Achos twyll: Llys yn clywed geiriau olaf Gerald Corrigan

  • Cyhoeddwyd
Gerald CorriganFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Honnir i Gerald Corrigan a'i bartner gael eu twyllo o dros £200,000

Geiriau olaf dyn wrth ei bartner, ar ôl cael ei saethu gyda bwa croes, oedd dweud wrthi gysylltu â'r dyn sydd bellach o flaen llys am eu twyllo, mae llys wedi clywed.

Cafodd Gerald Corrigan, 74, ei saethu gyda bwa croes tu allan i'w gartref ger Ynys Lawd, Ynys Môn, yn Ebrill 2019.

Mae Richard Wyn Lewis, 50, o Lanfair yn Neubwll, yn gwadu cymryd dros £200,000 oddi wrth Mr Corrigan a'i bartner, Marie Bailey, 67, dros gyfnod o sawl blwyddyn.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug nad oedd cysylltiad rhwng y twyll honedig a'r llofruddiaeth.

'Y geiriau olaf'

Wrth roi tystiolaeth drwy gyswllt fideo ddydd Iau, dywedodd Ms Bailey nad oedd Mr Corrigan eisiau iddi yrru ei char i ddilyn yr ambiwlans i'r ysbyty, gan ei bod wedi tywyllu.

"Roedd o mewn lot fawr o boen, ond wnaeth o ddim stopio meddwl amdanaf fi", meddai. "Doedd o ddim isio i mi yrru yn y tywyllwch."

Dywedodd wrthi ffonio Mr Lewis - rhywun yr oedd Mr Corrigan yn ymddiried ynddo i ofalu amdani.

"Dywedodd wrtha'i gysylltu 'efo Wyn. Dyna oedd y geiriau olaf a siaradodd 'efo fi," meddai Ms Bailey.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mr Corrigan anafiadau angheuol y tu allan i'w gartref

Yn gynharach, clywodd y llys fod Mr Lewis wedi "ynysu" Mr Corrigan a chymryd taliadau mewn arian parod gan y cwpl, yr oeddynt yn credu oedd mewn cysylltiad â datblygu a gwerthu eu cartref, Gof Du, yn ogystal â phrynu ceffylau.

Roedd Mr Corrigan yn gwybod "fod rhywbeth ddim yn iawn", meddai Ms Bailey, ac roedd wedi cyhuddo Mr Lewis o ddweud celwydd, ond roedd yn gobeithio y byddai'r gwerthiant yn mynd drwodd ac y gallent symud ymlaen.

'Sylw ffwrdd â hi'

Dywedodd Sam Robinson QC, sy'n amddiffyn Mr Lewis: "Hwn oedd y person yr oedd Gerry wedi dweud wrthych ei fod yn gelwyddgi, ond y person cyntaf y gallai feddwl amdano i edrych ar eich hôl chi yn y sefyllfa honno?"

Atebodd Ms Bailey: "Fedra' i ddim dweud wrthych chi pam bod ganddo'r gwahanol deimladau yna."

Awgrymodd Mr Robinson y gallai cyhuddiad Mr Corrigan fod yn "sylw ffwrdd â hi", ond gwadu hynny wnaeth Ms Bailey.

"Roedd hyn tua'r diwedd pan oeddan ni'n gobeithio gadael Gof Du, ac roedd o'n gelwydd noeth", meddai. "Doedd o [y gwerthiant] byth yn mynd i ddigwydd, ond doedd Gerry ddim yn gwybod hynny, na finnau chwaith."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mr Corrigan, darlithydd wedi ymddeol, yn byw ger Ynys Lawd, ar Ynys Cybi, Môn

Gofynnodd Mr Robinson a fyddai Mr Corrigan yn gallu sefyll i fyny drosto'i hun a dangos dicter.

"Roedd o'n sicr yn gwybod beth roedd o eisiau... roedd yn gallu dangos dicter mawr. Ond roedd o'n bendant yn oedolyn, ac roedd o'n gallu rheoli ei wylltineb," meddai.

Awgrymodd Mr Robinson ei fod yn bosio Mr Lewis, ond roedd Ms Bailey'n anghytuno.

"Dwi ddim yn meddwl bod Gerry'n ordro Wyn o gwmpas. Nid yn y ffordd rydych chi'n awgrymu," meddai.

Mae Mr Lewis yn wynebu 11 cyhuddiad o dwyll yn erbyn nifer o ddioddefwyr, ac un o fwriad i wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae ei bartner Siwan Mclean wedi'i chyhuddo o dwyll ariannol trwy adael £50,000 o arian wedi'i ddwyn i mewn i'w chyfrif banc, ar gyfer pryniant honedig hen ysgol.

Mae'r ddau yn gwadu'r cyhuddiadau, ac mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig