Angen cytundeb twf 'trawsnewidiol' i'r canolbarth
- Cyhoeddwyd
Does gan y canolbarth fawr o ddyfodol heblaw fel "maes chwarae" oni bai bod cynlluniau newydd i hybu ei heconomi yn llwyddo, yn ôl arweinydd un cyngor.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Ceredigion, Ellen ap Gwynn, y gallai cytundeb twf canolbarth Cymru olygu mwy na 4,000 o swyddi newydd a hwb o £200m i'r economi.
Mae canolbarth Cymru wedi dibynnu'n helaeth ar swyddi sector cyhoeddus, nifer ohonynt sydd wedi'u colli wrth i wasanaethau cyhoeddus gael eu torri.
Mae'r cynlluniau twf yn dod ag arian at ei gilydd gan lywodraethau'r DU a Chymru, cynghorau a chwmnïau preifat, er budd yr economi leol.
Mae cytundebau twf ar gyfer rhanbarthau Caerdydd ac Abertawe wedi'u cytuno, gyda'r cynllun yn y gogledd yn dal i gael ei gwblhau.
'Cymryd pob cyfle'
Dywedodd y Cynghorydd ap Gwynn, a fydd yn amlinellu'r cynlluniau i Aelodau Cynulliad ddydd Iau, fod y prosiect 15 mlynedd yn gyfle i gefnogi busnesau ar adeg o ansicrwydd oherwydd Brexit.
Ychwanegodd bod yn rhaid i'r cynnig ar gyfer canolbarth Cymru fod yn wirioneddol "drawsnewidiol".
"Oherwydd y ffordd y mae pethau'n swnio o ran Brexit, a phwy a ŵyr beth fydd yn digwydd rhwng nawr a diwedd mis Mawrth, mae'n rhaid inni geisio cymryd pob cyfle a allwn i gefnogi busnesau a datblygu busnesau yng nghanolbarth Cymru.
"Fel arall does dim llawer o ddyfodol i'r ardal, heblaw fel maes chwarae."
Dywedodd fod y canolbarth wedi dibynnu gormod ar y sector cyhoeddus yn y gorffennol "oherwydd gwendid yr economi".
Ychwanegodd fod y fargen "yn rhoi pot o arian inni y gallwn fuddsoddi ynddo i'r dyfodol".
"A gobeithio y byddwn yn buddsoddi er budd y sector breifat".
Dywedodd Llywodraeth y DU yn y Gyllideb ym mis Tachwedd 2017 y byddai'n croesawu cynigion ar gyfer cytundeb twf canolbarth Cymru, i gwblhau'r darlun o gynlluniau twf sy'n cwmpasu pob rhan o Gymru.
Mae cwmni Environment Systems, sydd wedi'i leoli ym Mharc Gwyddoniaeth Aberystwyth, yn cefnogi cytundeb twf canolbarth Cymru.
Yn ôl Dr Jamie Williams sy'n gweithio i'r cwmni, mae angen i'r ardal fuddsoddi mewn cysylltiadau trafnidiaeth.
"Mae Aberystwyth yn eithaf ynysig cyn belled â bod cysylltiadau'n mynd," meddai.
"O ran rhai o'r cysylltiadau, mae angen gwella'r system drafnidiaeth. Y rhwydwaith rheilffordd a chysylltiadau cyflym."
'Potensial aruthrol'
Mae Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth Dr Rhodri Llwyd Morgan yn gweld "potensial aruthrol" yn y cytundeb twf,
"Yn sicr mae'n rhanbarth sydd â nifer o heriau a chyfleoedd penodol.
"Drwy ddefnyddio'r profiad sydd ganddo ni, yr ymchwil a rhagoriaeth arloesol, yn ogystal â gweithio'n agosach â busnesau ar draws ystod o sectorau, fe allwn ni fanteisio ar y cyfleoedd sydd gennym."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2017