Dyfodol ansicr i golegau Cristnogol Trefeca a'r Bala
- Cyhoeddwyd
Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru wedi cyhoeddi y bydd ei buddsoddiad ariannol i Goleg Trefeca a Choleg y Bala yn dod i ben.
Fe fydd y nawdd i Goleg Trefeca - canolfan sy'n cynnal cyrsiau i bregethwyr lleyg - yn dod i ben yn ystod y flwyddyn.
Mae cannoedd o blant a phobl ifanc wedi bod ar gyrsiau preswyl yng Ngholeg y Bala ar hyd y blynyddoedd, ac fe fydd y safle'n cael ei ariannu nes diwedd 2024.
"Mae'r buddsoddiad dros £400,000 y flwyddyn," medd Ysgrifennydd Cyffredinol yr Eglwys Bresbyteraidd, Meirion Morris, "a bellach mae'n rhaid gofyn ai dyma'r ffordd orau i ddefnyddio yr arian yma."
'Bwrlwm a hwyl'
"Mae'n rhaid i mi ddweud ei fod wedi bod yn dipyn o sioc ac yn dipyn o siom," meddai Eleri Davies, arweinydd Ysgol Sul, Capel Y Morfa yn Aberystwyth.
"Mae fy nghysylltiad i â Choleg y Bala yn mynd 'nôl i'r 1970au pan fues i yno fy hunan am benwythnos - ac wedyn wrth gwrs ar hyd y blynyddoedd fe fues i'n mynd gyda grwpiau o blant o'r Ysgol Sul.
"Roedd yna fwrlwm, roedd yna hwyl ac wrth gwrs do'dd ddim llawer o gwsg. Roedden ni fel athrawon Ysgol Sul yn cael cael bywyd newydd ac yn cael llawer o syniadau."
Fe fu Jim Clarke yn rhedeg Coleg y Bala am rai blynyddoedd ac o glywed y newyddion dywedodd "bod y ganolfan wedi bod yn unigryw yn hanes gwaith Cristnogol ymhlith plant a phobl ifanc".
"Roedd modd i bobl ifanc ddod yno i drafod eu ffydd yn agored. Roedd hi'n fraint bod yn rhieni ysbrydol i'r bobl yma - ac wrth gwrs dwi ddim yn anghofio bod lawr wrth y llyn am 02:00!
"Mae Coleg y Bala hefyd wedi creu arweinwyr ac mae hynny wedi bod yn werth chweil.
"Ond mae aelodaeth yn edwino i'r fath raddau fel bod enwadau yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd - dyw dyfodol unlle yn ddiogel," ychwanegodd.
Mewn datganiad dywedodd yr Eglwys Bresbyteraidd: "Byddwn yn cychwyn trafodaethau i weld pa bartneriaid eraill fyddai â diddordeb yn y safle yn y tymor hir gan weithio tuag at ddirwyn ein buddsoddiad ariannol yn y ganolfan i ben ar ddiwedd 2024."
Yn y cyfamser y bwriad yw gweld a all plant a phobl ifanc ddod at ei gilydd mewn canolfannau eraill yng Nghymru.
Miloedd yn llai o aelodau
Mae Coleg Trefeca ym Mhowys yn adeilad hanesyddol - dyma oedd cartref Howell Harris y diwygiwr Methodistaidd a chanolfan 'teulu Trefeca' - menter gymunedol hunangynhaliol a ddechreuwyd gan Harris yn 1752 ac oedd, ar ei hanterth, yn cynnwys 120 o bobl.
Fe ddaeth yr adeilad wedyn yn goleg diwinyddol Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac yn ystod y ganrif ddiwethaf mae wedi bod yn cynnal cyrsiau i bregethwyr lleyg.
Dyw hi ddim yn fwriad gan yr enwad werthu'r Coleg, yn sgil ei arwyddocâd hanesyddol, ond mae'n fwriad dod o hyd i bartneriaid a fydd yn gyfrifol am "waith a gweinidogaeth o ddydd i ddydd".
"Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru wedi buddsoddi yn y ddwy ganolfan yma ers dros hanner can mlynedd - yr adeg hynny wrth gwrs roedd gennym ni 100,000 o aelodau ond gyda'r nifer wedi gostwng i 18,000 bellach mae'n naturiol bod y pwysau o ran ceisio ffrydiau cyllidol yn cynyddu ac wrth gwrs mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn heriol o ran incwm," ychwanegodd Meirion Morris.
Gwyliau i deuluoedd Tŵr Grenfell
Dywedodd Jenny Garrard a fu'n gweithio yn y ganolfan ac yn ymddiriedolwr Coleg Trefeca: "Dwi wedi gwerthfawrogi Trefeca ers y 1970au, bron 50 mlynedd yn ôl - ac wedi gweld pwysigrwydd y ganolfan i Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac i eglwysi eraill yng Nghymru. Mae hon yn ganolfan gyda phwrpas.
"Ar hyd y blynyddoedd mae Trefeca wedi cynnig gwyliau i nifer gan gynnwys pobl Gogledd Iwerddon yn ystod y trafferthion - hanner nhw yn Brotestaniaid a'r hanner arall yn Gatholig - pawb yn eistedd lawr gyda'i gilydd ac yn dysgu oddi wrth ei gilydd.
"Yn ddiweddar fe wnaethon ni gynnig gwyliau i deuluoedd Tŵr Grenfell.
"Mae eglwysi'n newid neu'n marw ac mae angen i aelodau a blaenoriaid ddysgu sgiliau newydd - mae pobl angen cefnogaeth canolfan fel Trefeca fwy nag erioed."
Ychwanegodd Meirion Morris: "Dwi wedi meddwl, fwy nag unwaith, a ydyn ni'n dod i benderfyniad nawr, yn arbennig yn ystod y cyfnod pan mae'r canolfannau newydd ailgychwyn ar eu gwaith ar ôl bod ar gau ond mae cysgod y broses yma wedi bod dros y staff ers pedair blynedd.
"Yn dilyn adolygiad y teimlad, er tegwch, yw bod rhaid dod i benderfyniad ond dydyn nhw ddim yn argymhellion fydd yn cael eu gweithredu'n syth - bydd ein buddsoddiad i Goleg Trefeca yn dod i ben yn ystod y flwyddyn ac fe fyddwn yn ariannu Coleg y Bala tan ddiwedd 2024."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd26 Medi 2021
- Cyhoeddwyd21 Awst 2021