Freya Bevan: Angladd i'r ferch naw oed 'anwylaf a harddaf'

  • Cyhoeddwyd
Freya BevanFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Freya ddiagnosis cyntaf o diwmor ar yr ymennydd ym mis Mai 2014

Cafodd angladd ei gynnal ddydd Sadwrn i ferch naw oed a fu farw yn dilyn brwydr hir â thiwmor ar ei hymennydd.

Bu farw Freya Bevan, o Gastell-nedd, ar 27 Rhagfyr ar ôl blynyddoedd o driniaethau.

Bu pobl yn talu teyrnged i'r ferch fach ar y strydoedd cyn yr angladd yn Amlosgfa Margam, Castell-nedd Port Talbot.

Roedd Freya wedi bod yn cael triniaeth yn yr Unol Daleithiau yn ddiweddar, gan ysgogi ymgyrch codi arian o £200,000 y llynedd.

Ffynhonnell y llun, DIMITRIS LEGAKIS/ATHENA PICTURES
Disgrifiad o’r llun,

Roedd pobl wedi dod allan i dalu eu teyrngedau ym Margam ddydd Sadwrn

Dywedodd ei theulu fod y nefoedd wedi ennill y "rhyfelwr anwylaf a harddaf".

Mewn datganiad ar Facebook, fe ofynnon nhw i bobl wisgo pinc er cof amdani.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Freya Bevan, gyda'i thad John-Paul a'i mam Kath

Cafodd Freya ddiagnosis cyntaf o diwmor ar yr ymennydd ym mis Mai 2014, yn 22 mis oed.

Cafodd ddwy lawdriniaeth fawr ar yr ymennydd, cemotherapi a thrawsblaniad bôn-gelloedd.

Ym mis Chwefror 2015, teithiodd gyda'i theulu am y tro cyntaf i Oklahoma ar gyfer therapi pelydr proton.

Daeth y teulu'n ôl i Gymru ym mis Mai y flwyddyn honno ond ym mis Hydref 2020 dangosodd sgan arferol fod tiwmor wedi dychwelyd.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Bu'n rhaid i Freya wedyn gael llawdriniaeth naw awr i'w dynnu a phenderfynodd ei theulu y byddan nhw'n dychwelyd i'r UDA am fwy o therapi pelydr proton.

Ond bu farw ar 27 Rhagfyr.

"Dim mwy o nodwyddau, pils neu ymweliadau ysbyty, ti'n rhydd nawr ein angel hardd," meddai ei theulu mewn teyrnged.

Mewn neges drydar, dywedodd Clwb Rygbi Abertawe: "Ar y diwrnod hynod anodd hwn, bydd y bechgyn yn gwisgo bwâu pinc ar eu crysau i ddathlu ac fel teyrnged i Freya."

Pynciau cysylltiedig