Croeso Cymreig tafarn newydd yng Nghambodia

  • Cyhoeddwyd
Ross ClarkeFfynhonnell y llun, The Welsh Embassy
Disgrifiad o’r llun,

Ross Clarke sy'n wreiddiol o Nebo ger Caernarfon yw un o berchnogion tafarn Gymreig newydd yng Nghambodia

Pan symudodd Ross Clarke i Phnom Penh flwyddyn a hanner yn ôl i ddysgu mewn ysgol ryngwladol, prin oedd o'n disgwyl y buasai'n agor tafarn Gymreig ym mhrifddinas Cambodia.

Nos Sadwrn 27 Tachwedd agorwyd drysau The Welsh Embassy yn swyddogol gyda Calon Lân a Sosban Fach yn cael eu clywed ar hyd strydoedd y ddinas.

Ond pam agor tafarn Gymreig? A pham symud i Cambodia yn y lle cyntaf? Dyma hanes menter newydd Gymreig yn ne ddwyrain Asia.

Yn wreiddiol o bentref Nebo, ger Caernarfon, fe symudodd Ross Clarke i astudio cerddoriaeth ym Manceinion a'r Guildhall yn Llundain.

Tra'n gweithio fel cerddor proffesiynol a thrwmpedwr o fri yn Llundain roedd hefyd yn gwirfoddoli gyda Heddlu'r Met.

Pan ddaeth cyfle iddo fynd dramor i weithio yn Kazakhstan am flwyddyn, dyma'n gofyn wrth benaethiaid y llu i gadw ei safle yn rhydd, gan "na fyddai i ffwrdd yn hir iawn".

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach a dyw Ross dal heb ddychwelyd i fyw i Brydain.

"Ychydig fisoedd oedd o i fod, ond fues i yn Kazakhstan am bron i saith mlynedd i gyd," meddai.

Rhannu diwylliant Cymru

Tra'n gweithio yn nhŷ opera cenedlaethol Kazakhstan, roedd adlewyrchu a chyflwyno pobl i ddiwylliant Cymru a'r Gymraeg yn rhywbeth yr oedd Ross yn angerddol iawn amdano.

Ffynhonnell y llun, The Welsh Embassy
Disgrifiad o’r llun,

Mae map mawr o Gymru wedi'i beintio ar y wal yn y dafarn

"Roeddwn yn cynnal Eisteddfodau a nosweithiau Gŵyl Dewi yn aml iawn, roedd yr ochr gymdeithasol yn rhywbeth o'n i yn ei fwynhau hefyd.

"Mae cerddoriaeth yn ffordd dda o gyflwyno Cymru at bobl, ac mae pawb wrth eu boddau yn cymryd rhan a chlywed cerddoriaeth Gymreig."

Tra'n teithio hefyd roedd Ross wrth ei fodd yn mynychu tafarndai oedd gyda themâu penodol ac oedd yn rhoi blas o ddiwylliannau gwledydd eraill.

Wedi saith mlynedd yn gweithio yn Kazakhstan daeth cyfle i Ross symud i wlad newydd.

Symudodd i Cambodia ar ôl sicrhau swydd yn gweithio fel athro cerdd yn Phnom Penh.

Ffynhonnell y llun, The Welsh Embassy
Disgrifiad o’r llun,

Llysgennad Prydain ar gyfer Cambodia, Tina Redshaw, agorodd y dafarn yn swyddogol

"Ar ôl symud yma i Cambodia roeddwn dal eisiau cynnal nosweithiau Cymreig, a dyma fi'n gweld tafarn reit hen ffasiwn yng nghanol y ddinas oedd ar gael i'w rhentu.

"Bar Americanaidd oedd o'n wreiddiol ac roedd 'na deimlad da am y lle, roedd 'na dipyn o gymeriad i du mewn y lle. Ro'n i'n meddwl fod hwn yn le perffaith i agor bar Cymreig.

"Mae 'na dipyn o Gymry allan yma'n byw neu'n gweithio, ac roeddem yn dod at ein gilydd yn aml ar achlysuron gemau rygbi a phêl-droed, felly mae'r lle newydd 'ma'n berffaith." meddai.

Cafodd y Cymry flas answyddogol ar y dafarn newydd ym mis Medi a daeth mwy a mwy o Gymry Cambodia i'r amlwg pan aeth y gair ar led fod lle yn Phnom Penh yn gwerthu Welsh Rarebit - Cymry nad oedd Ross erioed wedi cwrdd â nhw o'r blaen.

Ffynhonnell y llun, The Welsh Embassy
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y dafarn yn orlawn ar y noson agoriadol ac yn llawn o Gymry Cambodia

"Roedd tua 4-5 o Gymry oeddwn i'n 'nabod yma, ond ers agor y dafarn mae 'na tua 20 i gyd wedi ymddangos ac mae hynny'n beth braf," meddai.

Cafwyd noson agoriadol swyddogol dros y penwythnos ac fe dorrwyd y rhuban gan Lysgennad Prydain yng Nghambodia, Tina Redshaw.

Calon Lân a Sosban Fach

Roedd hi'n noson hwyliog o ganu a bwyta cynnyrch Cymreig, meddai Ross, gyda'r lle yn orlawn.

Roedd yna gôr lleol wedi ymgynnull dan arweiniad Ross a chafwyd fersiynau arbennig o Calon Lân a Sosban Fach.

Mae'r hen faneri Americanaidd bellach wedi diflannu oddi ar y waliau ac mae Ross wedi comisiynu artist i beintio map o Gymru ar y wal.

Disgrifiad,

Fersiwn o Sosban Fach wedi ei chanu gan gôr lleol

"Mae'n bwysig pan fydd pobl yn dod i mewn eu bod nhw'n gwybod yn syth am Gymru, mae'r lle wedi'i addurno fel nad oes modd osgoi hynny," meddai Ross.

"Mae'r fwydlen hefyd yn cynnig bwyd traddodiadol Cymreig a dwi hefyd wedi archebu cwrw gan fragdai o Gymru, ac mae'r rheiny ar y ffordd draw i ni."

"Dwi wastad wedi bod efo pen busnes ac eisiau agor tafarn lle bynnag dwi wedi bod. Y gobaith rŵan ydi datblygu'r lle yma a phwy a ŵyr ella bod modd ehangu'r busnes i wledydd eraill."

Am y tro beth bynnag, mae'r Welsh Embassy bellach wedi agor ac mae cynrychiolaeth a chroeso cynnes a sgwrs yn y Gymraeg yn disgwyl unrhyw un sy'n teithio i brifddinas Cambodia.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig