Gwŷs cyngor i sinema sy'n anwybyddu gorchymyn i gau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cinema & Co.
Disgrifiad o’r llun,

Gwelodd BBC Cymru dros ddwsin o bobl yn mynd i mewn i'r adeilad ddiwrnod wedi

Mae Cyngor Abertawe wedi cyflwyno gwŷs i berchennog sinema sydd wedi anwybyddu gorchmynion i gau am dorri rheolau coronafeirws.

Fe wnaeth Anna Redfern, perchennog Cinema & Co. ailagor y safle ar ôl rhybudd gan farnwr rhanbarthol y gallai fod mewn dirmyg llys pe bai'n gwneud hynny.

Dywed y cyngor bod pryderon difrifol yn parhau ynghylch risgiau iechyd cyhoeddus "oherwydd methiant y cwmni i ddangos eu bod wedi gweithredu mesurau priodol i leihau lledaeniad coronafeirws".

Fe osododd y cyngor folltiau dros nos fel bod hi'n amhosib agor yr adeilad.

Disgrifiad o’r llun,

Erbyn bore Gwener, roedd y cyngor...

Disgrifiad o’r llun,

... wedi bolltio caead blaen y sinema i'r llawr

Dyma'r trydydd tro i Ms Redfern dderbyn gorchymyn llys i gau'r sinema a bydd y gwrandawiad ar 14 Rhagfyr.

Mewn neges ar Facebook nos Iau, dywedodd Cinema & Co bod bwriad "gyda thristwch mawr" i ganslo dangosiadau tan weddill y flwyddyn fel bod y perchennog yn gallu helpu ei theulu "ofalu am eu mam sy'n marw".

Gam ymddiheuro am achosi "unrhyw siom", ychwanegodd y datganiad y byddai'r sinema'n "parhau i gynnal digwyddiadau preifat" a'i bod "yn dal ar gael i gymryd mwy".

Annog y busnes i barhau ynghau

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Abertawe: "Tra fod y busnes wedi nodi ei fwriad i atal dangosiadau sinema am y tro, mae'n glir eu bod yn cynllunio i aros ar agor ar gyfer digwyddiadau eraill. Mae gweithredu pellach wedi ei gymryd i orfodi Gorchymyn Llys er mwyn atal y busnes rhag agor eto a rhoi'r cyhoedd dan risg o gael eu heintio.

"Mae gwŷs llys wedi ei gyhoeddi nawr i'r perchennog, sy'n ymwneud â nifer o droseddau o ran diffyg cydymffurfio â'r rheolau iechyd presennol yn gysylltiedig â coronafeirws," ychwanegodd.

"Byddem yn annog y busnes i barhau ynghau fel y gall ymateb i'r ceisiadau gan y llys, Llywodraeth Cymru a'r cyngor, er mwyn cwblhau'r gwelliannau angenrheidiol i ddilyn y rheoliadau coronafeirws cyfredol."

Pwysleisiodd y cyngor bod hi'n "hanfodol" bod busnesau a'r cyhoedd yn dilyn y rheolau iechyd cyhoeddus, yn arbennig wedi i achosion o'r amrywiolyn Omicron ddod i'r amlwg yng Nghymru.

Pynciau cysylltiedig