Disgwyl cyhoeddiad beth fydd rheolau Covid wedi'r Nadolig
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, gyhoeddi rheolau coronafeirws newydd ar gyfer y cyfnod wedi'r Nadolig brynhawn Mercher.
Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl y bydd miloedd o achosion o Omicron yng Nghymru erbyn Gŵyl San Steffan ac yn dweud bod angen mwy o gyfyngiadau er mwyn atal y gwasanaeth iechyd rhag cael ei lethu.
Gallai mesurau newydd gynnwys gwasanaeth bwrdd, ymbellhau cymdeithasol ac uchafswm o chwech yn cael ymgynnull wrth fwrdd mewn bwytai a thafarndai.
Fe allai cyfyngiadau ar faint sy'n cael cwrdd mewn cartrefi preifat hefyd gael eu cyhoeddi.
Ond dyw hi ddim yn glir a fydd cymysgu mewn cartrefi preifat yn destun rheolau newydd neu yn gyngor cryf.
Er nad oes disgwyl i unrhyw newidiadau ddod i rym cyn y Nadolig, dyw hi ddim yn glir eto pryd wedi'r Nadolig y bydd y newidiadau yn orfodol.
Does dim disgwyl cyhoeddiad am glo mawr arall fel Nadolig y llynedd, er i nifer yr achosion o Omicron a gadarnhawyd yng Nghymru gynyddu o 204 i 640 ddydd Mawrth.
Bydd y gynhadledd i'r wasg yn cael ei chynnal toc wedi hanner dydd brynhawn Mercher, gyda datganiad gan y Prif Weinidog yn y Senedd am 13:30.
Adalw'r Senedd
Mae Aelodau o'r Senedd wedi eu galw'n ôl o'u gwyliau Nadolig er mwyn trafod y mater ar gais y Ceidwadwyr Cymreig a gyda chefnogaeth Plaid Cymru.
Mae rhai cyfyngiadau eisoes wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer y dyddiau wedi'r Nadolig, gan gynnwys atal cefnogwyr rhag mynd i wylio chwaraeon tu fewn na thu allan, ar lefel broffesiynol a chymunedol, o Ŵyl San Steffan ymlaen.
O 27 Rhagfyr fe fydd clybiau nos Cymru yn gorfod cau a rheolau ymbellhau cymdeithasol o ddwy fetr yn cael eu hailgyflwyno mewn gweithleoedd a siopau.
Gallai gweithwyr hefyd wynebu £60 o ddirwy os ydyn nhw'n mynd mewn i'r gweithle heb reswm da.
Yn yr Alban, fe fydd cyfyngiadau ar faint digwyddiadau yn cael eu cyflwyno o Ŵyl San Steffan ymlaen.
Ddydd Mawrth fe gyhoeddodd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, na fyddai unrhyw fesurau yn cael eu cyflwyno cyn y Nadolig, ond nad oedd modd dweud a fyddai rhai yn orfodol wedi'r Ŵyl.
Mae Gweinidogion yng Nghymru eisoes wedi cynghori pobl i fod yn wyliadwrus yn ystod y dyddiau cyn y Nadolig, gyda "chyngor cryf" y dylai pobl adael diwrnod rhwng cyfarfod â gwahanol bobl dros yr Ŵyl a chwrdd tu allan.
Cefnogaeth i fusnesau?
Mae busnesau lletygarwch wedi bod yn gofyn am fwy o gefnogaeth ariannol gan y llywodraeth ers i fusnes arafu dros yr wythnosau diwethaf.
Yn ôl David Chapman, Cyfarwyddwr Hospitality UK Cymru, mae angen eglurder ynglŷn ag unrhyw gyfyngiadau a chefnogaeth ariannol, ac mae'n gobeithio y bydd unrhyw gyfyngiadau yn caniatáu busnesau i barhau ar agor.
"Bydd hi'n dipyn anos gyda mesurau yn eu lle - fe fydd hynny'n achosi colledion hyd yn oed os ydyn nhw'n cael parhau ar agor," meddai.
Ddydd Mawrth dywedodd Canghellor y DU y byddai mesurau i gefnogi'r sector lletygarwch yn Lloegr, gan gynnwys grantiau ariannol o hyd at £6,000 i bob busnes cymwys.
Dywedodd Mr Chapman ei fod yn croesawu'r cyhoeddiad ac er na fyddai'n arbed busnesau fe fyddai yn sicrhau na fydd rhai yn mynd i'r wal y gaeaf hwn. Fe alwodd am gyhoeddiad tebyg yng Nghymru.
Mewn llythyr at Lywydd y Senedd yn gofyn am adalw aelodau Bae Caerdydd i drafod cyhoeddiad y Prif Weinidog ddydd Mercher, dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, fod Llywodraeth Cymru "mewn perygl o danseilio hyder y cyhoedd ar adeg mor bwysig o'r flwyddyn" wrth iddynt gyhoeddi cyfyngiadau newydd drwy ddatganiadau i'r wasg.
Dywedodd dau o berchnogion busnesau ar benrhyn Gwŷr ger Abertawe wrth Dros Frecwast fore Mercher y byddai symud i lefel rhybudd 2 yn cael effaith arnyn nhw, a bod angen cefnogaeth ac eglurder at y dyfodol i fusnesau.
Dywedodd Debbie Durham o gwmni priodasau Oldwalls, pe bai priodasau yn cael eu cyfyngu i 30 o westeion fel oedd yr achos cyn yr haf, y byddai hynny "mor siomedig".
Ychwanegodd fod gan y busnes 25 o briodasau wedi'u trefnu dros yr wythnosau nesaf, a bod dros 100 o staff wedi'u cyflogi i weithio arnynt.
"Ni 'di prynu'r bwyd, ni 'di paratoi popeth yn barod, a byddai'n shwd gymaint o arian i ni golli eto fel cwmni," meddai.
"Ni ffaelu 'neud e eto - colli shwd gymaint o arian."
Ychwanegodd ei bod yn deall yr angen am ragor o gyfyngiadau, ond fod angen rhagor o gymorth ar y busnesau hynny sy'n cael eu heffeithio.
'Amser cymhleth tu hwnt'
Dywedodd Hywel Griffith o fwyty The Beach House eu bod eisoes wedi cael pobl yn canslo oherwydd eu bod yn gorfod ynysu, ond hefyd oherwydd pryder am unrhyw reolau newydd.
"Yr ansicrwydd ydy'r peth mwyaf i ni - iawn, ella ein bod ni'n mynd i lefel 2 rŵan, ond be sy'n digwydd yn Ionawr?" meddai ar Dros Frecwast.
"Mae o'n amser cymhleth tu hwnt."
Dywedodd Heidi Bakewell, rheolwr Tafarn a Bwyty Bryncynan ger Nefyn yn Llŷn: "Dydyn ni erioed wedi stopio efo'r table service beth bynnag - 'dan ni'n gweld bod ein cwsmeriaid ni yn licio'r profiad hynny, a 'dan ni'n deall bod angen mwy o gyfyngiadau mewn lle.
"Ond fe fyddai'n haws i ni fel tafarndai pe bai'r canllawiau yn dod allan yn gynt yn hytrach na'n hwyrach fel nad ydyn ni'n gor-archebu a chael amser i argraffu taflenni a ballu efo'r canllawiau newydd arnyn nhw."
Ychwanegodd Sara Bailey, sy'n rhedeg caffi Hot Gossip yn Nhreorci, Rhondda Cynon Taf, ei bod yn "ychydig yn ddigalon meddwl ein bod o bosib am fynd 'nôl i'r rule of six a chyfyngiadau eraill".
"Mae hi ychydig yn haws ymdopi wedi'r Nadolig ac ym mis Ionawr, ond y broblem yw, pan maen nhw'n cyflwyno'r cyfyngiadau yma, maen nhw'n ymddangos yn gyndyn iawn i'w codi nhw eto, dim ots os ydy'r sefyllfa yn gwella," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2021