Hinsawdd: Cynnig coeden am ddim i bob cartref yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
PlannuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd tua 1.3 miliwn o goed ar gael gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r cynllun

Bydd pob cartref yng Nghymru yn cael cynnig coeden am ddim i'w phlannu mewn ymdrech i helpu yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

Fe fydd pobl yn gallu dewis rhwng plannu coeden gynhenid yn eu gardd, neu gael un wedi'i phlannu ar eu rhan mewn coedwig.

Bydd tua 1.3 miliwn o goed ar gael gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r cynllun, fydd yn costio £2m.

Dywedodd y dirprwy weinidog newid hinsawdd, Lee Waters y gallai'r cynllun gael effaith gadarnhaol, ond fod angen o hyd i blannu mwy o goed.

"Er mwyn cyrraedd ein targedau newid hinsawdd mae'n rhaid i ni blannu 86 miliwn o goed erbyn diwedd y degawd yma," meddai.

"Felly mae'n andros o her, yn ogystal ag argyfwng hinsawdd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd modd dewis i'ch coeden gael ei phlannu mewn coedwig, os nad oes gennych chi ardd

Mae gwyddonwyr wedi bod yn dadlau ai plannu coed yw'r ffordd orau o fynd i'r afael ag allyriadau carbon, ond dywedodd Mr Waters fod angen rhoi cynnig ar fentrau newydd, a bod buddion plannu coed yn mynd tu hwnt i gasglu carbon yn unig.

"Rydyn ni mewn argyfwng hinsawdd, ac mae'r gair argyfwng yn bwysig iawn. Allwn ni ddim disgwyl am ddatrysiad perffaith - mae'n rhaid i ni roi cynnig ar bethau ac mae'n rhaid gwneud hynny ar frys," meddai.

"Ry'n ni'n gwybod fod coed yn helpu delio gyda llifogydd, maen nhw'n helpu eich lles chi.

"Mae tystiolaeth dda fod bod o amgylch coed yn lleihau eich pwysau gwaed. Mae tystiolaeth fod mannau sydd â llawer o goed â llai o drosedd."

Dywedodd Jerry Langford o gorff Coed Cadw ei fod yn hyderus y byddai pobl yn llwyddo i fagu coed yn eu gerddi.

"Mae coed yn wydn, mewn gwirionedd. Mae'n rhaid i chi eu trin nhw'n eithaf gwael i ladd coeden, felly gydag ychydig o gariad, fe fydd yn iawn," meddai.

Bydd y coed ar gael o bum canolfan o fis Mawrth, gyda disgwyl i 20 safle arall fod ar gael erbyn hydref 2020.

Coed Cadw fydd yn gyfrifol am blannu coed i'r rheiny sy'n penderfynu peidio eu cael yn yr ardd.