Perchennog sinema i apelio yn erbyn dirwy rheolau Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Anna Redfern
Disgrifiad o’r llun,

Ym mis Rhagfyr dywedodd Anna Redfern y byddai'n cydymffurfio â gorchymyn y llys o nawr ymlaen

Mae perchennog sinema a chaffi yn Abertawe yn mynd i apelio yn erbyn y ddirwy a gafodd am wrthod cydymffurfio â rheoliadau Covid Llywodraeth Cymru.

Mae Llys y Goron Abertawe wedi cadarnhau bod Anna Redfern, perchennog Cinema & Co, wedi cyflwyno apêl yn erbyn y ddirwy o £15,000.

Yn ystod gwrandawiad yn Llys Ynadon Abertawe ar 14 Rhagfyr cafodd y ddynes 46 oed orchymyn hefyd i dalu costau llys o £8,940 a thâl ychwanegol o £190.

Mae'n ofynnol iddi dalu'r arian o fewn 56 diwrnod.

Yn ystod yr un gwrandawiad cafodd Redfern o Uplands, Abertawe ddedfryd o garchar gohiriedig wedi iddi gyfaddef dirmyg llys.

Does dim dyddiad wedi'i nodi hyd yma ar gyfer yr apêl yn Llys y Goron Abertawe.

Pynciau cysylltiedig