Dementia: 'Sefyllfa o ran y Gymraeg yn siomedig o hyd'
- Cyhoeddwyd
Mae Enfys Davies, o Benrhiw-llan ger Llandysul yn dweud bod gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig i bobl sy'n byw â dementia a dywed nad yw'r sefyllfa wedi gwella fawr ddim yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Fe siaradodd am ei phryderon gyda BBC Cymru 'nôl yn 2018 wrth iddi chwilio am gymorth i'w gŵr Peter.
"Does dim lot wedi newid yn y bedair blynedd diwetha'," meddai.
"I bobl sy'n dechre ar daith dementia dwi ddim yn meddwl bod yna unrhyw newidiade o ran y Gymraeg, na chwaith o ran trefniadau gofal dementia yn gyffredinol.
"Mae hyn yn siomedig iawn. Ar bapur, ma' pethe gyda ni, ond dydyn nhw ddim yn weithredol o hyd. Pryd fyddan nhw'n weithredol?"
"Ar hyn o bryd, pan fyddai yn cael gofalwyr i'r tŷ ma' llawer iawn ohonyn nhw yn ddi-Gymraeg.
"Bydde ni'n dweud fod wyth galwad ffôn mas o 10 i fi yn gael i drafod y gŵr trwy gyfrwng y Saesneg ac rwy'n ei chael hi'n anodd weithie i egluro fy hunan pan dwi 'di blino neu methu meddwl am y gair addas yn Saesneg i ddisgrifio'r sefyllfa."
Gobaith ymchwil newydd sy'n cael ei gyhoeddi ar-lein ddydd Mawrth yw ehangu gofal a gwasanaethau dwyieithog i bobl sy'n byw â dementia.
Y gobaith yw rhoi'r dewis i gleifion wneud eu hasesiadau clinigol trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg.
Arbenigwyr yn y maes o brifysgolion Bangor ac Abertawe fydd yn gweithio arno ac mae wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r profion Saesneg eisoes wedi'u cyfieithu i'r Gymraeg, gyda IAITH: Y Ganolfan Cynllunio Iaith nawr yn gyfrifol am eu treialu gyda siaradwyr Cymraeg.
Mae'n golygu bod cyfrifoldeb ar ddarparwyr gwasanaethau i ofyn pa iaith fyddai claf fwyaf cyfforddus yn ei defnyddio ac yna sicrhau bod cleifion yn cael cynnig cefnogaeth i ddefnyddio'r iaith honno pan fydd angen gofal a chymorth.
'Mynd at galon rhywun'
Daw'r ymchwil yn sgil un o brif argymhellion papur briffio ymchwil ar gyfer Llywodraeth Cymru gafodd ei ysgrifennu gan Dr Catrin Hedd Jones, darlithydd dementia ym Mhrifysgol Bangor.
Dywedodd y byddai'n disgwyl i berson sy'n gwneud asesiad fod yn "fwy naturiol a hyderus" yn yr iaith sy'n dod yn naturiol iddyn nhw.
"Ar lafar ry'ch chi yn clywed am bobl yn cael prawf Saesneg a phrawf yn Gymraeg a bod y ffigyrau yn wahanol a bod rhywun yn waeth yn Saesneg," meddai.
"Mae'n gallu bod yn beryg os yw rhywun ddim yn cael y wybodaeth gywir. Mae'n anfantais achos dyw rhywun ddim yn cael 'neud ei orau.
"Ry'ch chi mynd at galon rhywun pan bod chi yn siarad â nhw yn eu hiaith naturiol.
"Cyn belled â bod person yn cael ei asesu ar ei gryfa' ac ar ei orau - dyna sy'n bwysig."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n disgwyl i fyrddau iechyd sicrhau bod asesiadau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Mae adnoddau asesu iaith Gymraeg ar gael y gall pob bwrdd iechyd eu defnyddio ac rydyn ni wedi comisiynu ymchwil ar gadernid asesiadau dementia pan gânt eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg."
Yn ôl Huw Owen, swyddog polisi Cymdeithas Alzheimer's Cymru: "Fe ddylai pobl gael cynnig prawf cof yn Gymraeg os ydyn nhw'n gofyn am brawf Cymraeg.
"Mae hyn yn cael ei ystyried yn angen clinigol os oes angen i rywun dderbyn diagnosis a gofal trwy gyfrwng y Gymraeg.
"Fe all asesiadau trwy gyfrwng ail iaith olygu bod pobl yn cael diagnosis sy'n dangos eu bod nhw ymhellach ymlaen ar eu taith dementia nag ydyn nhw mewn gwirionedd.
"Mae hyn wedyn yn arwain at gefnogaeth a gofal aneffeithiol.
"Mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio gyda Phrifysgol Bangor i wella'r diagnosis fel bod pobl sy' angen profion trwy gyfrwng y Gymraeg yn gallu cael mynediad iddyn nhw yn rhwydd ac yn gallu cael y gefnogaeth sy' angen arnyn nhw."
Yn 2018 fe gafodd adroddiad ei baratoi ar y cyd gan Gomisiynydd y Gymraeg ac Alzheimer's Society Cymru.
Yn ôl Swyddfa y Comisiynydd roedd hwn yn amlygu bod anghysondeb yn yr ystod o declynnau, profion diagnostig ac adnoddau sy'n cael eu defnyddio gyda siaradwyr Cymraeg wrth gynnal profion dementia.
'Annheg'
Wrth ymateb i'r ymchwil newydd fe ddywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts: "Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu'r gwaith o gasglu gwybodaeth am yr offer asesu dementia sydd ar gael yn Gymraeg.
"Gobeithiaf y bydd hyn yn arwain yn fuan at sicrhau bod set o asesiadau safonol ar gael ar gyfer siaradwyr Cymraeg drwy Gymru.
"Wrth gynnal ymchwil i'r maes, gwelsom enghreifftiau lle roedd rhai siaradwyr Cymraeg yn cael eu hasesu drwy gyfrwng y Saesneg neu gyda chymorth cyfieithwyr.
"Nid yw hyn yn addas nac yn dderbyniol, ac mae'n annheg â'r unigolion sy'n cael eu hasesu.
"Felly, yn ogystal â sicrhau bod asesiadau safonol ar gael, mae angen i'r llywodraeth sicrhau bod gweithlu Cymraeg ar gael i'w cynnal."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd17 Mai 2016