Lansio elusen a fydd yn 'angor' i gleifion canser
- Cyhoeddwyd
Mae elusen wedi ei lansio yn Sir Gaerfyrddin a fydd yn darparu amrywiol wasanaethau i gleifion canser ac afiechydon eraill sydd yn cyfyngu ar fywyd.
Bydd Angor, ym Mhenygroes, hefyd yn cynnig cefnogaeth a chyngor i deuluoedd cleifion.
"Bydd help proffesiynol ar gael, a bydd cyfleoedd i bobl siarad am bethau dwys, yn ogystal ag amser i gael clonc," eglura Dr Ian Rees, un o sylfaenwyr yr elusen.
"Ni fel meddygon yn fodlon helpu ond ma' lot o sgiliau a lot o alw am bethau sy' ddim yn feddygol.
"Pethau mwy meddyliol, pethau ehangach na jest y canser, ac mae'n rhaid i ni feddwl shwt allwn ni helpu'r claf a'r teulu i fynd drwy'r cyfnod yma."
'Newid meddylfryd'
Nod elusen Angor yw darparu ystod eang o wasanaethau i gleifion, o fyfyrio a yoga i glybiau llyfrau a sesiynau cefnogaeth gan nyrsys, ynghyd â chefnogaeth ym maes galar a chyngor ariannol.
Bydd yr elusen yn ymgartrefu maes o law ym Mhentre Awel - prosiect gwerth miliynau o bunnau, dolen allanol a fydd yn ganolfan fusnes, gofal iechyd ac ymchwil meddygol ar hyd arfordir Llanelli.
"Ry'n ni wedi bod yn hynod o lwcus, a bod yn onest, bod breuddwyd y Cyngor Sir, a'n breuddwyd ni wedi dod yr un amser," ychwanega Dr Rees.
"Mae Pentre Awel yn newid meddylfryd pobol Llanelli, i neud y mwya' o'r hyn sy' gyda nhw. Ac yn Angor, ry'n ni hefyd yn awyddus bob bobl yn 'neud y mwya' o'r bywyd sy' gyda nhw, a bo' ni'n gallu helpu nhw.
"A mae cael ein lleoli gyda Pentre Awel yn helpu i wireddu'r freuddwyd honno a newid y meddylfryd i un mwy positif."
Gwirfoddolwyr fydd yn cynnal yr elusen ac mae'r gwaith o godi arian yn dechrau'n syth, yn ôl Dr Rees.
"Ni'n lansio'r elusen heddi' ond yn dechnegol dyden ni ddim wedi cofrestru eto, felly mae'n rhaid cael £5,000 ar gyfer hynny, a gobeithio y daw hwnnw'n fuan.
"Ond dwi ddim yn poeni'n ormodol am yr ochr ariannol. Mae pobol yn gweld ei werth e, a dwi'n gobeithio y byddan nhw'n fodlon ein cefnogi ni."
'Dala chi'n sownd, yn saff ac yn gadarn'
Un o aelodau bwrdd elusen Angor yw'r gantores Gwenda Owen a gafodd ganser y fron pan roedd hi yn ei thridegau cynnar.
"Pan chi'n cael triniaeth, chi'n mynd gyda'r peth, a wedyn pan ma' pethe wedi gorffen chi'n meddwl 'ydw i'n iawn? Odw i'n mynd i fod yn o'reit?
"Bydd Angor yn galluogi bobol i gael paned bach o de, i gael sgwrs gyda phobl sydd wedi cael yr un triniaeth â nhw, a mae'n bwysig hefyd bod aelodau o'r teulu yn medru cael cyngor."
"Mae'n bwysig i siarad am bethe, achos mae bywyd yn gallu bod yn unig iawn, ac yn aml iawn, o'ch chi'n teimlo bo' chi ar goll.
"Ond fe fydd Angor wrth gwrs yn caniatáu i bobol fod gyda'i gilydd.
"Dyna ystyr yr enw, ynde - dala chi'n sownd, ac i ddala chi'n saff, a dyna be chi ishe pan chi'n sâl, dala chi'n gadarn a rhoi help i chi frwydro ymlaen."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2021