Adolygu methiant i erlyn wedi marwolaeth bachgen

  • Cyhoeddwyd
Christopher KapessaFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Christopher Kapessa yn dilyn digwyddiad ger Afon Cynon ar 1 Gorffennaf 2019

Mae adolygiad barnwrol yn Llundain wedi clywed bod glaslanc yr honnir iddo wthio bachgen 13 oed i Afon Cynon yn gwybod nad oedd yn gallu nofio.

Cafwyd hyd i Christopher Kapessa yn farw yng Ngorffennaf 2019, yn dilyn y digwyddiad ar bont ar bwys yr afon ger Aberpennar.

Mae dau o farnwyr yr Uchel Lys yn adolygu penderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) i beidio â dwyn achos yn erbyn bachgen 14 oed, er i'r heddlu ddarganfod tystiolaeth bod Christopher wedi cael ei wthio i'r afon.

Bydd y barnwyr yn cyhoeddi eu dyfarniad maes o law.

Yn ôl bargyfreithiwr teulu Christopher, Michael Mansfield QC, roedd yr hyn a arweiniodd at y farwolaeth "yn beryglus iawn" a ddim yn "chwarae plentynnaidd".

Dywedodd bod datganiadau plant lleol oedd yn dyst i'r digwyddiad yn awgrymu bod y glaslanc, sy'n cael ei gyfeirio ato yn y llys fel 'Q', yn gwybod o sgwrs flaenorol na allai Christopher nofio.

Disgrifiad o’r llun,

Y rhan yma o Afon Cynon oedd canolbwynt ymchwiliad yr heddlu

Mae'r gwrandawiad hefyd wedi clywed galwad i'r gwasanaethau brys pan honnodd person ifanc i'r atebwyr: "Fe laddodd rhywun e."

Dywedodd Mr Mansfield bod y penderfyniad i beidio ag erlyn yn anghyfreithiol ar sawl sail, ac yn tanseilio "unrhyw fath o hyder yn y system".

Dywedodd hefyd bod gormod o bwyslais wedi cael ei roi ar oedran y troseddwr honedig.

'Wedi dilyn canllawiau'

Ar ran y CPS fe wnaeth Duncan Penny QC amddiffyn y penderfyniad, gan ddweud eu bod wedi glynu wrth y canllawiau dynladdiad.

Dydy'r canllawiau hynny, meddai, ddim yn datgan bod rhaid erlyn, ond yn hytrach bod erlyniad yn debygol.

Fe danlinellodd bwysigrwydd "elfen o ddisgresiwn" wrth bwyso a mesur bob achos yn unigol.

"Mae'n rhaid i erlynydd fod â'r hawl a'r gallu i benderfynu nad yw er lles y cyhoedd i erlyn," meddai.

Ychwanegodd bod y cyfreithiwr a wnaeth y penderfyniad yn yr achos hwn yn erlynydd profiadol iawn.

Mae'r gwrandawiad wedi dod i ben a bydd y barnwyr yn cyhoeddi eu dyfarniad yn y dyfodol agos.

Disgrifiad o’r llun,

Ymgyrchwyr yn galw am gyfiawnder i Christopher Kapassa cyn y gwrandawiad ddydd Iau

Mae'r adolygiad yn ganlyniad cais llwyddiannus y llynedd gan fam Christopher, Alina Joseph.

Cyn i'r gwrandawiad ddechrau fore Iau, fe wnaeth rhyw ddwsin o ymgyrchwyr oleuo canhwyllau tu allan i'r Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol, er cof am Christopher a fyddai wedi cael ei ben-blwydd yn 16 oed wythnos nesaf.

Yn eu mysg roedd ewythr Christopher, Mak King. Dywedodd mai'r gobaith oedd "cael atebion i'n cwestiynau fel y gallwn ni ddweud wrth y teulu... pam a sut fu farw Christopher".

Disgrifiad o’r llun,

Ewythr Christopher, Mak King tu allan i'r Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol yn Llundain fore Iau

"Mae wedi bod yn gyfnod hir iawn - dwy flynedd a hanner," meddai. "Mae'r teulu'n aros am atebion ac yn brwydro am gyfiawnder.

"Mae'n galed iawn, iawn, i fod yn onest. Bob tro mae'r enw Christopher Kapessa'n codi, mae popeth yn llifo'n ôl i ni..."

Dywedodd AS Cwm Cynon, Beth Winter: "Mae hwn yn ddiwrnod anodd iawn, ac mae'n amhosib dychmygu beth mae'r teulu wedi gorfod mynd drwyddo.

"Mae wnelo heddiw â darganfod y gwir, cyfiawnder a, gobeithio, cymodi."

Pynciau cysylltiedig