Dafydd Hywel: Dim Panto am y tro cyntaf mewn 40 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Yr adeg yma o'r flwyddyn fel arfer mae Dafydd Hywel yn ei chanol hi gydag ymarferion a pherfformiadau Panto. Ond am y tro cyntaf ers bron 40 mlynedd, mae'r llwyfan yn wag, y daith wedi ei gohirio ac mae'n Nadolig tawel i'r actor a'r cyfarwyddwr.
"Fi wedi dweud ers 10 mlynedd mod i'n rhoi'r gorau iddi... ond fi yn methu fe i ddweud y gwir," meddai'r actor sydd wedi bod yn aelod o gast Pobol y Cwm a serennu mewn ffilmau fel Yr Alcoholig Llon.
Mae panto'r cwmni theatr mae'n brif weithredwr arno, Cwmni Mega, yn un o'r sioeau sydd wedi cael eu gohirio y Nadolig yma oherwydd y pandemig.
Fel arfer fe fyddai'r criw wedi bod yn ymarfer ers mis Hydref ac yn teithio theatrau Cymru o ddechrau Rhagfyr tan y penwythnos cyn y Nadolig gyda dwy sioe bron bob dydd.
Beth fi yn rili gobeithio yw fod pethe'n gwella yn y flwyddyn newydd a bod ni'n gallu gwneud y sioe yn mis Gorffennaf.
Maen nhw'n cael digon o hwyl yr un pryd hefyd wrth deithio a Dafydd Hywel - neu DH i bawb yn y busnes - fel arfer yn dathlu ei ben-blwydd ar 4 Rhagfyr tra maen nhw ar y daith.
"Ni'n cael parti mawr wedyn fel arfer. Mae'n od iawn heb hwnna 'leni," meddai'r actor sy'n dathlu ei ben-blwydd yn 75 mlwydd oed.
"Ni'n cael lot o sbri.
"Mae cwpl o ffrindie sy'n gweld fi wedi blino amser fi'n mynd ar daith ond ma fe yn od heb y buzz a dweud y gwir."
Tra mae rhai grwpiau fel Cwmni Bro Ffestiniog a Theatr Felinfach wedi llwyddo i greu cynyrchiadau ar-lein neu yn y gymuned, dydi hynny ddim wedi bod yn bosib i Cwmni Mega ond maen nhw'n gobeithio perfformio eu sioe ar lwyfannau yn haf 2021.
"Oedd y daith wedi cael ei threfnu ac roedd popeth yn barod. Ond beth sydd wedi bod yn neis ydi bod y theatrau a'r neuaddau o'n ni fod i fynd iddyn nhw i gyd wedi dweud bod nhw'n hapus iawn inni neud e yn mis Gorffennaf.
"Fydden i'n eitha hapus gwneud hynny - nag y'n ni'n galw fe'n banto, sioe yw e ac allwn ni neud e mis Gorffennaf, ond mae i gyd yn dibynnu be' sy'n digwydd yn y flwyddyn newydd."
"Ond mae pawb yn derbyn ei bod yn gyfnod anodd," meddai Dafydd gan egluro fod ei ferch yn dysgu mewn ysgol ac mae'n deall pryderon athrawon.
"Mae yn broblem a hyd yn oed os fydden ni'n galw nhw mewn i'r theatr bydde rhaid iddyn nhw fod ar wahân ac yn y blaen..."
Dechrau yn y 1980au
"Hywel Gwynfryn a Caryl Parry Jones sgrifennodd y panto cyntaf imi nôl yn yr 80au, Chwarae Teg oedd enw'r cwmni bryd hynny wedyn yn 1994 dechreuon ni Cwmni Mega.
"Y panto cyntaf wnes i erioed, oedd Dewi Pws ynddo fe, a Hywel a Caryl sgrifennodd y tair neu bedair cyntaf.
