£103m i 'sicrhau cynaliadwyedd' ysgolion a cholegau
- Cyhoeddwyd
Wrth i athrawon gynnal yr ail o ddeuddydd o baratoi ar gyfer derbyn disgyblion yn ôl i ysgolion, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd ysgolion a cholegau yn derbyn £103m.
Disgwylir i £50m gael ei wario i helpu ysgolion i wneud gwaith atgyweirio a gwella cyfalaf, gan ganolbwyntio ar fesurau iechyd a diogelwch, fel gwella awyru.
Bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi datgarboneiddio.
Fe fydd £45m o gyllid refeniw, medd y llywodraeth, yn "helpu i gefnogi cyllidebau ysgolion, gan gynorthwyo ysgolion wrth iddynt barhau i ddelio ag effeithiau parhaus y pandemig a pharatoi ar gyfer gofynion y cwricwlwm newydd".
Bydd colegau addysg bellach yn derbyn £8m ychwanegol er mwyn sicrhau bod dysgu'n "gallu parhau'n ddiogel a sicrhau nad yw'r pandemig yn effeithio ymhellach ar y dysgwyr mwyaf difreintiedig".
'Mor ddiogel â phosibl'
Dywedodd Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg: "Rwy'n gwybod bod ysgolion a cholegau wedi wynebu cyfnod anodd iawn ac mae pawb ar draws y gweithlu wedi gweithio'n eithriadol galed i gwrdd â heriau'r pandemig. Bydd y cyllid hwn yn cefnogi ein hysgolion a'n colegau ymhellach i gadw'r lleoliadau mor ddiogel â phosibl o ran Covid.
"Er ein bod ni eisiau cefnogi'r sector i adfer o'r pandemig, mae'n rhaid i ni hefyd sicrhau ein bod yn parhau i gynllunio ar gyfer y dyfodol, a helpu pob lleoliad addysg ledled Cymru i gyflawni ein nodau ar y cyd o wneud Cymru'n genedl sero net.
"Bydd y cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn ein helpu i sicrhau cynaliadwyedd ar draws y sector - boed yn gynaliadwyedd amgylcheddol a gyflawnir drwy ddatgarboneiddio, neu gynaliadwyedd o ran darpariaeth."
Cyn y cyhoeddiad, dywedodd swyddog polisi undeb athrawon UCAC, Rebecca Williams, bod Llywodraeth Cymru wedi cynnig help ariannol i "helpu gyda lefelau staffio a gwahanol agweddau" yn ystod y pandemig, ond y peth pwysig nawr oedd "negeseuon clir" gan y weinyddiaeth a gan awdurdodau lleol ynglŷn â disgwyliadau ar ysgolion.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2021