Parhau â'r panto dros y Nadolig er gwaethaf Covid
- Cyhoeddwyd
Mae parhau â'r tymor pantomeim "mor bwysig" eleni, yn ôl aelodau un cynhyrchiad Cymreig.
Mae stori Belle a'r Bwystfil (Beauty and the Beast) yn cael ei pherfformio i gynulleidfa lawn yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug.
Bu'n rhaid darlledu cynhyrchiad y llynedd ar y we.
Er bod niferoedd achosion Covid yn cynyddu'n gyflym eto yn sgil amrywiolyn Omicron, mae theatrau'n dal ar agor.
Mae aelodau'r tîm yn Theatr Clwyd yn credu bod parhau gyda'r cynhyrchiad yn bwysig er lles y cyhoedd yn ogystal â'r diwydiant.
Colli hyder
Mae Phyl Harries yn perfformio panto yn Theatr Clwyd ers 20 mlynedd ac eleni'n chwarae rhan y Dame, Nana Nerys o Nercwys.
Mae'n dweud bod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn anodd i bawb yn y diwydiant, a bod rhai wedi gadael ar ôl colli hyder.
"Mae'r golled wedi bod yn ofnadwy. O'n i ddim yn siŵr i ddechrau - a fydden i'n dal yn ddoniol? Yn berthnasol?
"Ond unwaith i fi ddod yn ôl ar y llwyfan a chael y cynhesrwydd yna yn ôl, o'n i'n meddwl: 'Na, ni'n oce, jyst cadw i fynd a byddwn ni'n o'reit'."
Ychwanegodd: "Mae'r adborth yn unigryw, yn enwedig yn y panto.
"Chi moyn i bobl weiddi'n ôl, chi moyn yr hecklers, yn enwedig y Dame - mae hi'n byw ar yr hecklers a gallu ateb nhw yn ôl.
"Mae'r gynulleidfa wedi crefu ers dwy flynedd a ti'n gallu gweld wrth i'r llenni agor, ti'n gweld eu hwynebau nhw'n llawn hapusrwydd, yn gwenu, eu llygaid nhw'n disgleirio ac maen nhw bron a bod methu credu'r ffaith bod nhw'n gwylio sioe fyw.
"Ac ar ôl ychydig funudau maen nhw'n sylweddoli 'Odyn, ni 'nôl, ni'n gallu mwynhau, ni'n gallu ymlacio. Awê!'"
Arian i'r theatrau
Mae tymor y pantomeim yn hollbwysig i sefyllfa ariannol y rhan fwyaf o theatrau.
"Mae mor bwysig i ni gael gorffen y sioe," meddai Cassey Driver, rheolwr llwyfan i'r cynhyrchiad eleni.
"Jyst i ni gael gweld y sioe fel cylch achos chi'n dechrau ymarfer, wedyn chi'n mynd i tech ac os mae'r sioe'n stopio hanner ffordd, mae'n rili diflas. Ac mae'n rili, rili upsetting actually."
Mae perfformiadau pellter cymdeithasol wedi bod ar gael, ond mae'r rhan fwyaf o'r tocynnau wedi eu gwerthu ar gyfer y sioeau cynulleidfa lawn hefyd.
"Maen nhw'n checio'r pàs Covid ar y drws," medd Ms Driver.
"Mae pawb mewn masg. 'Den ni tu ôl y llwyfan mewn masg, mae 'na hylif dwylo ar gyfer props a rhaid i ni gymryd test bob dau neu dri diwrnod.
"Mae 'na lot o bethau mewn lle i gadw ni'n saff."
Gwefr cynulleidfa
Yn chwarae rhan Nessa, chwaer Belle, y mae Lynwen Haf Roberts.
Fe ddywedodd hi fod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn "dawel" ac nad oes unrhyw beth i gymharu â'r wefr o gael cynulleidfa'n ymateb.
"Mae'n fraint gwybod bod y gynulleidfa wedi gwneud y penderfyniad ei fod yn ddiogel i ddod yma i Theatr Clwyd i'n gwylio ni," meddai.
"'Den ni'n gwneud pob dim fedrwn ni i wneud y gofod mor ddiogel â phosib, ond hefyd 'den ni ar y llwyfan yn trio'n gorau glas i wneud i chi chwerthin a rhoi gwên ar eich wyneb chi, achos 'den ni gyd isio hynny ar ôl y ddwy flynedd ddiwethaf 'ma.
"Dyna pam dwi'n mynd i'r theatr - i gael fy ysbryd wedi ei godi."
"Os 'newch chi ddod i'r theatr wnewn ni wneud ein gorau glas i'ch cadw chi'n ddiogel a hefyd gwneud ein gorau glas i wneud i chi chwerthin."
Mae pantomeim Belle a'r Bwystfil yn cael ei berfformio yn Theatr Clwyd tan 15 Ionawr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd17 Awst 2020