£7m i 'gynnig mwy o gyfleoedd' i blant ddysgu cerddoriaeth

  • Cyhoeddwyd
Cerddorion ifancFfynhonnell y llun, Cyfeillion Cerddorion Ifanc Ceredigion
Disgrifiad o’r llun,

Dros y degawd diwethaf mae gwariant cynghorau ar wasanaethau cerdd wedi gostwng

Bydd bron i £7m yn cael ei wario ar gynnig mwy o gyfleoedd i blant ddysgu cerddoriaeth yn yr ysgol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw'n darparu cyllid a fydd yn cael ei wario yn bennaf ar wersi arbennig ac offerynnau newydd.

Dros y degawd diwethaf, bu gostyngiad sylweddol yn yr arian yr oedd cynghorau'n gallu ei wario ar wasanaethau cerddoriaeth.

Bydd y £6.82m yn ei gwneud hi'n haws i blant o bob cefndir gael y cyfle i ddysgu i chwarae offerynnau, yn ôl Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.

"Rydym yn gwybod y gall cerddoriaeth a chreadigrwydd gynnig manteision i bobl ifanc ym mhob agwedd o'u dysgu, ac ni ddylai eich cefndir eich rhwystro rhag cael mynediad at hyn," meddai.

Bydd yr arian hefyd yn helpu i gefnogi'r cwricwlwm newydd.

Mae'r gweinidog hefyd wedi cyhoeddi £3m ychwanegol i ymestyn y rhaglen Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau am dair blynedd arall.

Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn rhoi arian cyfatebol i gynyddu'r buddsoddiad i £6m.

Mae mwy na thraean o ysgolion Cymru eisoes wedi cymryd rhan yn y cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol, a bydd yr ysgolion hyn yn cael eu hannog i weithio gydag ysgolion sy'n newydd i'r rhaglen a'u cefnogi.

'Nadolig cynnar'

Mae yna groeso i'r cyhoeddiad gan Simon Lynton o Cerdd Gwent, sy'n darparu gwersi yng Nghasnewydd, Torfaen, Blaenau Gwent a Sir Fynwy.

"Mae wedi bod yn ddeng mlynedd heriol," meddai, "ond mae hyn fel Nadolig cynnar.

"Yr hyn y mae'n ei olygu ydi y bydd gan bob plentyn, o bob cefndir, waeth beth yw ei allu, fynediad at offeryn nawr."

Bydd offerynnau yn cael eu dosbarthu, yn y lle cyntaf, i ddysgwyr sy'n llai tebygol o fod â mynediad atynt - yn eu plith y rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Nansi, Isobel a Dilys wrth eu bodd yn canu offerynnau

Mae Cerdd Gwent yn cynnal gwersi arbennig bob dydd Gwener yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân.

"Ni 'di bod yn chwarae'r caneuon Pirates a Cowbois heddiw gyda'r ffidil ac ar y ... - fi ddim yn gallu gweud y gair - y maracas!," meddai Nansi, 8.

"Dwi ddim yn chwarae offeryn adref, just yma yn yr ysgol."

Mae gan Dilys feiolin ei hun ac mae hi'n ymarfer yn aml.

"Fi'n hoffi gwrando ar y gerddoriaeth a sut mae'n gneud i mi deimlo," meddai.

"Rwy'n ymarfer adref am bron i awr bob nos."

Mae Isobel yn dod o deulu cerddorol.

Dywedodd: "Fi wedi chwarae'r feiolin a'r maracas heddiw. Dawel Nos oedd y gorau gan ei bod hi bron yn Nadolig.

"Fi'n rili hoffi 'neud e, ma fe'n hwyl. Pryd ma' brawd fi yn dod adref, fi'n hoffi canu'r piano gyda fe, mae'n swnio'n rili pert."