Llystad yn gwadu llofruddiaeth Logan Mwangi, 5

  • Cyhoeddwyd
Angharad Williamson a John Cole
Disgrifiad o’r llun,

Mae Angharad Williamson a John Cole wedi'u cyhuddo o lofruddio Logan Mwangi

Mae llystad bachgen pump oed a gafwyd hyd iddo'n farw mewn afon wedi gwadu llofruddiaeth, ond wedi cyfaddef iddo wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Cafwyd hyd i gorff Logan Mwangi, neu Logan Williamson, yn Afon Ogwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 31 Gorffennaf.

Plediodd John Cole, 39, o Sarn, yn ddieuog i lofruddio Logan mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener.

Ond fe blediodd yn euog i wyrdroi cwrs cyfiawnder, cyhuddiad y mae mam y plentyn, Angharad Williamson, yn ei wadu.

Roedd Ms Williamson, a safodd yn y doc wrth ymyl Cole, yn llefain wrth i fanylion y drosedd gael eu darllen allan yn y llys.

Mae hi hefyd wedi'i chyhuddo o lofruddiaeth ond ni wnaeth bledio yn ystod y gwrandawiad diweddaraf.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Logan ei ddisgrifio fel bachgen "caredig, doniol, cwrtais, hardd a chlyfar" mewn teyrngedau wedi'i farwolaeth

Ymddangosodd bachgen 14 oed, nad oes modd ei enwi oherwydd ei oedran, trwy gyswllt fideo o ystafell arall yn y llys.

Plediodd yntau hefyd yn ddieuog i lofruddiaeth Logan ac i gyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae dyddiad yr achos llys wedi'i bennu am y tro ar gyfer mis Chwefror 2022.

Pynciau cysylltiedig