Llangennech: 'Angen gwella gwaith cynnal a chadw trenau nwyddau'
- Cyhoeddwyd
Mae angen cyflwyno gwelliannau i waith cynnal a chadw trenau nwyddau yn sgil damwain ger Llanelli yn 2020.
Dyna gasgliad adroddiad gan yr RAIB, y corff sy'n ymchwilio i ddamweiniau trên, i ddigwyddiad yn Llangennech.
Nam ar y brêcs oedd yn debygol o fod yn gyfrifol am achosi'r trên, oedd yn cludo tanwydd o Robeston, Sir Benfro, i adael y cledrau ar 26 Awst 2020.
Daeth deg wagen oddi ar y cledrau gan ollwng 446,000 litr o danwydd.
Yn ôl yr RAIB fe aeth 3 wagen ar dân gan losgi 116,000 litr o'r tanwydd.
Fe lifodd 330,000 litr i'r tir ar lannau Afon Llwchwr.
Bu'n rhaid i 300 o bobol adael eu cartrefi oherwydd y tân enfawr.
Ar y pryd dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod modd cymharu'r digwyddiad â damwain y Sea Empress yn 1996.
Mae'r RAIB eisiau gweld newidiadau i waith cynnal a chadw trenau nwyddau.
Dywedodd Simon French, Prif Arolygydd damweiniau trenau, bod "angen gwella" y ffordd y mae'r diwydiant yn gwneud y gwaith.
Disgrifiodd sut y daeth hyd i "ymarferion cynnal a chadw annigonol" yn ystod yr ymchwiliad.
Ychwanegodd bod digwyddiadau "difrifol" eraill wedi bod yn ffactor mewn deg ymchwiliad arall yn y gorffennol.
Yn yr adroddiad mae'r RAIB wedi gwneud naw o argymhellion gan gynnwys annog gwneuthurwyr systemau brêcs y trenau i ystyried ail-ddylunio rhai cydrannau.
Maen nhw hefyd yn dweud y dylai cyrff sy'n arolygu cwmnïau cynnal a chadw adolygu eu prosesau.
Yn ôl yr RAIB mae angen cyflwyno gwelliannau i'r systemau sy'n rhybuddio criwiau fod diffygion yn bresennol - diffygion a all arwain at drenau'n gadael y cledrau.
'Goblygiadau trychinebus'
"Mae trenau sy'n cludo nwyddau peryglus yn rhan bwysig o'r economi, ond mae angen rheoli'r gweithrediadau yn ddigonol," ychwanegodd Mr French.
"Mae'r goblygiadau pan mae pethau yn mynd o le yn gallu bod yn drychinebus, fel y gwelwyd yn Llangennech yn Awst 2020.
"Yn ffodus, chafodd neb ei anafu, ond bu'n rhaid i bobol adael eu cartrefi, a bydd hi'n cymryd blynyddoedd i adfer yr amgylchedd a bywoliaeth rhai pobl."
Roedd y trên yn cludo tanwydd o Aberdaugleddau i Theale ger Reading.
Daeth y trên oddi ar y cledrau oherwydd nad oedd olwynion un wagen yn troi, medd yr adroddiad.
Oherwydd nam ar y system brêcs, fe wnaeth yr olwyn gloi - gan fethu â symud drwy Gyffordd Morlais yn ddiogel a difrodi'r rheilffordd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd21 Medi 2020
- Cyhoeddwyd4 Medi 2020
- Cyhoeddwyd27 Awst 2020