Cyfyngiadau: Pryder am 'golli cenhedlaeth o athletwyr'
- Cyhoeddwyd
Bydd Cymru'n "colli cenhedlaeth o athletwyr" os ydy'r cyfyngiadau ar chwaraeon yn parhau, yn ôl clybiau.
Mae cyfyngiadau llymach na gweddill y DU yn golygu nad oes modd i rai gemau a chystadlaethau fynd yn eu blaenau ar hyn o bryd.
Dywedodd prif weithredwr Athletau Cymru, James Williams fod nifer y plant sy'n cymryd rhan wedi gostwng yn sylweddol o'i gymharu â'r lefelau cyn y pandemig.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn adolygu'r cyfyngiadau yn wythnosol.
Canslo digwyddiadau
Dywedodd Mr Williams fod "pryder gwirioneddol y byddwn yn colli cenhedlaeth o athletwyr".
"Pan ddaethon ni mas o'r cyfnod clo diwethaf roedd y nifer oedd yn cymryd rhan yn sylweddol is na'r oedd cyn y pandemig ac ry'n ni wedi gweithio'n galed i geisio cynyddu'r lefelau," meddai.
"Mae bechgyn dan 13 a dan 15 yn enwedig yn llawer is na'r hyn y bydden ni'n hoffi."
Mae plant sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon wedi'u heithrio o'r rheol sy'n cyfyngu ar y nifer all gasglu mewn digwyddiadau ar hyn o bryd - sef 50 o bobl tu allan a 30 dan do.
Ond mae gan leoliadau eu rheolau eu hunain, sydd wedi arwain at nifer o glybiau i orfod canslo ymarferion, cystadlaethau a gemau.
Pencampwriaeth Agored Dan Do Athletau Cymru yw un o'r digwyddiadau pwysicaf i athletwyr ifanc o Gymru, gyda'r digwyddiad yn denu tua 400 o gystadleuwyr ar flwyddyn arferol.
Ond mae'r digwyddiad eleni, oedd fod i gael ei gynnal ddydd Sul, wedi cael ei ganslo.
"Roedd yn rhaid i ni wneud penderfyniad yn sydyn iawn, ac yn anffodus mae'r rheiny sy'n cynnal y gystadleuaeth a'r safle ei hun yn dal i wneud eu hasesiadau risg, felly doedd dim opsiwn ond i ni ganslo," meddai Mr Williams.
'Rhwystredig iawn'
Fe fydd yr un digwyddiad ar gyfer oedrannau hŷn yn cael ei gynnal ddiwedd Ionawr, gyda disgwyl i gannoedd gymryd rhan.
Ond mae pryder ar hyn o bryd a fydd modd ei gynnal oherwydd y cyfyngiadau ar nifer yr oedolion all gymryd rhan mewn digwyddiadau.
Mae disgwyl i rai o'r athletwyr fynd yn eu blaenau i gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad a Phencampwriaethau'r Byd yn ddiweddarach eleni.
Fe wnaeth Rebecca Chapman gynrychioli Cymru yn y naid hir yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2018.
Mae hi'n gobeithio cymryd rhan yn y gemau eleni hefyd, ond mae'n rhaid iddi deithio o Loegr er mwyn cystadlu ar hyn o bryd.
"Mae'n anodd eu gweld nhw [yn Lloegr] yn parhau fel yr arfer, gyda dim cyfyngiadau ar faint all gymryd rhan neu fod yn yr adeilad," meddai.
"Roeddwn i mewn cystadleuaeth yn Sheffield yr wythnos ddiwethaf ac roedd pethau'n hollol normal.
"Roedd lot o gefnogwyr, awyrgylch dda, dim cyfyngiadau ar nifer y cystadleuwyr - ond yma dim ond nifer cyfyngedig sy'n cael hyfforddi mewn adeiladau hyd yn oed.
"Mae'n rhwystredig iawn - mae ganddyn nhw gyfleoedd gwell ac mae'n rhaid i ni deithio i gael y cyfleoedd hynny.
"Mae'n rhoi straen ar ein hamser, a dyw e ddim yn galluogi i ni gael y paratoadau cywir."
Mae'r cyfyngiadau yn achosi rhwystredigaeth i glybiau pêl-droed ar lawr gwlad hefyd.
Dywedodd ysgrifennydd Clwb Pêl-droed Yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, Patrick Godfrey eu bod yn defnyddio cyfleusterau ysgolion lleol i hyfforddi, ond fod gan ysgolion gwahanol reolau gwahanol ar hyn o bryd.
Ychwanegodd fod eu gemau yn dioddef oherwydd y cyfyngiadau hefyd, gyda rhai yn cael eu canslo tra bo eraill yn cael eu chwarae.
Ddydd Gwener fe wnaeth Llywodraeth Cymru gadarnhau na fydd unrhyw newidiadau i'r cyfyngiadau am y tro.
Dywedodd y llywodraeth ei bod yn "deall pwysigrwydd ymarfer corff ar gyfer iechyd a lles pobl, ac yn annog pobl i aros yn actif yn ystod y cyfnod anodd yma".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2021