'Pum peth rwyf wedi eu dysgu o gynhadledd COP26'
- Cyhoeddwyd
Mae'r uwchgynhadledd fwyaf yn hanes y Deyrnas Unedig yn tynnu tua'i therfyn, a degau ar filoedd o bobl blinedig o bron i 200 o wledydd wrthi'n gadael Glasgow.
Wedi pythefnos o drafod, maen nhw wedi llwyddo i hawlio cytundeb newydd ar daclo newid hinsawdd.
Parhau mae'r cwestiynau ynglŷn ag a yw'r ddogfen yn ddigon uchelgeisiol.
Ond does dim amheuaeth y bydd penderfyniadau COP26 yn cael effaith ar ein bywydau ni - yn dylanwadu polisïau i dorri allyriadau tŷ gwydr o lefel Llywodraeth y DU i'ch cyngor lleol.
Dwi 'di bod lan yn Glasgow am y pythefnos diwethaf yn adrodd y stori ar ran rhaglenni newyddion BBC Cymru.
Maen nhw wedi gofyn i fi grynhoi pum peth sydd wedi fy nharo yn ystod y cyfnod.
Tipyn o her - ond dyma roi tro arni.
1: Dylanwad pobl ifanc
Doedd Greta Thunberg ddim yn edrych yn falch iawn o 'ngweld i wrth i fi drio bloeddio cwestiwn ati yn ystod gorymdaith o filoedd o blant a phobl ifanc drwy ganol Glasgow.
"What's your message to the world leaders?" - cwestiwn twp mewn gwirionedd, o gofio bod yr ymgyrchydd 18 oed - sbardunodd symudiad streics ysgol byd-eang - wedi gwneud eu safbwynt yn glir.
Dim mwy o "blah blah blah" yn troi'n dipyn o slogan answyddogol i gynhadledd COP26.
Buon ni'n cael mwy o lwyddiant wrth siarad â llysgenhadon newid hinsawdd ifanc Cymru - hwythau'n hynod o brysur yn ystod y pythefnos yn cymryd rhan mewn llu o ddigwyddiadau.
"Mae pobl ifanc wedi dangos gwir arweiniaeth - os nad yw'r sawl sydd mewn grym yn gallu gwneud hynny yna fe ddyle nhw sefyll i'r naill ochr a gadael i ni lenwi eu seddi," oedd neges Molly, 19 oed o Lyn Ebwy.
Rhaid dweud - dyma'r criw mwyaf dawnus i fi eu cyfweld erioed - eu hangerdd a'u dealltwriaeth o'r pwnc yn amlwg.
Gwerth cofio amdanyn nhw - mae'n harweinwyr nesaf ni yn eu plith!
2: Roedd hi werth cynnal cyfarfod go iawn
Roedd dod â degau ar filoedd o bobl o bob cwr o'r byd ynghyd mewn llond llaw o adeiladau yn ystod pandemig yn golygu mesurau diogelwch llym a phrofion Covid dyddiol i bawb oedd yn mynychu.
Ond o gael bod i mewn yn gwylio'r trafodaethau'n digwydd roedd hi'n amlwg i mi pam bod y trefnwyr wedi pwyso i beidio â chynnal y gynhadledd dros Zoom!
"Maen nhw wastad yn dweud ynglŷn COPs bod y sgyrsiau pwysica' yn digwydd yn y coridor a'r siopau coffi," eglurodd yr Athro Mary Gagen, arbenigwr newid hinsawdd o Brifysgol Abertawe.
"Un o'r pethau pwysica' ynglŷn â chynnal COP go iawn os liciwch chi yw bod y sgyrsiau anffurfiol yna yn dylanwadu ar yr hyn sy'n digwydd maes o law yn y prif stafell negydu," meddai.
Wrth i ni weithio un diwrnod fe ddatblygodd 'na ffrae uchel ar y bwrdd drws nesa' rhwng cynrychiolwyr o wahanol wledydd oedd yn amlwg wedi bod yn ceisio chwilio am gonsensws ar ryw fanylyn penodol.
A roedd cael y cyfle i syllu i lygaid pobl a siarad yn uniongyrchol wedi cael effaith ar y gweinidogion oedd yma o Lywodraeth Cymru hefyd.
Fe holon ni'r Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James AS rhai munudau ar ôl iddi gynnal cyfarfod gyda pobl frodorol y Wampis o Beriw.
Roedd hi'n ymddangos wedi'i hysgwyd gan yr hyn yr oedden nhw wedi dweud wrthi am effaith torri coed ar eu tiroedd mewn fforest law.
Heb oedi dim fe gyhoeddodd yn y cyfweliad y byddai'n edrych i newid rheolau caffael cyhoeddus - fel bod yn rhaid i ysgolion, ysbytai a chyrff eraill sicrhau and yw'r bwyd neu nwyddau y maen nhw'n ei brynu o dramor wedi cyfrannu at ddatgoedwigo.
Ymrwymiad clir 'nath synnu ei swyddogion.
3: Nid dim ond torri allyriadau gartre' sy'n cyfri
Yr hyn mae problem datgoedwigo yn ei amlygu yw ein bod ni'n tueddu i anghofio am effaith ein ffordd o fyw ar yr amgylchedd dramor.
Mae'n targedau newid hinsawdd ni i dorri nwyon tŷ gwydr ond yn canolbwyntio ar allyriadau domestig - nid y rhai sy'n cael eu cynhyrchu mewn gwledydd eraill pan ry'n ni'n prynu nwyddau y maen nhw'n eu cynhyrchu ac yna'n eu hafnon i Gymru.
