Cofio Gary Speed: 'Dan ni'n ddiolchgar iawn iddo'

  • Cyhoeddwyd
gary speedFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae 27 Tachwedd yn nodi deng mlynedd ers marwolaeth Gary Speed, cyn-gapten Cymru a oedd yn rheolwr ar y tîm cenedlaethol ar y pryd.

Am 13.30 ddydd Sadwrn mae rhaglen arbennig yn cael ei darlledu ar BBC Radio Cymru - Cofio Gary Speed - gydag Owain Tudur Jones yn cyflwyno.

Yn y degawd ers ei farwolaeth mae tîm Cymru wedi ei drawsnewid yn llwyr, gan gyrraedd rownd gynderfynol Euro 2016 a chyrraedd y gemau ail-gyfle i Gwpan y Byd 2022.

Ond beth oedd cyfraniad y gŵr o Sir y Fflint at lwyddiant presennol y tîm cenedlaethol? A beth oedd ei ddylanwad ar sêr ifanc y garfan 10 mlynedd yn ôl? Y gohebydd chwaraeon Owain Llŷr sy'n trafod.

Mae pob cefnogwr Cymru yn cofio lle'r oedden nhw ar 27 Tachwedd 2011, diwrnod wnaeth ysgwyd y byd pêl-droed i'w seiliau.

Fe roedd Gary Speed wedi bod yn rheolwr ar ei wlad am llai na blwyddyn. Ac ar ôl dechrau digon anodd i'w gyfnod wrth y llyw, mi oedd pethau ar i fyny.

Mi oedden nhw wedi ennill tair gêm yn olynol, gan gynnwys 4-1 yn erbyn Norwy.

Ond bythefnos yn ddiweddarach daeth y newyddion fod Speed, yn 42 oed, wedi ei ganfod yn farw yn ei gartref yn Sir Gaer.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Gary Speed 85 o gapiau dros Gymru rhwng 1990 a 2004

Mae'r deng mlynedd ers marwolaeth Speed wedi bod yn rhai hynod o lwyddiannus i Gymru. Maen nhw wedi cyrraedd rowndiau terfynol yr Ewros ar ddau achlysur, wedi ennill dyrchafiad i'r brif haen yng Nghynghrair y Cenhedloedd, ac maen nhw bellach ddwy gêm o Gwpan y Byd 2022.

Dylanwad Gary

Felly faint o ran mae Speed wedi ei chwarae yn y llwyddiant diweddar?

"Mae llawer ohono fo lawr i beth wnaeth Gary. 'Da ni'n ddiolchgar iawn iddo, a gobeithio ei fod yn edrych i lawr arno ni yn prowd," yn ôl Aaron Ramsey.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gary Speed ac Aaron Ramsey yn Wembley cyn i Gymru herio Lloegr, 5 Medi 2011.

Pan gafodd Speed ei benodi fel olynydd i John Toshack yn 2010, mi oedd gobeithion Cymru o gyrraedd Cwpan y Byd 2012 fwy neu lai ar ben yn barod. Felly dyma fynd ati yn syth i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

"Nathon ni benderfynu fod ganddon ni amser i roi cynllun mewn lle. Felly mi oedden ni yn fwy na pharod i golli gemau yn y tymor byr wrth osod sylfaen" yw atgofion Osian Roberts, aelod o'r tîm hyfforddi.

"Mi oedd y canlyniadau yn eilradd yn y misoedd yna, ond mi oedd y cynllun yn un oedd yn mynd i help tîm Cymru am flynyddoedd i ddod."

Disgrifiad,

Aaron Ramsey a Joe Allen yn cofio Gary Speed

Roedd y canlyniadau'n siomedig wrth i Speed golli pedair o'i bum gêm gyntaf. Ond yn araf deg bach fe ddechreuodd y chwaraewyr brynu mewn i'w syniadau.

"Dwi'n meddwl amdano fe drwy'r amser. Fel carfan 'dan ni'n sôn amdano fe yn aml," meddai'r chwaraewr canol cae, Joe Allen.

"'Nath e gael dylanwad gwych. Yn sicr 'nath e chwarae rhan allweddol ar ddechrau'r daith i'r tîm yma. Fyse ni heb gael y llwyddiant 'dan ni wedi ei gael heb y swydd 'nath e."

Troi cornel

Er i Gymru ddisgyn i safle rhif 117 ar restr detholion FIFA (eu safle isaf erioed), fe ddechreuodd y canlyniadau wella. Buddugoliaeth 2-1 yn erbyn Montenegro, colli o drwch blewyn yn erbyn Lloegr yn Wembley, cyn ennill tair gêm yn olynol yn erbyn Y Swistir, Bwlgaria a Norwy.

Mi oedden nhw'n sicr ar y trywydd cywir.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gareth Bale ymysg y sgorwyr wrth i Gymru guro Norwy 4-1 yng Nghaerdydd, 12 Tachwedd 2011

"Mi roedd yn rhaid i rywun osod y sylfaen yna. Mi oedd yn rhaid i rywun ddod i mewn a oedd yn gallu uniaethu gyda'r chwaraewyr yna o ran oedran, o ran pwy oedd o, ac o ran presenoldeb," meddai Ian Gwyn Hughes o Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

"A dwi'n credu yn y cyfnod byr gawson ni o gael Gary Speed yn rheolwr ar Gymru, fod ei ddylanwad tu cefn i bopeth 'dan ni wedi ei fwynhau yn ystod y deng mlynedd olaf."

Heb os ac oni bai felly, mae ein dyled ni yn fawr i Gary Speed.

Hefyd o ddiddordeb: