Mwy o gyfyngiadau yng Nghymru o 26 Rhagfyr
- Cyhoeddwyd
Bydd y 'rheol chwe pherson' ac ymbellhau cymdeithasol yn cael eu hailgyflwyno yng Nghymru ar 26 Rhagfyr wrth i ni ddechrau ar "gyfnod mwyaf difrifol y pandemig hyd yma," yn ôl y Prif Weinidog.
Cyhoeddodd Mark Drakeford ddydd Mercher y bydd Cymru'n symud i Lefel Rhybudd Dau ddiwrnod wedi'r Nadolig.
O dan y rheolau newydd, ni fydd mwy na 30 o bobl yn cael mynychu digwyddiad dan do, neu 50 o bobl ar gyfer digwyddiadau tu allan.
Bydd y mesurau gafodd eu cyhoeddi'r wythnos ddiwethaf ar gyfer y cyfnod wedi'r Nadolig, gan gynnwys cau clybiau nos, bellach yn dod i rym ar 26 Rhagfyr hefyd.
Ni fydd rheolau cyfreithiol i gyfyngu ar gymysgu yn nhai a gerddi pobl, ond awgrymodd Mr Drakeford cadw at dair aelwyd ar y tro.
"Does yr un ohonom eisiau gweld y cyfyngiadau a'r lefelau rhybudd yn dychwelyd," meddai'r Prif Weinidog.
Ond "os ydyn nhw'n cael yr effaith rydyn ni'n ei fwriadu," meddai, "mae'n lleihau'r risg y bydd angen mwy arnom".
Beth fydd yn newid?
Dyma fydd y newidiadau yng Nghymru o 26 Rhagfyr:
Cadw pellter cymdeithasol o 2m mewn mannau cyhoeddus ble mae modd;
'Rheol chwe pherson' yn dychwelyd i lefydd fel lletygarwch, sinemâu a theatrau;
Mesurau ychwanegol i dafarndai a bwytai, fel gwasanaeth bwrdd, mygydau, a chasglu manylion cyswllt;
Hyd at 30 yn cael cwrdd ar gyfer digwyddiadau dan do, a hyd at 50 y tu allan;
Clybiau nos i gau;
Rheolau ymbellhau cymdeithasol o ddwy fetr mewn gweithleoedd a siopau;
Bydd gemau chwaraeon broffesiynol yn digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig - ond caiff hyd at 50 o bobl fynd i wylio gemau cymunedol, a bydd eithriad ar gyfer chwaraeon plant.
Yn ogystal, ers dydd Llun gallai unrhyw un sy'n mynd i'r gwaith pan nad oes angen wynebu dirwy o £60.
Er na fydd cyfyngiadau cyfreithiol ar gwrdd mewn tai pobl, dywedodd y Prif Weinidog y bydd trosedd benodol yn cael ei chyflwyno ar gyfer casgliad mawr o bobl.
Fe fydd hi'n anghyfreithlon i dros 30 o bobl gwrdd dan do, a 50 o bobl yn yr awyr agored.
Ychwanegodd y bydd y rheolau mewn grym am yr amser byrraf posib, ac y byddan nhw'n cael eu hadolygu'n gyson.
LFT yn lle hunan-ynysu
Cyhoeddodd Mr Drakeford newid i'r rheolau hunan-ynysu hefyd.
Bellach ni fydd rhaid i blant ac oedolion sydd wedi eu brechu'n llawn hunan ynysu os ydyn nhw wedi bod mewn cyswllt gyda rhywun a Covid-19.
Yn hytrach, fe fydd yn rhaid iddyn nhw gymryd prawf llif unffordd (LFT) bob dydd, ac fe fyddan nhw'n cael mynd i'r gwaith.
Ond fe fydd y rheiny sydd heb eu brechu'n llawn yn parhau i orfod hunan ynysu os ydyn nhw wedi bod yn gyswllt agos.
