswydd arnom ni fel gwleidyddion i gadw ein cenedl a'n pobl yn ddiogel.

"Mae sbeicio yn ofnadwy, mae angen ei atal ac mae angen i'r troseddwyr deimlo grym llawn y gyfraith."

Ychwanegodd Sioned Williams, AS Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, bod sbeicio diodydd yn fater sy'n "eithaf llythrennol yn fy nghadw'n effro yn y nos, oherwydd mae gen i ferch 19 oed".