Rheolau newydd yn 'ergyd ddinistriol' i dafarndai a bwytai
- Cyhoeddwyd

Caitlin Morse a Lewis Johnstone yw perchnogion tafarn Y Ffarmers yn Llanfihangel-y-Creuddyn
Dyma "gyfnod anoddaf y pandemig i hyd yma" i fusnesau fel tafarndai a bwytai, yn ôl corff sy'n cynrychioli'r sector lletygarwch.
Cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y bydd Cymru'n dychwelyd i Lefel Rhybudd Dau o 26 Rhagfyr er mwyn atal lledaeniad Covid-19.
Bydd y 'rheol chwe pherson' yn dychwelyd i dafarndai, bwytai, sinemâu a theatrau a dim ond 30 o bobl fydd yn gallu cwrdd dan do, a 50 tu allan.
Bydd rheolau ymbellhau cymdeithasol mewn mannau cyhoeddus yn cael eu tynhau a bydd clybiau nos yn cau.
Daeth y cyhoeddiad gan y llywodraeth wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru gofnodi'r nifer uchaf o achosion o Covid-19 mewn diwrnod ers dechrau'r pandemig.
Yn ôl y Gymdeithas Diwydiannau Gyda'r Nos (NTIA) mae'r cyfyngiadau newydd yn "ergyd ddinistriol" i letygarwch a'r sector nos ehangach.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd £120m ar gael i fusnesau sy'n cael eu heffeithio, ond mae rhai'n galw am gefnogaeth bellach.
'Byddwn ni angen help ariannol'
Dywedodd perchennog tafarn Y Ffarmers yn Llanfihangel-y-Creuddyn, Ceredigion, ei bod eisiau eglurder ar y gwahaniaeth rhwng cymysgu mewn tafarn neu mewn cartref preifat.
Ni wnaeth Mark Drakeford gyhoeddi rheolau cyfreithiol ar gymysgu mewn cartrefi, ond awgrymodd y dylid cadw at dair aelwyd.
Dywedodd Caitlin Morse o dafarn Y Ffarmers: "Petai Mark Drakeford yn cerdded i mewn yma, bydde rhaid i mi ofyn sut mae'n iawn cael lot o bobl yn cymdeithasu gartref ond eto mewn tafarn dim ond chwech o bobl sy'n cael.
"Ry'n ni'n diheintio popeth, mae digon o le a ni gyd yn gwisgo mygydau felly mae'n llawer mwy diogel na chartref."

Roedd Gareth Evans yn disgwyl cyfyngiadau fyddai'n effeithio ar fwyty Baravin yn Aberystwyth
Ychwanegodd eu bod yn colli busnes yn barod, gyda bron i dri chwarter o fyrddau oedd wedi bwcio ar gyfer nos Wener bellach wedi canslo.
Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd £120m o gymorth i fusnesau lletygarwch, ond cwestiynodd Ms Morse y polisi.
"Beth yw'r criteria am ei gael e achos yn ogystal â'r effaith ar wythnosau prysuraf y flwyddyn, bydd yr wythnosau yma yn ein helpu drwy'r misoedd tawel sydd i ddod, a byddwn ni angen help."
Croesawu'r cefnogaeth ariannol
Er yn disgwyl gweld mesurau fel mygydau a rheol chwe pherson yn dychwelyd, dywedodd Gareth Evans o far a bwyty Baravin yn Aberystwyth mai rheol arall fyddai'n cael yr effaith fwyaf.
"Y two metre rule, fi'n credu na'r rheol yw'r un sy'n mynd i effeithio ni fwyaf fel busnes.
"Fi'n croesawu'r cyhoeddiad bod nhw'n mynd i agor y funding i ddod trwyddo i fusnesau, just dishgwl gweld nawr sut mae'r arian 'na yn cael ei rannu mas rhwng y busnesau."