Awgrymu cadw at dair aelwyd ar y pryd
Dywedodd Mark Drakeford na fydd rheolau cyfreithiol i gyfyngu ar gymysgu yn nhai a gerddi pobl oherwydd y nifer sydd wedi'u brechu, argaeledd profion llif unffordd, a bod pobl bellach yn fwy ymwybodol o sut i amddiffyn eu hunain.
Ond fe awgrymodd tair aelwyd ar y tro fel rheol i'w dilyn.
Dywedodd y dylai pobl wneud pum peth os yn cyfarfod â phobl eraill yn eu tai:
Cyfyngu nifer y bobl sy'n dod i'ch cartref;
Sicrhau fod pobl yn gwneud prawf llif unffordd cyn ymweld;
Cwrdd yn yr awyr agored os yn bosib, ond sicrhau fod digon o awyr iach yn dod i'r ystafell os yn cwrdd dan do;
Gadael bwlch rhwng unrhyw ymweliadau;
Cofio cadw pellter cymdeithasol a golchi'ch dwylo.
'Angen cymorth' ffyrlo gan Lywodraeth y DU
Dywedodd Mr Drakeford y bydd symud i 'Lefel Rhybudd Dau' yn helpu busnesau "i barhau i fasnachu tra'n cryfhau mesurau i wella iechyd cyhoeddus".
Bydd £120m ar gael i fusnesau lletygarwch, hamdden, a thwristiaeth fydd wedi eu heffeithio gan y cyfyngiadau, sy'n cynnwys £60m a gyhoeddwyd yn barod.
Mae disgwyl rhagor o fanylion ar hynny gan y Gweinidog Economi Vaughan Gething ddydd Iau, meddai.
Ond dywedodd y byddai angen cymorth Llywodraeth y DU pe tai angen mynd yn bellach, gan ailadrodd ei alwad arnynt i ailgyflwyno mesurau ffyrlo ar gyfer y sectorau sydd wedi eu heffeithio gan y cyfyngiadau newydd.
"Does gan Lywodraeth Cymru ddim y grym ariannol yn y bôn nac hyd yn oed ffyrdd ymarferol o helpu pobl sydd o bosib methu gweithio," meddai.
"Ar gyfer hynny, mae angen cymorth Llywodraeth y DU."
'Tafarndai yn ddiogel'
Dywedodd perchennog tafarn Y Ffarmers yn Llanfihangel-y-Creuddyn ei bod eisiau eglurder ar y gwahaniaeth rhwng cymysgu mewn tafarn neu mewn cartref preifat.
"Petai Mark Drakeford yn cerdded i mewn yma, bydde rhaid i mi ofyn sut mae'n iawn cael lot o bobl yn cymdeithasu gartref ond eto mewn tafarn dim ond chwech o bobl sy'n cael", meddai Caitlin Morse.
"Ry'n ni'n diheintio popeth, mae digon o le a ni gyd yn gwisgo mygydau felly mae'n llawer mwy diogel na chartref."
Ymateb y gwrthbleidiau
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies ei bod hi wedi bod yn "anoddach" i bobl ddeall a dilyn y rheolau wedi i'r Llywodraeth ryddhau'r manylion fesul tipyn yn ystod yr wythnos.
Dywedodd hefyd y dylai rheolau newydd gael eu pasio yn y Senedd gyntaf cyn cael eu cyflwyno, fel sy'n digwydd yn San Steffan.
Roedd yn cytuno, fodd bynnag, gyda Mark Drakeford y dylai pobl gymryd "cyfrifoldeb personol" dros daclo'r feirws.
Ond mynnodd fod "dryswch" yn y rheolau gweithio o adref o hyd, gyda phobl yn gallu "mynd i'r dafarn heb ddirwy, ond cael dirwy os ydyn nhw'n mynd i'r gwaith".
Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth fod angen cymryd "camau cadarn" yn sgil "difrifoldeb y bygythiad".
Ychwanegodd y gallai fod angen "cryfhau" y rheolau yn y flwyddyn newydd, gan rybuddio bod angen bod yn wyliadwrus o hyd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2021