Llofruddiaeth Michael O’Leary: Galw am newid yn y gyfraith
- Cyhoeddwyd
Bydd hi'n ddwy flynedd fis nesaf ers i Michael O'Leary gael ei lofruddio - y tad i dri oedd yn cael ei ddisgrifio'n aml fel curiad calon Clwb Rygbi Nantgaredig.
Yn ôl ei deulu, mae 'na gwestiynau o hyd ynglŷn â beth yn union ddigwyddodd ar y noson wlyb o aeaf ym mis Ionawr 2020 pan gafodd ei ladd gan Andrew Jones.
Mae mab Michael, Wayne O'Leary yn cefnogi ymgyrch sy'n galw am gyflwyno trosedd newydd i gosbi'r rheiny sydd yn "dinistrio corff".
Yn cael ei adnabod fel Helen's Law 2, nod yr ymgyrch yw cydnabod y boen meddwl ychwanegol sy'n cael ei achosi i deuluoedd pan fo corff yn cael ei guddio neu ei ddinistrio.
"Ni fel teuluoedd yn gorfod diodde' oes o gwestiynau heb atebion," meddai Wayne wrth Newyddion S4C.
"Pam ddylen nhw gael dod mas ar ôl 20, 30 mlynedd a chario 'mlaen 'da'u bywyde', pan mae'r holl gwestiynau heb atebion gyda ni ar hyd ein bywyde?"
Saethodd Andrew Jones ei ffrind Michael O'Leary, a llosgi ei gorff mewn iard adeiladu tu ôl i'w gartref ar Ffordd Bronwydd yng Nghaerfyrddin.
"Dwi dal ddim yn credu fe ar adege'," meddai Wayne.
"Fel teulu ni'n siarad am yr holl beth, a dal yn methu credu. Unwaith o'dd Dad wedi mynd, ond hefyd, o ran y ffordd aeth e', a beth 'naeth ddigwydd wedyn, mae'n hollol erchyll."
Fel rhan o'u hymchwiliad fe ddaeth Heddlu Dyfed-Powys o hyd i ddarn o goluddyn bach ar safle iard Jones. Fe ddatgelodd profion bod y meinwe wedi dod o gorff Mr O'Leary.
"Y ddim gwybod sy'n achosi i ni stryglo," ychwanega Wayne.
"Mae'r CCTV, ti'n gweld e'n dod mas ar ôl llosgi'r corff.
"Mae'n dod mas o'i iard e' a throi i'r chwith am chwe munud, a dod yn ôl, a dyw e ddim yn gallu esbonio beth 'naeth e' yn ystod y chwe munud yna.
"Dyna sy'n buggo fi lot. Fi'n meddwl amdano fe. Beth 'naeth e yn y chwe munud 'na?
"'Na'r peth anodda' i ni fel teulu o ran symud 'mlaen - peidio gwybod beth ddioddefodd Dad. Beth yn union ddigwyddodd? Ac yn y diwedd, beth ddigwyddodd i'w gorff e a'i weddillion."
Fe dreuliodd Marie McCourt, 78 oed, dros bum mlynedd yn ymladd yn llwyddiannus am Helen's Law er cof am ei merch Helen, 22, gafodd ei lladd yn 1988. Ni chafodd ei chorff erioed ei ddarganfod.
Yn sgil y ddeddfwriaeth mi all rhai sy'n llofruddio wynebu cyfnod hirach yn y carchar, a pharôl yn cael ei wrthod, os ydyn nhw'n gwrthod datgelu ble mae'r corff.
Bellach, mae'n mynd â'i hymgyrch gam ymhellach gan alw am ddwy drosedd newydd sbon - dinistrio corff a chuddio corff.
Mae'n dweud bod angen cyflwyno'r troseddau hyn i gydnabod yr hyn mae'n ei ddisgrifio fel "dedfryd oes ychwanegol i deuluoedd".
"Fe ddylen nhw gael eu dyfarnu'n euog o'r farwolaeth, ond fe ddylen nhw hefyd gael eu cyhuddo o beth wnaethon nhw i'r corff," meddai Ms McCourt.
"Mae angen diweddaru hynny. Ar hyn o bryd mae'n annigonol.
