Cadeirydd Cyngor y Sioe am bwysleisio cyfraniad merched
- Cyhoeddwyd
Mae'r ddynes gyntaf i gael ei hethol yn gadeirydd Cyngor Cymdeithas Sioe Amaethyddol Cymru yn dweud bod ei phenodiad yn "gyfle i ddangos cymaint yw rôl menyw yng nghefn gwlad".
Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd Nicola Davies ei bod yn gobeithio bod ei phenodiad yn gyfle i herio'r "ddelwedd" bod amaethyddiaeth yn faes i ddynion yn bennaf.
Ms Davies yw prif sylwebydd y Sioe ac mae hi wedi bod yn is-gadeirydd y cyngor ers tair blynedd.
"Mae Ms Davies yn ffigwr awdurdodol a galluog fydd yn llysgennad ardderchog i'r gymdeithas," meddai cadeirydd bwrdd y cyfarwyddwyr, John T Davies.
Ychwanegodd Ms Davies y bydd yn "blaenoriaethu a pharchu traddodiadau'r gymdeithas tra'n sicrhau eu bod yn berthnasol i'r Gymru fodern".
Dywedodd hefyd ei bod am geisio mynd i'r afael ag effaith y pandemig ar y gymdeithas wedi i'r Sioe Fawr gael ei chanslo yn 2020 a 2021.
Rhybuddiodd cadeirydd y bwrdd yn 2020 y gallai gymryd pum mlynedd i ddygymod â'r golled ariannol o ganslo'r Sioe.
'Dewis naturiol'
Cafodd Ms Davies ei magu ar fferm Maes Mynach yng Nghribyn, Ceredigion.
"Mae'r teulu 'di bod yn aelodau oes, a finne 'di bod yn mynd i'r Sioe ers o'n i'n un fach iawn yn y pushchair gyda 'nhad a'n fam," meddai.
Mae ganddi atgofion "melys iawn o fod yn rhan o'r prif gylch - o fod gyda'n ffrindiau pan o'n i'n ifancach".
Heddiw, mae hi'n magu cobiau ac yn gyfieithydd.
Dywedodd Ms Davies nad yw hi "erioed" wedi teimlo unrhyw anfantais yn y gymdeithas am ei bod hi'n fenyw.
"Ond fi yn teimlo bod e'n gam da" ethol y ddynes gyntaf fel cadeirydd y cyngor, meddai.
"Mae'n gyfle i ddangos bo' ni'r menywod hefyd ar flaen y gad gyda'r gymdeithas."
Mae Ms Davies yn olynu David Lewis, sydd yn ymddeol ar ôl dros 40 mlynedd yn gweithio i'r gymdeithas.
Dywedodd John T Davies mai Ms Davies oedd y "dewis naturiol" ar gyfer y rôl.
"Mae hi wedi tyfu lan yn sioeau Cymru ac mae hi wedi rhoi gwasanaeth anhygoel i'r gymdeithas trwy ei hoes, fel arddangoswr, stiward, llysgennad, uwch-sylwebydd ac is-gadeirydd y cyngor," meddai.
'Cyfnod o newid'
Yn ôl Ms Davies, cafodd canslo'r sioeau yn sgil coronafeirws effaith gymdeithasol yn ogystal ag ariannol.
"Mae e 'di bod yn golled ariannol wrth gwrs, mae hynny'n amlwg ddigon," meddai.
"Ond mae colli digwyddiadau hefyd wedi cael cryn effaith ar gefn gwlad, ar yr aelod cyffredin - ar y ffermwr cyffredin.
"Mae e'n rhoi rhyw frig ar y flwyddyn i chi pan i chi'n gallu mynd yn gynta' i'r ffair wanwyn ac wedyn i'r sioe haf, mae'n dod â phobl ynghyd."
Ychwanegodd: "Roedd y bobl weles i yn y Sioe Aeaf, ga'th ei chynnal fis diwethaf, yn dangos gymaint o'dd angen i bobl ddod at ei gilydd i gael clonc a sgwrs.
"Dwi'n gobeithio bydd y sioe yn parhau i gynnig hynny i bobl mewn nifer o flynyddoedd i ddod."
Gyda'r prif weithredwr yn ymddeol wedi Sioe Fawr 2022, dywedodd Ms Davies ei bod hi wedi camu i'r rôl mewn "cyfnod o newid i'r gymdeithas".
"Felly mae'n gyfnod o newid, ond wrth gwrs rhaid i ni edrych arno fe fel cyfnod cyffrous hefyd yn hanes y gymdeithas," ychwanegodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd28 Mai 2020