Porthladdoedd rhydd: 'Angen i Gymru a'r DU gydweithio'
- Cyhoeddwyd
Mae'n rhaid i lywodraethau Cymru a'r DU "gyfaddawdu" er mwyn dod at ddatrysiad ynglŷn â sefydlu porthladd rhydd yng Nghymru, yn ôl rhai yn y gogledd.
Mae Cyngor Ynys Môn wedi cyhuddo'r ddwy ochr o flaenoriaethu eu "hosgo gwleidyddol".
Byddai porthladd rhydd o fudd i economi'r ynys, yn ôl cwmni o Fôn.
Mae Llywodraeth y DU yn gwadu honiad Llywodraeth Cymru nad ydyn nhw wedi cyflwyno cynllun ar gyfer porthladdoedd rhydd yng Nghymru.
Mae wyth ardal wedi eu pennu i greu porthladdoedd rhydd yn Lloegr.
Yn ôl un cwmni plastigion o Fôn, mi fyddai porthladd rhydd yn eu galluogi i ddatblygu a chreu rhagor o swyddi yn lleol.
Beth yw porthladd rhydd?
Ardaloedd lle nad ydy rheolau trethi a thollau arferol yn cael eu gweithredu yw porthladdoedd rhydd.
Maen nhw'n galluogi mewnforio, creu ac allforio nwyddau heb orfod talu'r trethi mewnforio arferol. Eu bwriad yw denu cwmnïau i'r ardal.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod yn "awyddus" i sefydlu un yng Nghymru, tra bod Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oes "cynnig swyddogol wedi cael ei gyflwyno" ganddynt a'u bod nhw am weld rhagor o fanylion.
'Rhwystredig dros brinder manylion'
Flwyddyn union ers i'r broses o chwilio am safleoedd yn Lloegr ddechrau, mae rhai yn anniddig dros ddiffyg datblygiad yma yng Nghymru.
"Os 'da ni'n gweithio gyda'n gilydd, llywodraeth yn y Senedd ac yn y Tŷ Cyffredin, mae o am fod yn fanteisiol i bobl Môn," meddai Bryan Owen, Swyddog Cynorthwyol Cymunedol Orthios.
Mae cwmni Orthios yn gweithredu ar hen safle Alwminiwm Môn yng Nghaergybi.
Mae dros 130 o weithwyr yno yn troi plastigion i olew ac yn ei allforio mewn tanceri i gwmni Shell yn yr Iseldiroedd, ond mae'r busnes yn awyddus i ddatblygu ac allforio'r olew drwy borthladd Caergybi.
"Mi fyddai gan ein pobl ifanc waith safonol, cyflogau da a bydden nhw ddim yn cael eu prisio allan o ran prynu tai," medd Mr Owen, pe bai porthladd rhydd ar yr ynys.
Yn ôl Mr Owen, mi fyddai porthladd rhydd yn denu busnesau eraill i'r ardal ac o bosib yn cynnig cyfleoedd newydd yn lleol.
Dywedodd y gallai porthladd rhydd fod yn fanteisiol wrth geisio ailgydio mewn safle niwclear ar yr ynys.
Neges debyg oedd gan Gyngor Busnes Gogledd Cymru, a ddywedodd eu bod yn "rhwystredig" wrth weld y broses o sefydlu porthladdoedd rhydd yn Lloegr yn bwrw mlaen tra bod "prinder manylion" yng Nghymru.
"Da ni'n gwybod yn Lloegr fod Llywodraeth y DU wedi clustnodi tua 10 ardal ac mae 'na arian sylweddol yn yr ardaloedd hynny, a da ni'n teimlo'n rhwystredig nad ydy hynny'n digwydd yma," meddai Garffild Lloyd Lewis, aelod o'r Cyngor.
"Da ni'n deall fod 'na wahaniaeth barn rhwng y ddwy lywodraeth, ond er lles yr economi a swyddi yn yr ardal, da ni'n apelio ar y ddwy lywodraeth i ddod at ei gilydd, cyfaddawdu a ffeindio ffigwr sydd efallai ddim cyfystyr yn Lloegr ond fyddai'n ddigon i greu porthladd rhydd yng Nghymru."
'Cwestiynau ond dim atebion'
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi dweud nad ydynt wedi rhoi sêl bendith i gynllun o'r fath.
"Be' da ni'n ei weld ydi lot o osgo gwleidyddol ynglŷn â hyn, a'r ddwy lywodraeth bron iawn ddim yn cyd-weld na'n cydweithio ar y mater," medd deilydd portffolio'r economi, y Cynghorydd Carwyn Jones.
"Mae rhaid inni weld [a] ydy Llywodraeth Cymru am weld porthladd rhydd yma yng Nghymru - ac os ydyn nhw, ai Caergybi fydd o, neu ydyn nhw am eisiau gweld rhywbeth yn ne Cymru fel eu maes awyr yng Nghaerdydd?
"Mae 'na lot fawr o gwestiynau ond dim lot o atebion."
Beth yw'r pryderon?
Yn ôl canllawiau Llywodraeth Prydain mae modd i barth porthladdoedd rhydd ymestyn ar draws ardal o hyd at 27 milltir, gan gynnig gostyngiad a thoriadau i gwmni ar ran tollau mewnforio ac allforio.
Tra bod cefnogwyr y cynllun yn dweud y byddai'n cynyddu gweithgynhyrchu, swyddi ac yn rhoi hwb i ardaloedd sy'n gweld hi'n anodd, mae nifer o bryderon hefyd.
Mae'r rheini sydd yn erbyn y ceisiadau yn dadlau fod denu cwmnïau i ardaloedd yn tynnu buddsoddiad o ardaloedd eraill, gan symud llwyddiant economaidd o un ardal i'r llall.
Mae pryderon hefyd wedi eu codi gan Gyngor Sir Ynys Môn ynglŷn â'u diogelwch ac amodau gweithio yno.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn "siomedig iawn" fod Llywodraeth y DU wedi lansio porthladdoedd rhydd yn Lloegr "heb gynllun cadarn" yma yng Nghymru.
"Rydym wedi bod yn glir bod yn rhaid i borthladdoedd rhydd yng Nghymru dderbyn cefnogaeth ariannol gymharol â Lloegr a bod angen i benderfyniadau ddigwydd ar y cyd," medd llefarydd.
"Mae Llywodraeth y DU yn llwyr ymwybodol nad oes modd i un llywodraeth ddarparu hyn ac mae'n annheg i adael busnesau Cymreig yn y tywyllwch. Does dim cynnig swyddogol wedi cael ei gyflwyno ac rydym yn erfyn ar Lywodraeth y DU i adfer y sefyllfa ar frys".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod wedi gwneud cynnig i Lywodraeth Cymru, a'u bod yn awyddus i gydweithio er mwyn cyflwyno buddiannau porthladdoedd rhydd yng Nghymru cyn gynted â bod modd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2020