Tafarnau'n 'eithriadol o dawel' ar droad y flwyddyn

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Elevens Bar in CardiffFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd un tafarnwr fod cwsmeriaid wedi canslo digwyddiadau oherwydd y rheolau Covid

Fe wnaeth Cymru groesawu'r flwyddyn newydd yn llawer tawelach nag arfer yn dilyn y cyfyngiadau Covid-19.

Roedd Caerdydd yn "eithriadol o dawel" a phobl heb fynd allan yn y Fflint, yn ôl tafarnwyr, gydag ond chwe pherson yn cael cwrdd o dan do, a chlybiau ar gau yn llwyr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y rheolau mewn lle i gadw pobl yn ddiogel.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rhesi o fyrddau a chadeiriau gwag y tu allan i fariau ar Stryd Fawr Caerdydd

Roedd rhai o dafarnau'r Fflint wedi cau ei drysau erbyn 20:00 ar Nos Galan, medd staff y George and Dragon yn y dref.

Roedd wedi bod ar agor tan hynny, ond tua 35 o gwsmeriaid ar y mwyaf oedd yno yn ôl un o'r staff.

Dywedodd Nick Newman, landlord tafarn y Philharmonic yng Nghaerdydd a chadeirydd Fforwm Tafarnwyr Caerdydd, fod Nos Galan wedi bod yn eithriadol o dawel i'r sector lletygarwch.

"Doedd e ddim yn annisgwyl, ond dyw hynny ddim yn ei wneud yn llai siomedig," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Stryd Womanby yng Nghaerdydd yn llawer tawelach na nos Wener arferol

"Roeddwn i yng nghanol y ddinas am y rhan fwyaf o ddydd Gwener ac yna gyda'r nos tan tua 01:00. Roedd hi'n llawer distawach nag arfer.

"Bydd busnesau ym Mryste wedi gwneud yn dda, ond mae mesurau fel hyn yn lleiahu hyder ac yn ddiangen.

"Roedd yr holl fesurau pellter cymdeithasol ac eraill mewn lle, ond roedd pobl yn dal i ganslo digwyddiadau."

Ddydd Gwener fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi 10,393 o achosion Covid newydd yng Nghymru ac 11 yn rhagor o farwolaethau gyda'r feirws.

Pynciau cysylltiedig