Pryder am effaith Statws Treftadaeth ar gymunedau llechi
- Cyhoeddwyd
Wrth i drigolion ardal llechi Gwynedd ddod i arfer â byw mewn Safle Treftadaeth Byd, mae rhai yn pryderu am sgil effeithiau'r dynodiad UNESCO ar gymunedau lleol.
Prif amcan sicrhau'r dynodiad oedd cydnabod pwysigrwydd y diwydiant a chymunedau llechi a'i rôl yn y byd, gyda'r gobaith o sbarduno twf economaidd ac adfywiad cymdeithasol yn y broses.
Ond "ofn pur" oedd ymateb Natasha Lowe-Sellers, 26, sy'n gweithio ym Mhrifysgol Bangor ac yn byw ger Chwarel Dinorwig gyda'i phartner.
"Dydy isadeiledd Cymru ddim yn medru ymdopi â thwristiaeth fel ma'i, ac mae'n broblem enfawr yma yng Ngwynedd. Dydy'r cyngor heb feddwl am yr effeithiau canlyniadol," meddai.
Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod nhw a'u partneriaid eisoes yn cynllunio'r camau nesaf er mwyn sicrhau'r budd gorau i gymunedau a busnesau Gwynedd i'r dyfodol.
Ond gyda mwy o ymwelwyr yn heidio i'r ardal eleni yn sgil rheolau teithio tramor presennol, mae'n debygol y bydd y lleoliad yn dod yn fwy poblogaidd fyth yn dilyn y dynodiad arbennig.
'Mwy o bobl, mwy o ail gartrefi'
"Mi fydd y lle yn cael ei agor i fyny i hyd yn oed mwy o bobl rŵan, ac mae'n debygol mai un o'r effeithiau canlyniadol fydd mwy o Airbnbs a mwy o ail gartrefi. Does unman i'w rentu fel ma'i," meddai Natasha.
"Mae fy mhartner a finna' mewn swyddi da ac rydyn ni'n dod fyny at ein 20au hwyr rŵan ac mi ddylen ni allu prynu tŷ, ond dydyn ni ddim yn gallu oherwydd 'da ni 'di cael ein prisio allan yn barod.
"Dwi'n poeni fydd y sefyllfa yn gwaethygu yn y dyfodol agos."
Mae Cymru wedi gweld cynnydd uwch mewn prisiau tai nag unrhyw ran arall o'r DU, gyda chynnydd o 10.9% o'i gymharu â llynedd yn ôl gwefan dai Rightmove.
Ond mae Natasha yn pryderu y gall pethau fynd o ddrwg i waeth yn ardal llechi Gwynedd os fydd pentrefi fel Dinorwig yn dod yn "gyrchfannau" yn hytrach na "llefydd ble mae pobl yn byw ac yn gweithio".
"Dwi'n meddwl bod o'n wirioneddol wych i amddiffyn treftadaeth Cymru, ond mae angen i ni amddiffyn cymunedau heddiw hefyd," meddai.
Mae Castell Caernarfon, sydd yn Safle Treftadaeth Byd ac yn denu oddeutu 200,000 o ymwelwyr y flwyddyn, wedi cynyddu gwerth eiddo cyfagos o draean, yn ôl ymchwiliad gan gwmni pensaernïaeth yn 2020.
Datgelodd Homedit trwy Zoopla, dolen allanol bod pris eiddo sydd o fewn tair milltir i'r castell oddeutu £219,000 ar gyfartaledd o'i gymharu ag eiddo yn yr ardal ehangach, sydd oddeutu £164,000.
Yn ôl Gareth Thomas, aelod cabinet Cyngor Gwynedd dros yr economi a chymuned, mae'r cyngor yn bwriadu mabwysiadu Cynllun Twristiaeth Cynaliadwy i'r sir er mwyn mynd i'r afael â phroblemau fel yr argyfwng dai ac isadeiledd gwael.
"Mae'r weledigaeth ddrafft yn canolbwyntio ar roi pobl Gwynedd yn ganolog i'n cynllun economi ymweld i'r dyfodol," meddai.
"Gyda phwyslais arbennig ar ein hiaith, diwylliant a threftadaeth, amgylchedd gynaliadwy a sicrhau'r buddion mwyaf i gymunedau a busnesau Gwynedd.