"Tair blynedd yn ôl wedyn dyma Hywel a Caryl yn ysgrifennu un arall, wedyn blwyddyn yma mae Caryl Parry Jones a Non Parry wedi ei ysgrifennu."
Sioe sy'n taclo bwlio ydi hi, gydag elfennau ysgafn hefyd a fydd yn apelio at bobl ifanc - sef y brif gynulleidfa mae Dafydd Hywel eisiau eu denu a'u dysgu am Gymru.
Fi'n licio gwneud storis mas o hanes Cymru a trio dod a fe'n fyw i bobl ifanc a'r athrawon.
"Dros y blynydde elements o banto ni'n iwso - dwi ddim yn licio'r dyn wedi gwisgo fel menyw - y Dame - ni ddim wedi cael Dame ers blynydde mawr mawr! Fi'n licio gwneud storis mas o hanes Cymru a trio dod a fe'n fyw i bobl ifanc a'r athrawon."
Reslo ar y llwyfan
Un perfformiad cofiadwy i Dafydd oedd panto gyda'r reslwr Orig Williams.
"Wnaethon ni ddwy sioe panto gydag Orig Williams a'r reslars Warrior a Blackie, dyma nhw'n dod mas ac oedd y kids yn bownso ac o'dd hi'n rial ffeit ar y llwyfan," meddai.
"Oedd un yn y Muni ym Mhontypridd a dyma Blackie yn twlu y ddou off y llwyfan a a'thon nhw drwy ddrws y Muni a smac mewn i ryw fenyw yn pwshio troli llawn bwyd!"
Un arall mae'n falch ohoni yw pan glywodd bobl ifanc yn trafod hanes yn frwd ar y ffordd allan o weld y sioe Madog un flwyddyn.
Meithrin actorion a thechnegwyr
"Helen Wyn sy'n rhedeg y cwmni gyda help Lisa Marged, wedyn fi sy'n cyfarwyddo a mynd ar y daith i wneud yn siŵr bod pawb yn bihafio - fi'n licio bod yn hands on.
"Beth fi'n falch mwy na dim byd yw ein bod ni wedi dechrau lot o actorion ifanc a technegwyr mewn teledu neu'r theatr.
"Fi'n trial rhedeg e fel dechreues i blynydde maith yn ôl gyda cwmni theatr Wilbert Lloyd Roberts [Cwmni Theatr Cymru], o'n ni'n bedwar guinea pig - gyda John Ogwen, Gaynor Morgan Rees a Beryl Williams. Ro'n ni'n cael rhannau bach mewn dramâu a helpu tu ôl y llwyfan i ddechrau so oedd e'n ffordd dda o ddysgu aml-grefft - o'n ni'n neud y cwbl.
"A fi'n lico pawb yn aros gyda'i gilydd yn yr un gwesty wedyn mae pawb yn dod i adnabod ei gilydd.
"Fi yn methu fe i ddweud y gwir. Fi'n trio bod yn rhan o'r sioe ar y dechre, amser bod y bobl ifanc yn dod i fewn.
"Beth fi yn rili gobeithio yw fod pethe'n gwella yn y flwyddyn newydd a bod ni'n gallu gwneud y sioe yn mis Gorffennaf."
Er ei holl brofiad mewn theatrau, mae Dafydd yn datgelu mai teledu a ffilm yw ei hoff gyfrwng ac er na fydd y panto i'w gweld eleni fe fydd DH i'w weld yn actio mewn dwy ffilm o'r un cyfnod ag y dechreuodd ei gwmni drama.
Mae S4C yn dangos dwy ffilm o'r 1980au a oedd yn rhywfaint o oes aur mewn cynhyrchu ffilmiau Cymraeg, sef Milwr Bychan gyda'r Richard Lynch ifanc fel milwr yng Ngogledd Iwerddon a Rhosyn a Rhith, lle mae Dafydd Hywel yn serennu gyda Iola Gregory.
Gallwch chwilio amdanyn nhw ar wefan S4C Clic., dolen allanol
Hefyd o ddiddordeb: