Carcharu dyn am anfon pecyn amheus i ffatri brechlynnau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Anthony CollinsFfynhonnell y llun, Heddlu Caint

Mae dyn 54 oed o Gaint wedi cael dedfryd o garchar am anfon pecyn amheus i ffatri ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam sy'n helpu cynhyrchu brechlynnau Covid-19.

Cafodd Anthony Collins, o Chatham, ddedfryd o ddwy flynedd a thri mis am bostio'r pecyn i ffatri Wockhardt - cwmni fferyllol a biotechnoleg byd-eang sy'n gyfrifol am gam olaf y broses o roi'r brechlyn Oxford-AstraZeneca mewn ffiolau.

Bu'n rhaid atal gwaith cynhyrchu yn y ffatri am gyfnod ar 27 Ionawr eleni wrth i arbenigwyr gwaredu bomiau ddelio gyda'r pecyn.

Clywodd Llys y Goron Maidstone fod Collins wedi datblygu obsesiwn â materion yn ymwneud â Covid, a'i fod wedi anfon parseli tebyg i 10 Downing Street, labordy yn Wuhan yn China ac arweinydd Gogledd Korea, Kim Jong-un.

Ffynhonnell y llun, PAULSALISBRUY15
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i 120 o staff adael ffatri Wockhardt ym mis Ionawr wrth i arbenigwyr gwaredu bomiau ddelio gyda'r pecyn amheus

Roedd Collins wedi gwadu cyhuddiad o anfon eitem yn y post gyda'r bwriad o wneud i bobl feddwl bod yr eitem yn debygol o ffrwydro neu'n tanio.

Ond ymhlith yr eitemau oedd yn y pecyn roedd yna dderbynneb archfarchnad a llythyr a ddatgelodd pwy oedd wedi ei anfon ac fe gafodd y diffynnydd ei arestio.

Penderfynodd rheithgor yr wythnos diwethaf ei fod yn euog.

'Plentynnaidd ac eithaf gwrthnysig'

Wrth ddedfrydu Collins dywedodd y Barnwr David Griffith-Jones QC wrtho: "Mae cymhelliad i anfon pethau bisâr i wahanol gyrff ac awdurdodau yn un peth ac fe ellir ei ystyried yn fympwy diniwed.

"Nid yw hynny'n esbonio eich ymddygiad chi yn yr achos hwn, sef anfon bom ffug yn fwriadol gan wybod yn iawn y byddai'n achosi ofn ac anhrefn."

Ychwanegodd bod haeriad Collins y byddai cynnwys y pecyn yn helpu gwyddonwyr ffatri Wockhardt yn "blentynnaidd ac eithaf gwrthnysig".

Ffynhonnell y llun, Mark Evans
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cordon 100m ei osod o amgylch y pecyn cyn i swyddogion gwaredu bomiau gadarnhau nad oedd y ddyfais ynddo'n hyfyw

Wrth gael ei holi yn y ddalfa ar ôl cael ei arestio, dywed Heddlu Caint bod Collins wedi cyfaddef anfon y pecyn heb i dditectifs ei brocio. Fe wnaeth hefyd rhestru cynnwys y parsel - manylion a fyddai ond yn hysbys i'r sawl a'i bostiodd.

Yn ôl y llu, fe wadodd fwriad i godi braw, gan honni iddo gredu y byddai cynnwys y pecyn yn ddefnyddiol i weithwyr y ffatri, cyn cydnabod ei fod yn gwybod y gallai'r hyn a wnaeth achosi ofn.

"Roedd Collins yn llwyr ymwybodol o effaith ei weithredoedd ac fe ddewisodd i amharu ar y rhaglen frechu yn ei dyddiau cynnar," dywedodd arweinydd yr ymchwiliad i'r achos, y Ditectif Arolygydd Adam Marshall.

"Er nad oedd y ddyfais yn un hyfyw, roedd pob rheswm i bobl yn y ffatri gredu bod yna fygythiad i'w diogelwch...

"Diolch i'r drefn ni achosodd fawr o darfu ond roedd ei weithredoedd yn ymyriad diangen."