"Eisoes mae'r cyngor yn lobio ar gyfer grymoedd gan Lywodraeth Cymru er mwyn ymateb i'r broblem o dai haf yn yr ardal a'r argyfwng yn y farchnad dai, ac mae'r cyngor hefyd wedi mabwysiadu cynllun newydd ar gyfer ymateb i'r angen am dai fforddiadwy yn y sir."
'Angen gyrfaoedd i gadw pobl ifanc'
Ymhlith pryderon eraill mae'r math o swyddi fydd yn dod i'r ardal, sydd â rhai mannau difreintiedig iawn - cyflog cyfartalog etholaeth Dwyfor Meirionnydd oedd y trydydd isaf yn y DU yn 2019.
"Mae 'na lawer o sôn am greu swyddi newydd, ond pa fath o swyddi fyddan nhw?" meddai Natasha.
"Siawns y byddan nhw'n swyddi yn y sector twristiaeth, sydd yn eu hanfod yn swyddi â chyflog isel.
"Mae angen gyrfaoedd yn yr ardal i gadw pobl ifanc yma, ond ar y funud rydyn ni'n ddibynnol ar un economi yn unig, sef twristiaeth."
Mae ei phartner Iago Thomas, 27, sy'n geidwad mynydd, yn grefftwr brwd ac yn dymuno gweld mwy o swyddi creadigol yn ymwneud â'r diwydiant llechi yn benodol.
"Byddai'n wych cael swyddi creadigol sy'n hyrwyddo sgiliau traddodiadol, ond dwi'n poeni fydd y swyddi newydd yn rhai sy'n seiliedig ar wasanaeth," meddai.
"Byddwn i wrth fy modd yn cael hyrwyddo crefftau fel codi waliau cerrig sychion a chreu ffensys crawiau, ond hefyd datblygu'r crefftau yma mewn ffordd ddiddorol.
"Rydyn ni eisiau gyrfaoedd boddhaol fel bod pobl eisiau aros yma."
Yn ôl Yr Arglwydd Dafydd Wigley, cadeirydd y grŵp llywio wnaeth arwain ar y gwaith o sicrhau'r statws UNESCO, bydd partneriaid yn cytuno ar drefniadau gweithredu dros y misoedd nesaf er mwyn sicrhau bod eu hamcan i gydnabod pwysigrwydd y diwydiant a'r cymunedau llechi yn cael ei wireddu.
"Eisoes mae'r gwaith o ddatblygu'r enwebiad wedi arwain at ddenu dros £1m o fuddsoddiad allanol mewn prosiectau pwysig sy'n adfywio ein cymunedau'n economaidd ac yn gymdeithasol trwy dreftadaeth a diwylliant - ac mae nifer fawr o brosiectau'n cael ei datblygu ar gyfer y dyfodol," meddai.
"Trwy'r prosiect LleCHI, bu cyfle i Gyngor Gwynedd arwain ar brosiect i gynnal gweithgareddau amrywiol megis llysgenhadon llechi ifanc, prosiectau celfyddydol yn ein hysgolion cynradd ac uwchradd.
"Bydd y cyngor a'i bartneriaid yn mynd ati yn awr i ddatblygu prosiect i olynu'r prosiect LleCHI a gyllidwyd trwy'r Gronfa Loteri Dreftadaeth, Cyngor Gwynedd, Parc Cenedlaethol Eryri ac Arloesi Gwynedd Wledig."
Mae Meleri Davies o Bartneriaeth Ogwen yn gweld cyfleon pendant yn ymwneud â'r diwydiant llechi ar gyfer y dyfodol.
"Mae Partneriaeth Ogwen wedi bod yn bartner trwy'r broses o ddatblygu'r enwebiad ac rydym yn gweld cyfleon pendant i ddatblygu prosiectau cymunedol yn Nyffryn Ogwen," meddai.
"Trwy ein cydweithio gyda Dyffryn Nantlle ac Ardal Blaenau Ffestiniog, mae cyfleon gwych yma i ni rannu syniadau a chyd-ddatblygu prosiectau er lles dyfodol cynaliadwy ein cymunedau llechi."
Bydd y cyngor yn arwain ar sawl ymgynghoriad dros y misoedd nesaf lle bydd yn gofyn i bobl a busnesau Gwynedd am eu blaenoriaethau i'r dyfodol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2021