Dod â bywyd newydd yn ôl i Gamlas Trefaldwyn
- Cyhoeddwyd
Bydd ailagor rhan newydd o gamlas Trefaldwyn yn rhoi hwb i economi canolbarth Cymru, yn helpu i greu swyddi ac yn cynyddu nifer yr ymwelwyr.
Dyna obaith arweinydd Cyngor Sir Powys - Rosemarie Harris - wrth iddi groesawu'r cyhoeddiad yn y gyllideb o dros £15m i adfer rhan o'r gamlas ger y ffin â Lloegr.
Dywedodd y Cynghorydd Harris: "Rydym wrth ein bodd bod ein cais i Gronfa'r DU i adfywio rhan segur o'r gamlas, gan ei chysylltu ag adran ohoni y mae modd ei mordwyo â'r rhwydwaith cenedlaethol wedi bod yn un llwyddiannus.
"Bydd adfer ac adfywio'r gamlas yn raddol yn golygu bod y ddyfrffordd yn dod yn atyniad ymwelwyr blaenllaw, gan ddarparu manteision economaidd, diwylliannol a hamdden hirdymor i gymunedau lleol.
"Gwelsom o brosiectau adfer camlesi eraill yr hwb economaidd y gall y math hwn o brosiect ei gyflawni, gyda chynnydd enfawr yn nifer yr ymwelwyr, gydag ymwelwyr o ddydd i ddydd yn dod yn ymwelwyr sy'n aros yma a mwy o wariant yn yr economi leol."
Wrth gyhoeddi'r gyllideb fis diwethaf cyhoeddodd y Canghellor Rishi Sunak y bydd £15.4m o gyllid cyfartalu (levelling up) ar gael ar gyfer adfer Camlas Trefaldwyn.
Y nod yw cynyddu'r defnydd o'r gamlas o'r ffigwr cyfredol o 500 cwch y flwyddyn i 2,500 yn flynyddol. Y gobaith yw y bydd caiacau, canŵod a phadlfyrddau hefyd yn gallu defnyddio'r ddyfrffordd.
Bydd yr arian yn helpu i ailagor rhan fwyaf o ddarn 4.4 milltir o hyd o'r gamlas o bentref Llanymynech - ar y ffin â Lloegr - i Arddlin ger y Trallwng.
Tra bod y llwybr wrth ochr y gamlas ar agor ac yn boblogaidd gyda cherddwyr a beicwyr, ni all cychod ddefnyddio'r rhan hon o'r gamlas ei hun - mae rhannau wedi gordyfu â phlanhigion dŵr ac mewn dau le mae'r gamlas yn dod i ben yn sydyn.
Yn yr 1980au, rhoddwyd cylfatiau i mewn ac adeiladwyd ffyrdd dros y gamlas.
Er mwyn ailgysylltu'r darnau sydd wedi'u gwahanu, bydd dwy bont ffordd newydd yn cael eu hadeiladu, pontydd Williams a Walls - y ddwy ger pentref Carreghofa.
Dywedodd Michael Limbrey, cadeirydd Ymddiriedolaeth Adfer Dyfrffordd Trefaldwyn, y bydd y cyllid newydd yn cael ei wario ar dair agwedd o'r prosiect.
"Yn gyntaf, y ddwy bont, yna mae angen gwella sianel y gamlas lle mae wedi cael ei hesgeuluso ers hanner canrif neu fwy," meddai.
"A'r trydydd peth yw creu gwarchodfeydd natur wrth ochr y gamlas, oherwydd mae'r diddordeb ecolegol yn y gamlas yn bwysig iawn."
Yn 1980 bu ymgyrch yn erbyn y cynnig i gael gwared ar bont Williams ac adeiladu ffordd ar y gamlas.
Rhoddodd ymgyrchwyr hysbyseb yn y wasg leol yn nodi: "Mae Camlas Trefaldwyn yn ased. Dyma'r atyniad twristaidd a hamdden mwyaf sydd gan yr ardal".
Dywedodd yr hysbyseb hefyd y byddai cael gwared ar y bont a blocio'r gamlas yn ei gadael "unwaith eto i ddirywio a mynd yn ddiffaith".
Nawr, dros 40 mlynedd yn ddiweddarach, dywed Mr Limbrey fod mwy o werthfawrogiad o'r gamlas a'i bod hi'n braf ei gweld hi yn denu buddsoddiad.
"[Yn 1980] roeddem am i'r awdurdodau edrych ar y tymor hir ac nid y tymor byr, ond fe wnaethon nhw feddwl am y tymor byr yn unig - ei dymchwel, rhoi pibell i mewn a'i gadael i rywun arall i ddatrys.
"Nawr, cymaint o flynyddoedd yn ddiweddarach, ry'n ni'n mynd i geisio dod o hyd i ateb.
"Wrth gwrs mae pobl yn cydnabod bod y llwybr cerdded yn cael ei werthfawrogi ac yn brysur iawn. Yn Sir Amwythig mae cychod sy'n dod yn llythrennol o bob rhan o'r wlad, gan ddod ag ymwelwyr o dramor yn ogystal ag ymwelwyr o Brydain. Bydd yn hollol wych os gall yr ymwelwyr hynny gario ymlaen i Gymru."
Pwysig ar gyfer byd natur
Cyfanswm hyd Camlas Trefaldwyn yw 35 milltir o Frankton Lock yn Sir Amwythig i'r Drenewydd ym Mhowys - mae tua 21 milltir wedi'u hadfer ac mae cychod yn gallu eu mordwyo, mae'r darn hiraf sydd wedi'i adfer ger Y Trallwng.
