'Modd osgoi' marwolaeth peiriannydd Red Arrows Y Fali

  • Cyhoeddwyd
Cpl Jonathan BaylissFfynhonnell y llun, Y Weinyddiaeth Amddiffyn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Corpral Jonathan Bayliss wedi hedfan i Fôn o RAF Scrampton yn Sir Lincoln er mwyn bod yn rhan o'r ymarferiad y bu farw ynddo

Roedd modd atal marwolaeth peiriannydd gyda'r Red Arrows gafodd ei ladd mewn damwain awyren, yn ôl crwner.

Bu farw'r Corporal Jonathan Bayliss yn ystod ymarferiad yn safle'r Awyrlu yn Y Fali, Ynys Môn, ym mis Mawrth 2018.

Roedd o'n teithio ar sedd gefn jet Hawk T1 pan ddisgynnodd yr awyren yn fuan ar ôl cychwyn.

Yn dilyn y cwest, bydd y crwner yn ysgrifennu at y Weinyddiaeth Amddiffyn i amlinellu pa gamau dylid eu cymryd i atal marwolaethau pellach yn y dyfodol.

Adeg y digwyddiad, roedd yr awyren yn cael ei llywio gan yr Awyr-Lefftenant David Stark, oedd yn ymarfer symudiad PEFATO, sy'n paratoi peilotiaid ar gyfer sefyllfa ble mae injan yn methu wrth esgyn i'r awyr.

Yn yr achos hwn, arafodd yr awyren a disgyn i'r ddaear. Llwyddodd y peilot i ymdaflu o'r jet cyn taro'r llawr, ac fe gafodd ei anfon i'r ysbyty gydag anafiadau.

Ond bu farw'r Corporal Bayliss, 41, ar ôl anadlu mwg wedi'r ddamwain.

'Methiannau a diffygion'

Clywodd y cwest yng Nghaernarfon bod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi methu â chyflwyno system fyddai'r rhybuddio defnyddwyr awyrennau Hawk os yw'r peiriant ar fin pallu, er i hynny gael ei ystyried yn dilyn digwyddiad ym Maes Awyr Mona yn 2007.

Ffynhonnell y llun, Yr Awyrlu Brenhinol
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd y peilot David Stark i ymdaflu o'r jet cyn taro'r ddaear

Tanlinellodd Katie Sutherland, Uwch Grwner dros dro Gogledd Orllewin Cymru, bod diffygion hefyd o ran hyfforddi peirianwyr fel y Corporal Bayliss sut mae ymdaflu o'r awyren.

Nododd y crwner gasgliad naratif, gan wrthod cais teulu'r corporal am gasgliad o farwolaeth anghyfreithlon.

Ond dywedodd: "Mae'r dystiolaeth yn dangos y gellid bod wedi osgoi'r ddamwain hon."

Yn ystod y gwrandawiad pedwar diwrnod o hyd, clywodd y cwest bod nifer o newidiadau eisoes wedi eu cyflawni yn dilyn ymchwiliad gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn 2019.

Ond dywedodd y crwner y byddai ei hadroddiad i'r weinyddiaeth yn amlinellu'r camau eraill y dylid eu cymryd.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Yr awdurdodau'n ymateb i'r ddamwain yn Y Fali ym mis Mawrth 2018

Mewn datganiad wedi'r dyfarniad, dywedodd teulu Mr Bayliss eu bod yn "blês" gyda'r modd y cafodd y cwest ei gynnal.

"Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi gallu dianc â gormod yn y gorffennol," meddai'r datganiad ar ran tad a chwaer Cpl Bayliss, Michael Bayliss a Gayle Todd.

"Maen nhw wedi methu yn eu dyletswydd i amddiffyn bywyd milwr yn eu cyflogaeth.

"Mae'r teulu'n falch bod llawer o'r argymhellion bellach wedi'u gweithredu ond maen nhw'n poeni bod yr addasiad i'r system ymdaflu yn dal i fod heb ei ddatrys.

"Pe bai'r peilot wedi gallu ymdaflu'r sedd gefn, byddai Jon yn dal gyda ni heddiw.

"Mae'n ddyletswydd ar sefydliadau fel y Weinyddiaeth Amddiffyn i amddiffyn bywyd ein dynion a menywod felly dylai craffu a phwysau gan gymdeithas a'r cyfryngau fod yn ddi-baid i gyflawni'r nod hwn."