Caniatáu adolygiad barnwrol yn achos Christopher Kapessa
- Cyhoeddwyd
Mae barnwr yr Uchel Lys wedi caniatáu adolygiad barnwrol i benderfyniad i beidio ag erlyn bachgen yr honnir iddo fod â rhan ym marwolaeth bachgen 13 oed yn Rhondda Cynon Taf.
Bu farw Christopher Kapessa yn Afon Cynon, ger Aberpennar yn 2019, ac fe wnaeth yr heddlu ddarganfod tystiolaeth ei fod wedi cael ei wthio i'r afon.
Serch hynny fe benderfynodd Gwasanaeth Erlyn Y Goron (CPS) yn erbyn erlyn bachgen arall, oedd yn 14 oed adeg y farwolaeth.
Ddydd Iau fe wnaeth Mrs Ustus Cheema-Grubb ganiatáu cais mam Christopher, Alina Joseph am adolygiad barnwrol.
"I sicrhau caniatâd, mae'n rhaid cael sail gredadwy gyda phosibilrwydd realistig o lwyddiant," dywedodd y barnwr wrth y llys.
"Gyda'r fantais o fod wedi clywed y dadleuon, rwy'n rhoi caniatâd i geisio am adolygiad barnwrol."
Fe ganiataodd yr adolygiad ar bum sail, gan gynnwys methiant ar ran y CPS "i roi gwerth priodol i fywyd dynol" a "phwyslais gormodol ac amhriodol" ar effaith erlyniad ar y bachgen 14 oed.
Dywedodd bargyfreithiwr teulu Christopher, Michael Mansfield QC wrth y llys: "Nid yw cydymdeimlad yn rhan o'r peth. Mae'n wir, rydyn yn sôn am berson ifanc - fel yr oedd y person a fu farw."
Ychwanegodd bod yna fudd cyhoeddus digonol i erlyn y bachgen, a bod y dystiolaeth yn cyrraedd y trothwy ar gyfer cyhuddiad o ddynladdiad.
"Mae'n anarferol eithriadol i beidio erlyn am ddynladdiad unwaith y mae'r trothwy o ran tystiolaeth wedi ei gyrraedd," meddai.
Mae adolygiad barnwrol yn rhoi hawl i bobl sydd wedi eu heffeithio gan benderfyniad neu fethiant i weithredu ar ran corff cyhoeddus, ymgeisio i'r llysoedd ddyfarnu a oedd y camau a gymerwyd yn gyfreithlon ai peidio.
Clywodd yr Uchel Lys bod tua 16 yn yr ardal pan laniodd Christopher yn yr afon, ac mae Mr Mansfield yn honni nad oedd rhai wedi bod yn gwbl onest gyda'r heddlu.
"Mae'r bobl ifanc, yn amlwg yn y lle cyntaf - neu rai ohonynt, ni wyddwn faint - wedi penderfynu ar y cyd neu ar wahân nad oedden nhw am ddatgelu pwy wnaeth beth, heb sôn am beth ddigwyddodd."
Ychwanegodd: "Pa fath o neges mae hynny'n ei rhoi i'r gymuned o bobl ifanc os nad yw'n cael ei erlyn?
"Bod hi'n dderbyniol i ddweud celwydd? Yn dderbyniol i beidio â datgelu? Byddai hynny'n wrthun i ddinesydd cyfrifol."
Dywedodd bargyfreithwyr y CPS, Duncan Penny QC nad yw bwrw ymlaen yn awtomatig gydag erlyniad mewn unrhyw achos, hyd yn oed os oes yna fudd cyhoeddus uchel.
Ychwanegodd bod dadleuon teulu Christopher wedi eu hateb fel rhan o'r adolygiad gwreiddiol i'r penderfyniad, pan edrychodd erlynydd arbenigol ar y dystiolaeth.
Mae gan y CPS 21 o ddiwrnodau nawr i roi tystiolaeth i baratoi ar gyfer yr adolygiad barnwrol, gan gynnwys y dystiolaeth a gafodd ei defnyddio i benderfynu yn erbyn erlyniad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2019