'Angen rhannu buddiannau statws UNESCO yn deg'

  • Cyhoeddwyd
ardal y llechi

Mae angen i fuddiannau statws UNESCO ardaloedd chwareli'r gogledd orllewin gael eu rhannu'n gyfartal ar draws yr ardal, yn ôl cynghorydd o Wynedd.

Cafodd ardal llechi Gwynedd ei ddynodi yn un o Safleoedd Treftadaeth y Byd fis Gorffennaf y llynedd - y pedwerydd safle yng Nghymru.

Ond mae pryderon y gallai cymunedau fel Llanberis barhau i wynebu problemau o or-dwristiaeth tra bod cymunedau eraill o fewn yr ardal yn methu allan.

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud eu bod wrthi'n datblygu fframwaith ar y cyd gyda Pharc Cenedlaethol Eryri er mwyn creu system dwristiaeth gynaliadwy.

Maen nhw'n mynnu y bydd y statws UNESCO newydd yn dylanwadu ar bob ardal.

Wrth i lai o bobl allu teithio dramor yn sgil cyfyngiadau Covid-19, mae'r parc cenedlaethol yn dweud bod cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer yr ymwelwyr sy'n dod i'r ardal.

Tra bod rhai buddiannau i'r economi leol, mae'r twf wedi arwain at bryderon am ddiffyg isadeiledd i ymdopi â rhagor o ymwelwyr gan gynnwys pryderon am barcio a phrinder adnoddau mewn cymunedau bychain.

Disgrifiad o’r llun,

Mae diffyg parcio yn achosi problemau i bobl leol, dywed Kevin Morris Jones

"Mae bob dim am ddim yma - Llyn Padarn, yr Wyddfa ac mae pawb eisiau dod yma," meddai'r cynghorydd lleol dros Lanberis, Kevin Morris Jones.

"Mae 'na ddiffyg parcio yma ac mae hynny yn creu problemau inni bobl leol yma."

'Pawb eisiau dod yma'

Wrth i ragor ymweld â'r ardal wedi Covid, mae 'na boeni y bydd cyfuniad o ffactorau - gan gynnwys y statws UNESCO newydd - yn achosi twf pellach mewn niferoedd.

Mae 'na alwadau felly i lwyddiant a buddiannau'r statws gael eu rhannu a lledaenu ar draws yr ardal - gan gynnwys Dyffryn Nantlle, Ogwen, Ffestiniog ac Abergynolwyn, ac nid dim ond mewn mannau prysur fel Llanberis.

"Mae gynnon ni rai pentrefi heb ddim byd ac mi fasa fo'n bechod iddyn nhw luchio bob dim at Lanberis," meddai Mr Jones.

"Yndi mae Llanberis isio i bobl ddod yma ond mae angen inni helpu ein gilydd. Llanberis ydy post code Eryri, mae pawb eisiau dod yma."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Helen Pye yn hyderus y bydd sylw cyfartal i bob ardal yn sgil y gwaith

Dros gyfnod o ddwy flynedd mae nifer o bryderon wedi codi am ddiffyg isadeiledd i gynnal twristiaeth yng Ngwynedd gyda thrigolion lleol wedi cwyno am ddiffyg parcio a thagfeydd yn achosi trafferth ger yr Wyddfa.

Wrth ymateb i hyn mae Cyngor Gwynedd, mewn cydweithrediad ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, wrthi'n ymgynghori er mwyn datblygu fframwaith Twristiaeth Gynaliadwy newydd fydd yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach heddiw.

"O ran y math o bethau da ni eisiau datrys... mae o am sut ellith twristiaeth eistedd yn well a dod a budd gwell i'r cymunedau yma," meddai Pennaeth Ymgysylltu Parc Cenedlaethol Eryri, Helen Pye.

"O ran y statws UNESCO, 'da ni'n gweld o fel ffordd i helpu rheoli'r lefel o ymwelwyr. 'Da ni'n gweld o fel tool da i helpu ni reoli.

"O ran y cynllun 'da ni'n glir bod rhaid i bob ardal gael yr un lefel o sylw a dwi'n hyderus o ran y gwaith mae'r cyngor am wneud y bydd hynny yn digwydd."

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd golygfeydd fel y rhain yn gyffredin yn ardal Pen-y-pass yn ystod y pandemig ger Yr Wyddfa

Yn ôl y cynghorydd Gareth Thomas, sy'n gyfrifol am yr economi ar Gyngor Gwynedd, mae 'na obaith hefyd y bydd y statws UNESCO yn arwain at ragor o dwristiaid yn ymweld mewn adegau tawel o'r flwyddyn.

"'Da ni eisiau defnyddio'r statws yma i symud pobl o gwmpas Gwynedd fel bod Llanberis a llefydd tebyg ddim yn gweld y niferoedd uchel o bobl yma.

"Trio hyrwyddo llefydd eraill yng Ngwynedd rŵan i drio lledaenu twristiaid sydd yma'n barod."

Ychwanegodd y byddai fframwaith Twristiaeth Gynaliadwy Cyngor Gwynedd a'r Parc yn edrych ar barchu iaith a diwylliant er mwyn cynnal cymunedau mewn modd parchus.