Yn ôl Glandŵr Cymru - ymddiriedolaeth y camlesi ac afonydd, mae Camlas Trefaldwyn yn "un o'r pwysicaf yn y wlad o ran natur".
Mae rhan helaeth o'r gamlas yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac mae'r rhan yng Nghymru o bwysigrwydd rhyngwladol, wedi'i dynodi'n Ardal Gadwraeth Arbennig oherwydd ei phlanhigion dŵr.
Ochr yn ochr ag adfer y darn pedair milltir, bydd gwarchodfeydd natur newydd yn cael eu creu ger Y Trallwng i ddarparu cynefin i'r fflora a'r ffawna sy'n byw yn y gamlas ar hyn o bryd.
Dywedodd y Cynghorydd Harris: "Bydd ein cynlluniau'n diogelu ac yn gwella amgylchedd naturiol unigryw'r gamlas drwy greu tair gwarchodfa natur newydd oddi ar ddŵr, i gydbwyso'r cynnydd a ragwelir mewn traffig camlesi.
"Byddwn yn gweithio gyda pherchnogion a gweithredwyr y gamlas, Glandŵr Cymru, a bydd y prosiect yn cael ei gyflawni gan Bartneriaeth Camlas Sir Drefaldwyn.
"Mae cyhoeddiad [y Canghellor] hefyd yn ysgogi twf economaidd i'r rhanbarth gan ddenu mwy o ymwelwyr, ac yn creu a diogelu swyddi sy'n darparu hwb i economïau lleol."
'Gofalu am y gamlas yn hwyl'
Cafodd Camlas Trefaldwyn ei hadeiladu dros 200 mlynedd yn ôl at ddibenion amaethyddol, yn hytrach na diwydiannol. Fe'i defnyddiwyd i gludo calch i ffermydd yng nghanolbarth Cymru er mwyn gwella ansawdd y tir. Cariwyd glo, pren a gwlân ar y gamlas hefyd.
Roedd 'The Monty' fel y'i gelwir yn weithredol o'r 1790au hyd y 1930au pan ddechreuodd ddirywio ar ôl i sianel y gamlas hollti mewn un man.
Ers diwedd y 1960au mae rhannau o'r gamlas wedi cael eu hadfer a heddiw mae modd teithio mewn cwch ar bron i 21 milltir o'r - tua 13 milltir ar ochr Cymru o'r ffin ac wyth yn Lloegr.
Mae angen gofal a chynnal a chadw parhaus ar yr adrannau sydd wedi'u hadfer a phob wythnos mae grŵp o wirfoddolwyr yn cwrdd i wneud unrhyw waith angenrheidiol.
Mae Alan Roberts sy'n byw ger Y Trallwng wedi bod yn gwirfoddoli ers iddo ymddeol yn 2016. Dywedodd: "Ry'n ni'n torri unrhyw beth sy'n hongian drosodd i'r dŵr neu'n gordyfu.
"Y peth am y gamlas yw unwaith y byddwch chi'n ei hadfer, mae'n rhaid i chi ei chynnal ac mae pethau'n tyfu yn gyflym iawn.
"Felly ry'n ni'n torri canghennau, yn llusgo boncyffion o'r gamlas. Mae'n lot o hwyl, weithiau byddwn ni yn chwynnu hefyd. Mae'n debyg iawn i chwynnu'ch gardd."
Mae 35 o wirfoddolwyr - yn eu plith aelodau sydd â thrwydded i ddefnyddio llif gadwyn ac offer arall. Maen nhw hefyd yn defnyddio llong torri chwyn ac mae rhai aelodau'n cael eu hyfforddi i'w defnyddio.
Ni chaniateir iddynt ei defnyddio i dorri unrhyw blanhigion nes iddynt gael caniatâd gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Dywedodd Richard Eames, sydd wedi bod yn ymarfer ar y torrwr chwyn: "Mae e fel torrwr gwrych sy'n arnofio.
"Rydyn ni'n dysgu sut i'w ddefnyddio nes ein bod ni'n cael trwydded i dorri'r cyrs, sy'n cau'r gamlas mewn sawl man. Mae angen i ni gael mwy o draffig i gadw'r chwyn i lawr, neu fel arall mae'n rhaid i ni eu torri ein hunain."
Dywedodd Richard ei fod yn cael sbort wrth wirfoddoli: "Mae'n cadw ni oddi ar y strydoedd, ac mae yna gyfeillgarwch da yma."
Mae Becky Watson wedi gwirfoddoli ers dwy flynedd - mae hi'n helpu ar fad 65 troedfedd o hyd ac yn helpu i'w lenwi â thoriadau a boncyffion a dynnwyd o'r gamlas.
Dywedodd fod croeso mawr i'r £15m o gyllid i adfer y gamlas.
"Mae'n gwneud i chi deimlo bod yr hyn ry'ch chi'n ei wneud yn werth chweil ac mae pobl eraill yn gwerthfawrogi yr hyn ry'ch chi'n ei wneud," meddai.
"Mae'n help i wireddu breuddwyd oherwydd rydyn ni i gyd am weld y gamlas ar agor eto. Ces i wyliau ym mhen arall y gamlas yn ôl yn 2000 ac roedd hynny'n wych. Ond i gael y cyfan ar agor eto - dyna'r freuddwyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd5 Medi 2020
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2019