'Diffygion difrifol' taliad i gyn bennaeth Cyngor Penfro
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad damniol gan Archwilio Cymru wedi canfod bod yna ddiffygion difrifol yn nhrefniadau llywodraethu a phrosesau Cyngor Sir Penfro ar ôl i'r awdurdod roi taliad o £95,000 i'r cyn brif weithredwr, Ian Westley, fel rhan o becyn iddo adael ei swydd.
Yn ôl Adrian Crompton, yr archwilydd cyffredinol, roedd y penderfyniad yn "groes i'r gyfraith".
Gadawodd Mr Westley ei rôl fel prif weithredwr ar ddiwedd Tachwedd 2020, ac mae'r adroddiad yn nodi bod £30,000 o'r arian wedi ei dalu yn ddi-dreth.
Yn sgil yr adroddiad, dywedodd arweinydd grŵp Annibynnol y cyngor y dylai'r arweinydd David Simpson ymddiswyddo.
Mewn adroddiad beirniadol mae'r archwilydd cyffredinol yn tanlinellu cyfres o fethiannau.
Yn ôl yr adroddiad, roedd pennaeth adran gyfreithiol a gwasanaethau democrataidd y cyngor wedi tynnu sylw'r swyddog monitro ar y pryd nad oedd y taliad o reidrwydd yn cyd-fynd gyda pholisïau tâl statudol y cyngor - ond fe anwybyddwyd y pryder hwn.
Daeth arweinydd y cyngor a Mr Westley i gytundeb y byddai'n gadael ei gyflogaeth gyda thaliad o £95,000.
Ond ni chafodd hyn ei gofnodi yn iawn - ni nodwyd ar ba sail yr oedd yn gadael nac am ba reswm yr oedd yn mynd i gael taliad terfynu.
Rhoddodd pennaeth adnoddau dynol y cyngor gyfarwyddyd i ymgynghorwyr cyfreithiol allanol ddrafftio cytundeb setlo gyda thaliad terfynu a oedd wedi'i negodi, ond nid oedd y cyfarwyddiadau'n seiliedig ar ffeithiau cadarn.
Dywed llefarydd ar ran Cyngor Sir Penfro fod y cyngor yn croesawu'r adroddiad manwl gan Archwilio Cymru ac yn cydnabod difrifoldeb ei ganfyddiadau.
'Diffyg eglurder'
Dywed yr adroddiad iddynt fethu egluro a dogfennu'r rheswm pam y gadawodd Mr Westley ei gyflogaeth, a pham yr oedd yn mynd i gael taliad terfynu ar amodau treth ffafriol.
Roedd diffyg eglurder cyffredinol ynghylch pwy oedd yn cynghori pwy yn y negodiadau cyfreithiol ynglŷn â'r cytundeb setlo.
Fe waethygodd y sefyllfa, medd yr adroddiad, am fod y pennaeth adnoddau dynol wedi rhannu gwybodaeth gyfreithiol allanol y cyngor gyda Mr Westley.
Cafodd y penderfyniad i wneud taliad terfynu i Mr Westley ei wneud fel penderfyniad gweithredol, a oedd yn anghywir, ac yn ôl barn yr archwilydd cyffredinol, roedd y taliad "yn erbyn y gyfraith".
Fe awgrymodd pennaeth gwasanaethau cyfreithiol y cyngor sir i swyddog monitro'r cyngor nad oedd y taliad yn cydymffurfio, o bosib, â datganiad ar bolisi tâl statudol y cyngor.
Ond ni aed i'r afael â'r pryder, yn ôl yr adroddiad, ac mae'n ymddangos fod y cyngor "wedi gwyro oddi wrth bolisi tâl heb allu dangos rheswm da dros wneud hynny".
Dywed yr adroddiad fod y broses wedi bod yn "sylfaenol ddiffygiol" a ddim yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol.
'Dan straen'
Cafodd Mr Westley yr arian cyn y dyddiad talu a oedd wedi'i nodi.
Ni chafodd cynghorwyr yr hawl i adolygu a phenderfynu a ddylai'r prif weithredwr gael "taliad terfynu".
Yn ôl yr adroddiad, un o'r ffactorau wnaeth arwain at ymadawiad y prif weithredwr oedd bod y berthynas rhyngddo ef a rhai aelodau o gabinet y cyngor "dan straen" a bod ei berthynas gyda rhai aelodau o'r cabinet wedi gwaethygu i'r graddau "nad oedd modd eu hadfer".
Mae'r Archwilydd wedi cyflwyno wyth o argymhellion, gan gynnwys y dylid:
diffinio beth yn union yw cyfrifoldebau cynghorwyr a swyddogion
adolygu prosesau pan mae yna gŵyn gan swyddogion/cynghorwyr a sicrhau fod taliadau "terfynu" yn cael eu gwneud mewn ffordd dryloyw yn y dyfodol.
Wrth ymateb ddydd Iau, gofynnodd arweinydd grŵp Annibynnol y cyngor, y Cynghorydd John Davies, "oes gan y cyhoedd hyder yn y dyn yma [yr arweinydd] a'i weinyddiaeth?"
Ychwanegodd mai "dim ond un cam sydd ar ôl" i'r arweinydd Mr Simpson, drwy ymddiswyddo.
"Os yw ei gydwybod yn fyw dyw e ddim yn mynd i oroesi hyn."
Wrth groesawu'r adroddiad dywedodd llefarydd ar ran y cyngor eu bod yn cydnabod bod mwy i'w wneud o hyd ond "bod cynnydd sylweddol eisoes wedi'i wneud mewn llawer o'r meysydd a nodwyd yn adolygiad Archwilio Cymru.
"Sefydlwyd rhaglen wella gynhwysfawr y llynedd i fynd i'r afael ag arsylwadau yn deillio o adolygiadau allanol a mewnol a gomisiynwyd gan y Cyngor.
"Bydd adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, adroddiadau cysylltiedig eraill a chynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r argymhellion yn cael eu hystyried gan gyfarfod o'r Cyngor ar 1 Chwefror 2022," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd2 Medi 2020
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2021