Covid: Gêm Dreigiau v Caerdydd wedi'i gohirio
- Cyhoeddwyd

Dywedodd y Bencampwriaeth Rygbi Unedig bod nifer o achosion positif Covid ymhlith y ddwy garfan
Mae gêm ddarbi'r Dreigiau yn erbyn Caerdydd ar ddydd Calan wedi cael ei gohirio oherwydd Covid-19.
Mewn datganiad dywedodd y Bencampwriaeth Rygbi Unedig (URC) bod nifer o achosion positif o'r haint wedi cael eu hadrodd ymhlith carfannau'r ddau dîm.
Cafodd gemau blaenorol y ddau dîm hefyd eu canslo ar Ddydd San Steffan wedi i achosion o'r amrywiolyn Omicron a chyfyngiadau newydd ddod i rym yng Nghymru.
Roedd y Dreigiau i fod i wynebu'r Gweilch ar 26 Rhagfyr, ac roedd Caerdydd i fod i chwarae'r Scarlets.

Cafodd y gêm rhwng Caerdydd a'r Scarlets a'r Ddydd San Steffan ei gohirio gyda diwrnod o rybudd
Ar hyn o bryd, mae gêm y Scarlets yn erbyn y Gweilch dal ymlaen ar 1 Ionawr.
Mae gemau Ulster yn erbyn Leinster, a Chaeredin yn erbyn Glasgow hefyd wedi cael eu gohirio ddydd Calan oherwydd Covid-19.
Mewn datganiad dywedodd y Bencampwriaeth Rygbi Unedig (URC): "Roedd y gemau i fod i gymryd lle ar ddydd Sadwrn a Sul, ond mae nifer o achosion positif o Covid-19 ymhlith carfannau Caerdydd, y Dreigiau, Ulster a Glasgow wedi cael eu hadrodd.
"Mae grŵp cynghori iechyd yr URC wedi trafod gyda thimau meddygol Caerdydd, y Dreigiau, Glasgow ac Ulster a'r awdurdodau iechyd priodol ac wedi penderfynu na all y gemau fynd ymlaen fel oedd disgwyl.
"Bydd y Bencampwriaeth Rygbi Unedig nawr yn ystyried y dyddiadau sydd ar gael i aildrefnu'r gemau yma."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2021