Galw am wneud seiber-fflachio yn anghyfreithlon
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Benarth yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud seiber-fflachio, sef anfon delwedd anweddus yn ddigidol heb gydsyniad, yn anghyfreithlon.
"Dwi'n derbyn o leia' un llun anweddus bob mis, weithiau mwy," meddai'r dylanwadwr Jess Davies.
"Fe ddylai'r hyn sydd yn anghyfreithlon mewn bywyd go iawn fod yn anghyfreithlon ar-lein."
Dywed Llywodraeth y DU y bydd eu cynlluniau diogelwch ar-lein yn "gorfodi cwmnïau i waredu cam-drin ar y we".
Mae seiber-fflachio wedi bod yn rhan o fywyd Jess Davies ers dros ddeng mlynedd.
"Y math o luniau dwi'n derbyn yw lluniau o organ rywiol dyn neu lun o rywun yn perfformio gweithred rywiol," meddai Ms Davies.
"Pan dwi'n derbyn y fath luniau, dwi'n teimlo yn fudur a dwi'n dechrau meddwl, 'pam fi?'"
Mae Ms Davies yn poeni ei bod hi wedi dod i arfer gyda'r peth am ei fod yn digwydd mor aml.
"Ond pan 'dyn ni'n dechrau siarad am y peth yn fwy eang, fel rydyn ni'n 'neud nawr, dwi'n sylweddoli bod hyn yn hollol anghywir."
'Math o aflonyddu rhywiol'
Mae'r ymgyrch hefyd yn un personol i Aelod Seneddol Brycheiniog a Sir Faesyfed, Fay Jones.
Pan yn 17 oed, fe wnaeth dyn ddangos ei hun iddi yng nghanol Caerdydd.
"Es i 'nôl fy nhad o'r ddinas, ac wrth imi gerdded tuag at y lle bwyta fe gerddodd dyn dieithr ataf a fflachio.
"Dydw i byth wedi anghofio'r peth, ac mae'n brofiad sy'n aros gyda chi am amser hir."
"Mae seiber-fflachio yn fath o aflonyddu rhywiol, ac mae angen gwneud y fath beth yn anghyfreithlon," ychwanegodd.
Ddydd Mawrth fe fydd pwyllgor o aelodau seneddol ac arglwyddi yn cyflwyno adroddiad ar fesur drafft y llywodraeth ar ddiogelwch ar-lein.
Byddai'r ddeddfwriaeth yn gorfodi cwmnïau cyfryngau cymdeithasol i weithredu os oes deunydd anweddus yn cael ei arddangos.
Nid yw seiber-fflachio yn rhan o'r mesur.
Mae Prydain yn arwain y byd gyda'r mesur medd gweinidogion, ond mae disgwyl i'r pwyllgor gyflwyno argymhellion iddo.
'Ddim yn ddigon da'
Yn ôl Aelod Seneddol Canol Caerdydd, "dyw'r mesur fel ag y mae ddim yn ddigon da".
Roedd Jo Stevens yn weinidog diwylliant yr wrthblaid cyn symud i fod yn llefarydd Llafur ar Gymru ddiwedd mis Tachwedd.
Mae Ms Stevens yn obeithiol y bydd seiber-fflachio yn cael ei ychwanegu i'r mesur.
Mae'r Prif Weinidog Boris Johnson wedi dweud y dylai seiber-fflachio fod yn anghyfreithlon, a dywedodd Ms Stevens y byddai'r blaid Lafur yn "sicrhau eu bod nhw'n cadw at yr addewid" hyn.
Yn ôl llefarydd ar ran Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU, "mi fydd ein mesur diogelwch ar-lein yn gorfodi cwmnïau i fod yn gyfrifol am y cynnwys sydd ar-lein".
Fe allai cwmnïau wynebu dirwy sylweddol am beidio â gwneud hynny.
Mae'r llywodraeth yn gobeithio y bydd eu cynlluniau yn atal cynnwys anweddus rhag lledu dros y we gyda'r bwriad i amddiffyn plant ac oedolion rhag gorfod gweld y fath ddeunydd.
Mae rhai yn beirniadu'r mesur presennol gan ddweud nad yw'n mynd yn ddigon pell i warchod plant a menywod yn benodol.
Ond yn ôl eraill mae'r mesur yn fygythiad i'n rhyddid i fynegi barn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2021