Fe lwyddon ni gael gafael ar adroddiad mawr gan elusennau amgylcheddol yn ystod y gynhadledd oedd yn dangos bod angen ardal 40% maint Cymru i dyfu llond llaw o nwyddau amaethyddol i fodloni'n awch ni am fewnforion.
Mae ffermydd soia - er mwyn cynhyrchu bwyd ar gyfer da byw - yn un o'r problemau mwya'.
Dyma Rivelino Vera Gabriel - un o arweinwyr tylwyth y Guarani, de Brazil - yn dweud wrthon ni y dylai "pobl sy'n prynu soia i fwydo iâr yng Nghymru wybod o ble mae'n dod".
Os ddim mae risg y gallai fod yn cyfrannu at "nid dim ond datgoedwigo ond colli gwaed pobl frodorol hefyd."
4: Mae angen newidiadau mawr - a theg
Os ydy ein targedau torri allyriadau ni yn mynd i gael eu cyrraedd ry'n ni ar drothwy newidiadau pellgyrhaeddol. Bydd angen gwahanol ffynonellau ynni, gwahanol tirlun gyda mwy o goed i amsugno carbon deuocsid, a llu o swyddi gwyrdd gwahanol ar gyfer pobl hefyd.
Roedd 'na ffocws mawr yn y digwyddiadau Cymreig yn COP ar sut i sicrhau bod hyn yn digwydd mewn ffordd sy'n deg - fel nad yw cymunedau sydd eisoes dan anfantais yn mynd yn dlotach.
Ond roedd e'n fy nharo i na chafodd lawer o leisiau o'r llefydd rheini gyfle i deithio i Glasgow i fod yn rhan o'r drafodaeth.
Fe siaradon ni ag un cwmni enfawr sy'n gobeithio adfywio economi rhannau o Ynys Môn a Gwynedd.
Yn ei gyfweliad teledu cyntaf yn COP, datgelodd Tom Samson - pennaeth cynllun Rolls-Royce i ddatblygu cyfres o adweithyddion niwclear bychain - mai safle'r Wylfa oedd ar frig y rhestr dan ystyriaeth.
Maen nhw'n llygadu cyn safle niwclear Trawsfynydd yng Ngwynedd hefyd - gyda Mr Samson yn dweud ei fod yn "gyffrous iawn" o ran y cyfleoedd allai hyn gynnig I bobl leol.
Ond gyda storfa hir dymor ar gyfer gwastraff niwclear y DU yn dal heb ei leoli na'I adeiladu eto - mae 'na garfan amlwg sy'n gwrthwynebu.
Honni bod economiau'r rhanbarthau wedi cael eu gadael i ddirywio wrth i brosiectau blaenorol I godi atomfeydd niwclear newydd fethu a chael eu gwireddu, wnaeth yr ymgyrchydd Robat Idris.
A bob punt sy'n cael ei wario ar geisio datblygu technolegau niwclear newydd yn bunt na fydd yn cael ei wario nawr ar ffynhonellau ynni cynaliadwy.
5: Cymru'n creu argraff
"Dwi'n credu bod Cymru wedi gwneud yn dda iawn yn ystod y COP hwn," meddai Dr Jen Allen o Brifysgol Caerdydd - arbenigwyr blaenllaw ar y math yma o drafodaethau hinsawdd rhyngwladol.
Roedd hi'n cyfeirio at gyfarfodydd Llywodraeth Cymru gyda "cenhedloedd eraill o amgylch y byd sy'n rhannu gwerthoedd a heriau tebyg - maen nhw wedi creu llwyth o gysylltiadau."
Ond roedd y newyddion mai Cymru oedd yr unig ran o'r DU i ymuno â chlymblaid arloesol o wledydd fyddai'n anelu i ddod â diwedd i gynhyrchu olew a nwy yn teimlo fel tipyn o foment.
Ag yntau'n gwisgo masg baner Cymru, bu'r is-weinidog newid hinsawdd Lee Waters yn siarad o flaen cyfryngau'r byd ochr yn ochr â gweinidgion o Ddenmarc, Sweden, Ffrainc, Costa Rica, yr Ynys Las, Iwerddon, Quebec a Seland Newydd.
"Mae'n rhoi Cymru ar y map fel un o'r gwledydd sy'n arwain ac yn dweud drychwch ma angen I ni symud y tu hwnt I danwyddau ffosil - maen rhaid I ni feddwl o ddifri o ran sut y'n ni'n neud hynny," eglurodd Dr Allen.
Yn dilyn ffraeo nôl adref yn ystod y gynhadledd ynglŷn â chanslo cynlluniau adeiladu ffyrdd er mwyn atal allyriadau, dywedodd Mr Waters ei fod wedi ennyn "hyder" o COP26 i beidio â gadael i bobl "sydd ddim yn fodlon newid" effeithio ar ei gynlluniau.
Mae angen gwneud penderfyniadau anodd, meddai, achos bod y wyddoniaeth o ran newid hinsawdd "yn hollol glir ac yn frawychus".
Fe fydd Llywodraeth y DU - oedd yn arwain COP26 - yn falch hefyd gyda sut mae'r digwyddiad enfawr, hir-ddisgwyliedig wedi mynd.
Roedd 'na ymdrech i gynnwys a chyfeirio at bob ran o'r DU - gydag un o'r prif ystafelloedd trafod lle roedd arweinwyr byd yn eistedd wedi'i enwi'n 'Pen y Fan', er enghraifft.
Amser a ddengys a fydd y camau a gymerwyd yma yn ystod yr wythnosau diwethaf yn ddigon i helpu concro'r bygythiad enfawr sy'n wynebu'r Ddaear.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2021