Archesgob: 'Diolch am gyfraniad gweithwyr rheng flaen'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Andy JohnFfynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

Dyma neges Nadolig gyntaf Andy John fel Archesgob yr Eglwys yng Nghymru

Mae'n bwysig cofio am amseroedd da a chyfraniad y rhai sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau rheng flaen eraill, yn ôl Archesgob yr Eglwys yng Nghymru.

Mae arweinwyr crefyddol eraill hefyd wedi cyfeirio at "weithredoedd da" y pandemig ac at y "dyletswydd i atal lledaeniad yr haint".

"Gydol y cyfnod hwn rydym wedi gweld gweithredoedd anhygoel o garedigrwydd yn ein cymunedau," meddai'r Archesgob Andy John.

"Rwyf i'n dyst personol i lawenydd wynebau'n cyfarch ei gilydd ar wasanaethau Zoom, llewyrch cynnes lleisiau'n falch o gyfarfod ffrindiau a chymdogion, hyd yn oed i lawr llinellau digidol."

Dyma neges Nadolig gyntaf Andy John fel Archesgob.

Cafodd ei ethol i'r swydd yn dilyn pleidlais ymhlith aelodau Coleg Etholiadol yr Eglwys yng Nghymru ddechrau mis Rhagfyr.

'Golau mewn cyfnod tywyll'

Wrth agor ei neges dywedodd: "Pwy a feddyliai y byddem ni, unwaith eto, yn wynebu cyfnod o ansicrwydd wrth geisio cael gwared ar y pandemig y mae'r byd i gyd yn ei afael?

"Aeth blwyddyn arall heibio, ac unwaith eto rydym yn ystyried pa fath o newidiadau a allai fod o'n blaenau wrth i ni wynebu 'normal newydd' arall.

"Bydd llawer ohonom yn edrych yn ôl ac yn meddwl am y cyfleoedd nad ydym ni wedi'u cael, anwyliaid wedi'u colli ac achlysuron aeth heibio am byth."

Ond mae'n dweud ei bod hi'n bwysig cofio am unrhyw ddaioni a ddaeth yn sgil yr ansicrwydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr Archesgob ei fod am ddiolch yn benodol i weithwyr rheng flaen

"Mae neges y Nadolig yn atseinio'n gryf yn fy mhrofiad i fy hunan eleni: mae golau wedi disgleirio'n ddisglair mewn amseroedd tywyll ac mae gobaith wedi gafael ar yr adegau mwyaf annisgwyl," ychwanegodd.

"Felly yr oedd hi pan gyrhaeddodd Mair a Joseff Bethlehem. Ychydig fyddai wedi dyfalu bod hyn yn ddechrau rhywbeth newydd a gwahanol.

"Mae Cristnogion yn credu ac yn dathlu dyfodiad Duw i'n plith, dyma'r funud pan gamodd Duw i faterion dynol ryw a dangos beth yn union yw cariad gweddnewidiol.

"Pan fyddwn yn cofio fod hyn wedi digwydd trwy enedigaeth plentyn i deulu mewn rhagorsaf Rufeinig, mae mor anhygoel â'r neges o obaith ei hunan."

Dywedodd ei fod am roi sylw arbennig i gyfraniad gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau rheng flaen eraill.

"Rwyf eisiau diolch unwaith eto i'r rhai sydd wedi dangos y cariad anhunanol hwnnw sydd wedi cyffwrdd â bywydau pob dydd - y rhai'n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau rheng flaen eraill," meddai.

"Rwyf eisiau diolch i'r unigolion dirifedi sy'n sicrhau nad yw ffrindiau a chymdogion yn teimlo'n ynysig nac yn cael eu hanghofio.

"Yn fwy na dim, rwyf eisiau diolch i'r llu o bobl ddiymhongar sydd wedi dangos beth mae cariad ymarferol yn gallu ei wneud.

"Mae'n ymddangos i mi eu bod nhw ymysg y rhai sydd wedi dod agosaf at oleuni'r plentyn Crist ac wedi deall fod gan gariad wyneb dynol," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
Disgrifiad o’r llun,

"Mae angen ysbryd o gymod," medd Beti Wyn James

Yn ei neges Nadolig mae Beti Wyn James, Llywydd Undeb yr Annibynwyr, dolen allanol, yn dweud bod yn rhaid gweithredu ysbryd y Nadolig er mwyn gwella'r rhaniadau sydd wedi'u creu gan y pandemig ac mae'n nodi hefyd bod hi'n "ddyletswydd ar bawb i atal lledaeniad yr haint".

"Ganwyd Crist i gymodi rhwng Duw a dynoliaeth, ac mae gwir angen yr ysbryd hwnnw o gymod, goddefgarwch a chariad yn ein cymdeithas y Nadolig hwn," ychwanegodd.

Gweld gobaith yn y syniad traddodiadol o eni gwyrthiol a wnaeth Densil Morgan, llywydd etholedig Undeb y Bedyddwyr, yng nghylchgrawn Cenn@d, dolen allanol.

Gydol y mis mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru wedi bod yn rhannu amrywiol negeseuon drwy gyfrwng calendr adfent digidol.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan EBC - PCW

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan EBC - PCW