'Anafiadau i'w ben a'i wddf' wedi lladd bachgen 10 oed

  • Cyhoeddwyd
Jack LisFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Jack Lis o'i anafiadau wedi'r ymosodiad

Mae cwest wedi clywed fod bachgen 10 oed wedi marw o "anafiadau difrifol i'w ben a'i wddf" ar ôl i gi ymosod arno yng Nghaerffili.

Bu farw Jack Lis o'i anafiadau wedi'r ymosodiad ym Mhentwyn, Penyrheol toc cyn 16:00 ar 8 Tachwedd.

Clywodd y cwest yn Llys y Crwner Casnewydd fod Jack yn chwarae gyda ffrind tu allan i'w gartref, a'i fod wedyn wedi mynd i dŷ'r ffrind.

Dywedodd y crwner Caroline Saunders fod y ci wedi ymosod ar Jack wrth iddo fynd i mewn.

'Yn ein calonnau am byth'

Mae teulu Jack wedi cyhoeddi teyrnged iddo gan ddweud: "Rydym wedi torri'n calonnau. Fydd ein bywydau fyth yr un fath heb Jack.

"Nid yw hyn yn rhywbeth y dylai unrhyw rhiant orfod ysgrifennu.

"Mae gennym cymaint o bethau yr ydym am ddweud am ein bachgen prydferth, ond dydyn nhw ddim yn ddigonol.

"Rydym yn ei garu fwy na all geiriau ddisgrifio. Fe'n gwnaeth ni y rheini a theulu mwyaf balch ar y blaned.

"Bydd yn ein calonnau am byth. Cwsg yn dawel Jack, ein mab perffaith."

Disgrifiad o’r llun,

Mae BBC Cymru'n deall mai ci o'r enw Beast (chwith) oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad

Clywodd y llys fod parafeddygon wedi eu galw, ond nad oedd modd iddo oroesi ei anafiadau ac fe gafodd ei gyhoeddi'r farw am 16:14.

Ychwanegodd y crwner bod amgylchiadau marwolaeth Jack yn "dreisgar ac annaturiol" ac felly fe agorodd gwest ffurfiol i'r farwolaeth.

Yna fe ohiriodd y cwest er mwyn i "ymchwiliadau pellach" ddigwydd.

Bydd y cwest yn ailagor ar ddyddiau eto i'w bennu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae blodau wedi'u gadael ger y fan y bu farw Jack Lis

Mae BBC Cymru'n deall fod y ci, o'r enw Beast, wedi bod yn cael ei gadw mewn cartref yn Aberpennar nes deuddydd cyn yr ymosodiad.

Y gred yw mai Lee Jenkins, 34, oedd yn arfer bod yn berchen ar y ci, a'i fod wedi mynychu cyfweliad gyda'r heddlu o'i wirfodd ddydd Mercher.

Mae Mr Jenkins wedi gwadu bod yn berchen ar Beast, gan ddweud: "Nid fi ydy perchennog y ci 'na. Fe ddywedais i bopeth rwy'n gwybod i'r heddlu. Maen nhw'n gwybod nad oes gen i unrhyw beth i wneud â'r peth.

"Dim fy nghi i yw e ac roedd e wedi cael cartref newydd."

Dywedodd cymydog i Mr Jenkins wrth BBC Cymru fod Beast yn cael ei ddefnyddio ar gyfer bridio, a'i fod wedi cael o leiaf 10 ci bach gyda chi arall Mr Jenkins, Beauty.

Ar 29 Hydref fe wnaeth Mr Jenkins roi hysbyseb ar Facebook yn ceisio cael cartref newydd i Beast, gan ddweud ei fod yn "grêt gyda phobl" ond "nid yw'n hoffi cŵn eraill o gwbl".

Cafodd y ci ei ddifa yn dilyn y digwyddiad.

Pynciau cysylltiedig