Simon Buckley ydy perchennog gwesty Plas Hafod
Dywedodd perchennog gwesty yn Sir y Fflint y byddai cyfyngu grwpiau i chwech yn cael "effaith ddramatig" ar ei fusnes, a hynny ar ôl cyfnod anodd.
"Mae Rhagfyr i gyd i lawr, 'da ni'n 'neud rhan fwyaf ein busnes ym mis Rhagfyr, ond 'da ni lawr 70%", meddai Simon Buckley, o Westy Plas Hafod yng Ngwernymynydd ger Yr Wyddgrug.
"Ond hyd yn oed cyn hyn [cyfyngiadau newydd] mae wedi bod yn ofnadwy - fel arfer 'da ni'n 'neud tua 20 o bartïon Dolig neu ben-blwydd mawr. Ond eleni, tri 'da ni wedi cael."
Dywedodd Mr Buckley, sy'n berchen y gwesty ers 30 mlynedd, ei fod yn ceisio cynllunio, ond bod dim sicrwydd ar faint o stoc i'w archebu na faint o staff sydd angen.
"Falle byddwn ni just yn cau am 'chydig wythnosau ym mis Ionawr, achos yn ariannol dydy o ddim werth i ni agor."
'Amhosib'

Bydd theatr Canolfan y Mileniwm yn cau ar 26 Rhagfyr
Mae Canolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd wedi cyhoeddi y bydd y theatr yn cau o ddydd Sul tan o leiaf 15 Ionawr.
Mae eu prif sioeau wedi canslo ar 23 a 24 Rhagfyr hefyd.
Mewn datganiad, dywedodd y ganolfan bod y cyfyngiadau newydd "wedi ei gwneud hi'n amhosib i ni agor y theatr mewn ffordd sy'n cynnig profiad da i'r gynulleidfa ac sy'n ymarferol yn economaidd".

Mae sawl theatr wedi gorfod canslo eu sioeau dros gyfnod y Nadolig
Yn Theatr Clwyd yn Yr Wyddgrug, bydd rhai digwyddiadau bach yn parhau ond mae'r theatr wedi gorfod canslo eu prif sioe dros y Nadolig.
Dywedodd Liam Evans-Ford, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd: "Does dim ffordd y gallwn wneud penderfyniad i symud o gapasiti llawn i gapasiti 20-30% a chaniatáu i rai gadw eu tocynnau a rhai i beidio.
"Gall rhai pethau barhau yn y theatr oherwydd eu bod ar raddfa llai, a gallwn ymbellhau'n gymdeithasol.
"Mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn adfer ein colledion ariannol nawr. Y gwir her yw'r ansicrwydd am beth sy'n dod nesaf."
Cwestiynau am gymorth ariannol

Bydd yn rhaid i glybiau nos gau'n gyfan gwbl ar 26 Rhagfyr
Dywedodd y Gymdeithas Diwydiannau Gyda'r Nos (NTIA) fod arolwg o'r sector yr wythnos hon wedi dangos fod effaith ariannol y cyfyngiadau "eisoes yn llawer mwy na'r gefnogaeth sy'n cael ei gynnig".
Ychwanegodd yr NTIA eu bod yn cydnabod fod Llywodraeth Cymru wedi'u cyfyngu'n ariannol o ran faint o gefnogaeth allen nhw gynnig, a bod angen rhagor o gymorth gan San Steffan.
"Rydyn ni'n galw ar Lywodraeth y DU i ailgyflwyno ffyrlo yn syth, a darparu cefnogaeth gymesur i'r gwledydd datganoledig fel bod busnesau ar draws y DU yn gallu goroesi beth sydd nawr yn edrych fel cyfnod anoddaf y pandemig hyd yma."
Mae Mr Drakeford yn dweud y bydd symud i 'Lefel Rhybudd Dau' yn helpu busnesau "i barhau i fasnachu tra'n cryfhau mesurau i wella iechyd cyhoeddus".
Ond mae'n cyfaddef y bydd hyn yn effeithio ar fusnesau, ac felly bydd £120m ar gael i glybiau nos, digwyddiadau, siopau, lletygarwch a busnesau twristiaeth a hamdden er mwyn eu helpu nhw.
Mae disgwyl rhagor o fanylion ar hynny gan y Gweinidog Economi Vaughan Gething ddydd Iau, meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2021