"Yn fy marn i, a dyma'r hyn o'n i wastad yn ei feddwl, pam na chafodd e'i gyhuddo o rwystro claddu'r corff, am ddinistrio corff?
"Mae'r rhain i gyd yn bethau pwysig, achos i'r teuluoedd dy'n nhw ddim yn unig yn colli anwylyn, ond mae'r teulu hefyd mewn limbo am weddill eu bywydau."
Yr hyn sydd wedi annog Ms McCourt i ymgyrchu yw'r cynnydd yn nifer y rhai sy'n lladd sy'n cuddio cyrff a cheisio'u dinistrio, er mwyn osgoi mynd o flaen eu gwell.
"Ers 2007/08, mae 'na 54 dyfarniad o lofruddiaeth wedi bod heb i gorff gael ei ddarganfod," meddai.
"Wrth i dechnegau fforensig ddod yn fwy soffistigedig, mae llofruddion yn troi at ffyrdd mwy difrifol i guddio tystiolaeth o'u troseddau.
"Mae 'na gynnydd mawr wedi bod yn nifer y rhai sy'n cael eu llofruddio sy'n cael eu datgymalu a'u llosgi.
"Mae'r boen meddwl mae hyn yn ei achosi i deulu'r dioddefwr yn aruthrol, ond eto, yn rhy aml, dydy'r llofrudd ddim yn cael unrhyw gosb ychwanegol am wneud hyn ar ôl y llofruddiaeth.
"Mae'r rhain yn weithredoedd pwrpasol, creulon. Heb newid yn y gyfraith i adlewyrchu pa mor ddifrifol mae'r troseddau hyn, a'r boen meddwl sy'n cael ei achosi, bydd achosion yn parhau i godi.
"Dydy ein deddfwriaeth bresennol ddim yn addas. Mae 'na fwlch mawr yn ein system gyfreithiol, ac mae angen ei lenwi."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae'r troseddau hyn yn hynod ffiaidd ac mae troseddwyr yn wynebu nerth llwyr y gyfraith dan y troseddau sydd eisoes yn bodoli, heb sôn am lofruddiaeth sy'n dod â dedfryd orfodol o garchar am oes."
Cafodd sylw ei roi i'r ymgyrch yn Nhŷ'r Arglwyddi fel gwelliant posibl i'r Mesur Plismona, Trosedd, Dedfrydu a Llysoedd, sydd ar ei ffordd drwy'r Senedd ar hyn o bryd.
'Cosb ychwanegol'
Mae Jonathan Edwards, Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn credu bod angen codi cwestiynau am y ddeddfwriaeth bresennol.
"Dwi'n credu bod 'na ddadl gref, pan fo rhywun yn dinistrio corff, neu'n cuddio corff ar ôl llofruddiaeth, bod hynny'n creu dioddefaint ychwanegol i'r teulu, ac mae angen i hynny gael ei gydnabod gan y gyfraith.
"Mae dwy ffordd o wneud hynny. Ry'ch chi un ai'n dod â throsedd newydd i mewn am ddinistrio neu guddio, neu fod 'na ganllawiau dedfrydu clir - pan fo llofrudd yn cael ei ddyfarnu'n euog, bod 'na gosb ychwanegol yn deillio o hynny."
I deulu Michael O'Leary, mae artaith y ddwy flynedd ddiwethaf yn cael effaith arnyn nhw bob dydd.
Mae'r ymgyrch yn rhoi pwrpas iddyn nhw, yn ôl Wayne O'Leary.
"Ma' achosion llofruddiaeth heb gorff ar y funud yn cynyddu yn anffodus. Chi'n gweld ar y funud 'da achos Sarah Everard," meddai.
"Ma' pobl nawr yn mynd i'r eithaf i drio cael gwared ar unrhyw dystiolaeth, yn cynnwys cyrff yn anffodus, a phrin iawn maen nhw'n cael eu cosbi am hwnna yn ogystal â llofruddiaeth, felly ni isie gweld newid i'r system.
"Ni wastad yn meddwl am Dad - ni'n meddwl amdano bob dydd. Mae cymaint o atebion nad y'n ni wedi eu cael, a falle na chawn ni fyth, ond mae'n rhaid i ni symud 'mlaen."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2020