Cyhuddo dyn o achosi marwolaeth ger Llaneurgain

  • Cyhoeddwyd
Michael BarnicleFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Michael Barnicle, o ardal Bae Penrhyn, ei daro gan gar ar yr A55

Mae dyn wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o achosi marwolaeth dyn 44 oed yn Sir y Fflint.

Bu farw Michael Barnicle ar 19 Medi 2020 wedi iddo gael ei daro gan gar ar yr A55 ger Llaneurgain.

Roedd Mr Barnicle, o ardal Bae Penrhyn, yn aros i'w gar, oedd wedi torri lawr, gael ei drwsio.

Ymddangosodd Martin Chard gerbron ynadon Yr Wyddgrug fore Llun.

Mae wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth Mr Barnicle trwy yrru ei Vauxhall Astra heb y gofal a sylw dyladwy.

Ni wnaeth Mr Chard bledio, a chafodd yr achos gyfeirio at Lys y Goron Yr Wyddgrug ble bydd gwrandawiad ar 7 Ionawr.

Cafodd Mr Chard ei ryddhau ar fechnïaeth a chlywodd y byddai'n rhaid iddo ymddangos yn y gwrandawiad nesaf.

Pynciau cysylltiedig