Gwyddonwyr Aberystwyth yn cyhoeddi mapiau datgoedwigo

  • Cyhoeddwyd
mapiauFfynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Gall y mapiau newydd hyn ddangos dosbarthiad biomas ar draws y byd a sut mae'n newid

Bydd mapiau sy'n dangos cymaint o ddatgoedwigo sy'n digwydd ar draws y byd, fel y gwelir o'r gofod, yn cael eu cyhoeddi gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae'r ymchwilwyr yn gobeithio y bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio i atal difrod pellach.

Maen nhw wedi defnyddio data o loerennau i gynhyrchu delweddau ansawdd uchel er mwyn mapio sut mae fforestydd y blaned wedi newid yn ystod y degawd diwethaf.

Mae'r wybodaeth yn dangos effaith torri coed mewn ardaloedd fel yr Amazon, yn ogystal a thanau gwair mawr yn Awstralia, a goblygiadau clefyd coed llarwydd yma yn y DU.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae coed yn cael eu hystyried yn allweddol i'r frwydr yn erbyn newid hinsawdd

Mae'r mapiau yn cael eu cyhoeddi fel rhan o brosiect Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (ESA) sy'n cael ei reoli a'i gydlynu gan y tîm yn Aberystwyth.

Ar y cyd ag ymchwilwyr ar draws Ewrop maen nhw hefyd wedi datblygu ffordd o amcangyfrif pwysau cydrannau'r fforestydd uwchben y ddaear.

Mae coed yn cael eu hystyried yn allweddol i'r frwydr yn erbyn newid hinsawdd, am eu bod yn amsugno'r nwyon carbon sy'n cynhesu'r atmosffer gan eu storio yn eu gwreiddiau a'u pren.

'Help i atal colledion pellach'

Mae'r gwyddonwyr yn dweud y bydd eu hymchwil yn eu galluogi i amcangyfrif faint o garbon sy'n cael ei ddal mewn coedwigoedd yn fyd-eang.

Bydd y mapiau yn cael eu cyhoeddi ar-lein a bydd cyfle i'r cyhoedd eu gweld mewn arddangosfa ryngwladol yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen ym Machynlleth.

Dywedodd yr Athro Richard Lucas o'r Grŵp Arsylwi'r Ddaear ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Dros y degawdau diwethaf, rydym wedi gweld nifer sylweddol o goedwigoedd ar draws y byd yn diflannu gan arwain at ryddhau carbon sy'n effeithio'n andwyol ar ein hinsawdd.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y mapiau a'r data yn gyhoeddus

"Rydym hefyd wedi bod yn gwylio dirywiad cynyddol bioamrywiaeth ar draws y byd. Gall y mapiau newydd hyn ddangos dosbarthiad biomas ar draws y byd a sut mae'n newid.

"Mae angen i ni ddefnyddio'r wybodaeth hon nawr er mwyn atal colledion pellach o goedwigoedd a sicrhau'n rhagweithiol eu bod yn mynd ati i ddal carbon i'r dyfodol."

Bydd y data ar gael i'r holl randdeiliaid perthnasol a'r rhai sydd â diddordeb, gan gynnwys y cyhoedd.

Cafodd gwaith y tîm ei arddangos yn ddiweddar yng nghynhadledd newid hinsawdd COP26 yn Glasgow, lle cytunodd dros gant o wledydd eu bod am geisio atal datgoedwigo erbyn 2030.

Yn ôl Heather Kay, sy'n cydlynu prosiect Biomas Menter Newid Hinsawdd yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd fe fydd data'r tîm yn "darparu gwybodaeth allweddol ynghylch a yw'r targedau hyn yn cael eu cyflawni".