Bargen Twf Canolbarth: Hwb swyddi ond rhybudd am 'waith caled'
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun a allai gyflwyno dros fil o swyddi i'r canolbarth wedi ei lofnodi gan Lywodraeth Cymru, ond mae rhybudd bod "gwaith caled" i'w wneud er mwyn gweithredu'r fargen.
Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru yn swm o £110m i roi hwb i ardaloedd yng Ngheredigion a Phowys.
Gallai rhwng 1,100 a 1,400 o swyddi newydd eu creu erbyn 2030.
Bydd yr arian yn mynd at sectorau digidol, twristiaeth, amaethyddiaeth, bwyd a diod, ymchwil ac arloesedd.
Mae gweinidogion o Lywodraethau Cymru a San Steffan wedi ymrwymo i ddarparu hanner yr arian cychwynnol ar gyfer y fargen.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd arweinydd cyngor Ceredigion Ellen ap Gwynn ac arweinydd cyngor Powys, Rosemarie Harris: "Gyda'n gilydd, rydym yn edrych ymlaen at weld y manteision y bydd y buddsoddiad pwysig hwn yn eu cynnig i bobl a busnesau ledled Canolbarth Cymru.
"Mae rhywfaint o waith caled o'n blaenau eto i sicrhau bod y buddsoddiad hwn yn gwneud gwahaniaeth i'n cymunedau.
"Fodd bynnag, rydym wedi buddsoddi amser ac ymdrech ac mae gennym dîm ar waith i helpu i symud hyn yn ei flaen."
Dywedodd gweinidog Llywodraeth San Steffan, David TC Davies: "Mae gan y Fargen hon y pŵer i drawsnewid bywoliaethau, creu swyddi a lledaenu ffyniant ac rwy'n falch iawn o'i lofnodi heddiw.
"Edrychaf ymlaen at weld buddion diriaethol cytundeb heddiw yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod."
Ychwanegodd Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething: "Mae hwn yn gam mawr ymlaen i'r rhanbarth ac mae'n bwysig bod momentwm yn cael ei gynnal fel y gall y rhanbarth symud ymlaen tuag at gyflawni'r Fargen."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2014