Profion Covid i staff iechyd 'ddim o bwys mawr' medd swyddog

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Lateral flowFfynhonnell y llun, PA Media

Dydy profion Covid dwywaith yr wythnos i staff y Gwasanaeth Iechyd "ddim o bwys mawr yn y darlun ehangach" yn ôl un o brif swyddogion iechyd Cymru.

Dywedodd Dr Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, mai "rhan fach" mewn "ystod enfawr" o fesurau atal yr haint ydy'r profion llif unffordd.

Roedd yn ymateb ar ôl iddi ddod i'r amlwg nad oedd y profion, gafodd eu cyhoeddi yn Rhagfyr 2020, wedi dechrau mewn rhai ysbytai nes Mawrth eleni.

Ychwanegodd Dr Jones bod y profion yn "gyfle arall i staff os ydyn nhw am roi sicrwydd i'w hunain".

'Un o nifer o fesurau'

Daeth i'r amlwg ddydd Mercher nad oedd staff rheng-flaen y gwasanaeth iechyd mewn rhai ysbytai yn cael eu profi'n rheolaidd am Covid-19 tan yn agos at ddiwedd ail don y pandemig.

Dywedodd Cymdeithas Feddygol Prydain bod profi rheolaidd wedi cymryd "rhy hir o lawer" i'w gyflwyno.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Chris Jones bod profion i staff iechyd yn un o nifer fawr o fesurau i ddiogelu cleifion

Ond wrth ymateb ar Wales Live dywedodd Dr Jones nad oedd yn meddwl eu bod "o bwys mawr yn y darlun ehangach".

Pan ofynnwyd iddo a oedd yn dweud ei fod yn fodlon i staff sydd wedi eu heintio weithio mewn ysbytai, dywedodd: "Na. Rhaid i staff sydd â symptomau gadw draw o'r gweithle ac yna mae ystod lawn o fesurau i ddiogelu cleifion.

"Mae'r cyngor ar reoli heintio wedi newid yn fawr.

"Dulliau glanhau, defnydd PPE [offer diogelwch personol], cadw pellter cymdeithasol mewn ysbytai, systemau un ffordd, newidiadau awyru sydd wedi eu gwneud.

"Dyma'r newidiadau helaeth sydd wedi eu gweithredu i geisio amddiffyn pobl rhag cael eu heintio mewn ysbytai."

Mae'n ymddangos bod "diffyg unrhyw gynllun systematig mewn llawer o lefydd" pan ddaw at brofi, meddai Dr Phil Banfield o Gymdeithas Feddygol Prydain.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan ei bod yn "anodd troi'r pethau 'ma 'mlaen dros nos".

Ar Radio Wales, dywedodd bod angen bod yn sicr fod cynllun wedi ei baratoi, profion wedi eu dosbarthu a phawb "ar yr un dudalen".

"Mae'r rhain i gyd yn bethau sy'n cymryd amser i'r gweithredu a dyna pam, o bosib, y gwnaeth hi gymryd ychydig yn hirach na fydden ni wedi hoffi yn nhermau gwneud yn siŵr bod profi yn dechrau cyn gynted â phosib."